Tandem Europe 2017
Llenyddiaeth Cymru yn creu cysylltiadau diwylliannol Ewropeaidd newydd
Mae Rheolwr Cyfranogiad Cymunedol Llenyddiaeth Cymru Louise Richards a’n Pennaeth Rhaglenni Elena Schmitz ill dwy wedi eu dewis i gynrychioli Cymru ar Fforwm Partneriaid Tandem Europe yn Sofia, Bwlgaria, ym mis Hydref 2017. Bydd y ddwy yn ymuno â 40 o ymarferwyr creadigol a chelfyddydol eraill o wyth ar hugain o Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd, Y Balcanau Gorllewinol, Y Swistir, Norwy a Gwlad yr Iâ. Y nod yw canfod partner i ddatblygu prosiect creadigol blwyddyn o hyd sy’n archwilio arloesi cymdeithasol.
Mae Tandem Europe yn rhaglen o ddysgu a gweithredu traws-ffiniol sy’n seiliedig ar bartneriaethau sy’n croesi diwylliannau a ffiniau. Gyda’i gilydd, mae partneriaid yn dyfeisio a phrofi syniadau newydd i herio sialensiau economaidd-gymdeithasol trwy gyflawni prosiect peilot ar gyfer eu hamgylchfyd lleol. Fel rhan o’r prosiect bydd pob partner yn cymryd rhan mewn ymweliad galwedigaethol gyda’u partner sefydliadol; gan chwarae rhan uniongyrchol yn amgylchedd gweithio’r partner, a phrofi eu diwylliant yn uniongyrchol. Bydd Llenyddiaeth Cymru yn ymuno â chymdeithas gynyddol o arloeswyr diwylliannol a chymdeithasol sydd yn chwarae rhan weithredol yn llywio dyfodol cyffredin Ewropeaidd, yn rhyngwladol ac ar lawr gwlad.
Mae Tandem Europe wedi ei deilwra ar gyfer pobl sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod arloesi cymdeithasol yn bosib ar draws yr Undeb Ewropeaidd i gyd. Mae’r rhaglen yn efelychu meddylfryd strategol ac yn helpu i greu a chynnal prosiectau diwylliannol arloesol ar draws yr holl sectorau, disgyblaethau a’r ffiniau. Mae’r prosiect hefyd yn archwilio datrysiadau creadigol a rhai ar y cyd ar gyfer sialensiau cyfoes yn ein cymdeithasau.
Mae Llenyddiaeth Cymru yn credu’n gryf mewn pŵer trawsnewidiol celfyddyd gyfranogol, a bod llenyddiaeth yn benodol yn chwarae rôl hanfodol mewn llywio arloesi a newid cymdeithasol. Meddai Elena Schmitz, Pennaeth Rhaglenni Llenyddiaeth Cymru:
“Ry’n ni’n edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â sefydliadau celfyddydol ar draws Ewrop, yn enwedig er mwyn mynd i’r afael â phryderon cymdeithasol ac i ddatblygu ymwybyddiaeth a pharch diwylliannol estynedig yn dilyn pleidlais Brexit. Gobeithiwn y byddwn yn canfod ffyrdd newydd i drechu ‘newyddion ffug’ sy’n cael ei ddefnyddio i hollti, yn hytrach na maethu, cymdeithasau cydlynol.”
Ym mis Tachwedd 2016, bu Llenyddiaeth Cymru yn gweithio gyda Head4Arts i groesawu Pierluigi Vaccaneo, cyd-sylfaenydd TwLetteratura a Betwyll yn yr Eidal, draw i Gymru. Dyma ganlyniad uniongyrchol o gyfranogiad Head4Arts ym mhrosiect Tandem Europe.
Ynglŷn â Tandem
Mae Tandem yn rhaglen ddiwylliannol gydweithredol sy’n cryfhau cymdeithas sifil yn Ewrop a’r ardaloedd cyfagos. Ar hyn o bryd mae 5 rhaglen Tandem yn canolbwyntio ar ardaloedd a phynciau gwahanol: Tandem Europe, Tandem C&P, Tandem Ukraine, Tandem Turkey a Tandem Shaml.
Mae Tandem Europe yn ychwanegu at bartneriaeth strategol newydd rhwng partneriaid crai Tandem (ECF a MitOst), sefydliadau o’r Eidal (Fondazione Cariplo), Groeg (Stavros Niarchos Foundation), Y Swistir (Pro Helvetia) a’r Almaen (Robert Bosch Stiftung) a chyrff anllywodraethol o Bortiwgal (4iS), Groeg (COMM’ON) a Bwlgaria (Ideas Factory)
Sefydlwyd rhaglen Tandem yn 2011 ar y cyd rhwng yr European Cultural Foundation (Amsterdam) a MitOst e.V. (Berlin). Hyd yn hyn mae’r rhaglen wedi cefnogi cydweithio rhwng 250 o reolwyr diwylliannol o tua 35 o wledydd Ewrop a thu hwnt.