Dewislen
English
.

Y Bardd Hedd Wyn I Gael Ei Goffau mewn Sioe Fideo Arbennig wedi ei Daflunio ar Furiau Llyfrgell Gendlaethol Cymru

Cyhoeddwyd 19 Tachwedd 2017 - Gan Literature Wales

Bydd prosiect fideo unigryw sy’n coffáu canmlwyddiant marwolaeth bardd y Rhyfel Mawr Ellis Humphrey Evans, yn cael ei daflunio ar furiau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ystod wythnos y cofio ar ôl derbyn cefnogaeth gan ScottishPower Foundation.

Bu i’r bugail ifanc a adnabuir wrth ei enw barddol – Hedd Wyn gael ei ladd ar ddiwrnod cyntaf  Brwydr Passchendaele yn 1917, ddiwrnodau ar ôl cael ei anfon i’r rheng flaen fel conscript.

Bu i gerdd Yr Arwr yr oedd y milwr wedi ei gorffen ychydig cyn ei farwolaeth, ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1917.

Pan gyhoeddodd beirniaid cystadleuaeth Y Gadair, yr anrhydedd pennaf i fardd yng Nghymru, enw’r enillydd, safodd neb. Bu’n rhaid  gofyn dair gwaith iddo ddod ymlaen i gymryd ei sedd anrhydeddus, ond ni chawsant ateb.

Yn y diwedd, bu’n rhaid dweud wrth y gynulleidfa a oedd yn cynnwys Prif Weinidog a phensaer y consesiwn, David Lloyd George, fod Hedd Wyn wedi marw yn y frwydr ar feysydd Flanders cyn gallu cyflawni uchelgais ei fywyd.

Gorchuddiwyd y gadair a lliain du, ac o’r adeg honno ymlaen byddai’r Eisteddfod yn cael ei galw yn “Eisteddfod y Gadair Ddu”. Yn ystod yr wythnos yn dilyn yr Eisteddfod, anfonwyd y gadair at deulu Hedd Wyn ar eu fferm, Yr Ysgwrn, yn Nhrawsfynydd, Eryri lle mae’n dal i gael ei harddangos heddiw,

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, sy’n cynnal fferm teulu Hedd Wyn fel amgueddfa, yn geidwaid i gasgliadau helaeth ac wedi cydweithio mewn rhaglen estyn allan uchelgeisiol a phellgyrhaeddol drwy gydol 2017 gan ddod â stori y bardd a’i waith yn fyw i genhedlaeth newydd.

Mae eu gwaith, gyda chymorth ScottishPower Foundation, wedi cynnwys cyflwyno 26 o weithdai i dros 800 o blant ac oedolion ysgol, a dosbarthu 3000 o gopïau o lyfryn a grëwyd yn arbennig ar etifeddiaeth Hedd Wyn i ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru.

Bydd y fenter yn dod i ben ar 9 Tachwedd – dau ddiwrnod cyn Dydd y Cofio – pan fydd gosodiad fideo yn cynnwys plant o bentref brodorol Hedd Wyn yn cael ei daflunio ar flaen adeilad eiconig Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.

Bydd disgyblion Ysgol Bro Hedd Wyn yn darllen ei waith enwocaf, Rhyfel, ar gyfer y prosiect sydd wedi’i gomisiynu’n arbennig gan ScottishPower Foundation.

Mae llinellau o’r gerdd sy’n sôn am ddyfodol rhyfel wedi cael eu cydblethu gyda ffilm o gartref Hedd Wyn, Yr Ysgwrn, a delweddau yn ymwneud â’r bardd a’r profiad Cymreig ehangach yn y Rhyfel Mawr a ddarparwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Dywedodd Linda Tomos, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Bydd y digwyddiad yn benllanw ar raglen wych o waith estyn allan. Rydym yn ddiolchgar iawn i ScottishPower Foundation am ariannu’r rhaglen yn hael ac i Mr Gerald Williams, nai Hedd Wyn ac Yr Ysgwrn am eu cefnogaeth barhaus.”

Literature Wales