Dewislen
English
Cysylltwch

TwLetteratura Caerffili

Cyhoeddwyd Llu 22 Hyd 2018 - Gan Llenyddiaeth Cymru
TwLetteratura Caerffili
Mae tair o ysgolion cyfrwng Cymraeg Caerffili wedi dechrau ar brosiect cyffrous dan raglen Cydweithio Creadigol Cyngor Celfyddydau Cymru (TwLetteratura Caerffili).

Bydd disgyblion Blwyddyn 5 ac athrawon o Ysgolion Cwm Gwyddon, Penalltau a Trelyn yn treulio’r tri thymor nesaf yn ymchwilio ap Eidalaidd newydd (Betwyll) sy’n helpu i feithrin mwynhad pobl ifanc o ddarllen drwy roi llwyfan darllen ar-lein a rhwydweithio cymdeithasol ynghyd â chopi caled o’r llyfr.

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cydweithio â Head4Arts i gyflwyno TwLetteratura ledled Cymru dros y dair blynedd diwethaf, ac rydym yn falch iawn o gefnogi Head4Arts wrth iddynt ddod â’r cynllun arloesol hwn i ysgolion Cymraeg yng Nghaerffili. 

I ddechrau, bydd yr ysgolion yn canolbwyntio ar y llyfr Sombis Rygbi / Rugby Zombies i brofi sut mae’r ap darllen yn gweithio mewn cymunedau dwyieithog, gan weithio gyda’r awdur Dan Anthony a’r bardd rap o Gymru Rufus Mufasa. Wedyn byddant yn clywed sut caiff llyfrau eu cyhoeddi, gyda chymorth Gwasg Gomer, darlunydd a chyfieithydd, a chydweithio  i ddatblygu fersiwn Cymraeg newydd o lyfr nad yw ond ar gael yn Saesneg ar hyn o bryd.

Ar hyd y ffordd byddant yn rhannu eu ffordd newydd o ddarllen cymdeithasol gyda phobl ifanc eraill a byddant yn dyfeisio ffyrdd newydd o ddefnyddio’r ap i “ddarllen” cyfryngau eraill nad ydynt yn ymwneud â thestun – megis eu hamgylchedd, lluniau mewn oriel neu eitemau mewn amgueddfa.

Mae’r disgyblion yn gobeithio y bydd y prosiect yn eu helpu i wella eu defnydd o’r Gymraeg ar-lein a thu allan i safle’r ysgol. Hefyd, maent eisiau canfod ffyrdd diddorol o gefnogi dysgu Cymraeg ar gyfer rhai nad ydynt yn siarad yr iaith.

Cydlynwyd prosiect TwLetteratura Caerffili gan Celf ar y Blaen, sefydliad celfyddydau cymunedol seiliedig yn y Cymoedd, sydd wedi dod ynghyd â thîm o sefydliadau arbenigol sy’n cefnogi’r prosiect. Maent yn cynnwys y partneriaid o’r Eidal Pierluigi Vaccaneo a Micol Doppio o Associazione Culturale Twitteratura a Betwyll, a chynrychiolwyr o Menter Iaith Caerffili a Llenyddiaeth Cymru.

Dywedodd Kate Strudwick, rheolwr Prosiect Creadigol:
“Mae hwn yn brosiect uchelgeisiol iawn gyda llawer o bartneriaid yn cymryd rhan – pob un ohonynt yn angerddol am ddarllen ac eisiau canfod ffyrdd i helpu pobl rannu cariad o lyfrau – ym mha bynnag iaith sydd orau ganddynt. Rydym hefyd eisiau i bobl ifanc fod yn wirioneddol ddyfeisgar am sut y defnyddiant y dull dysgu hwn yn yn y dyfodol. Gobeithiaf y bydd ein hymchwiliadau yn helpu llawer o bobl eraill, yma yng Nghymru a hefyd mewn cenhedloedd eraill dwyieithog.”

Plant a Phobl Ifanc