Dewislen
English
Cysylltwch

Yr her wedi’i chwblhau: 100 o gerddi mewn 24 awr

Cyhoeddwyd Iau 28 Medi 2017 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Yr her wedi’i chwblhau:  100 o gerddi mewn 24 awr
Yr Her wedi’i Chwblhau:
100 o gerddi mewn 24 awr

“does dim i’w wneud ond diolch i’n holl ddarllenwyr clên –
y chi’n sy’n bwydo’r awen; y chi sy’n creu y llên.”

Beth sydd gan Hugh Hefner, peiriannau golchi, cerddorfa ukulele, a’r Brodyr Gergory yn gyffredin? Dyma rai o’r ystod eang o bynciau a luniwyd mewn cerddi yn ystod Her100Cerdd eleni. Dros y 24 awr diwethaf mae’r 4 bardd dewr – Karen Owen, Rhys Iorwerth, Iestyn Tyne a Gwynfor Dafydd – wedi llwyddo i ysgrifennu cant o gerddi rhyngddynt ar bynciau a ddewiswyd gan y cyhoedd. Gan ddefnyddio’r hashnod #Her100Cerdd anfonwyd ceisiadau am gerddi ar bob math o bynciau – y difyr, difrifol, a’r doniol.

Llocheswyd y beirdd eleni yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy. Roedd staff Llenyddiaeth Cymru ar gael drwy’r nos i gadw llygad ar y beirdd blinedig ac i gynnig cefnogaeth a choffi. Drwy gydol yr her, gosodwyd y cerddi fesul un ar wefan Llenyddiaeth Cymru, a’u rhannu ar wefannau cymdeithasol.

Cyn i Her100Cerdd ddechrau soniodd Rhys Iorwerth iddo gael ei ddarbwyllo i gymryd rhan mewn sgwrs “nad oedd yn ei gofio’n iawn” gyda Leusa Llywelyn, Pennaeth Tŷ Newydd, yn ystod yr Eisteddfod eleni. Lluniwyd cerdd yn ymateb i’r penbleth hwn fel rhan o’r her (rhif 13).

Mae rhai o’r uchafbwyntiau eraill yn cynnwys cerdd ddirdynnol ar iechyd meddwl gan Iestyn Tyne (rhif 19), cerdd am Catalunya gan Gwynfor Dafydd (rhif 20), cerddi i’r hydref gan Karen Owen (rhif 18 a 92), a cherdd gan Rhys Iorwerth i redwyr hanner marathon Caerdydd (rhif 32).

Dyma’r bumed tro y mae Llenyddiaeth Cymru wedi trefnu’r Her100Cerdd fel rhan o ddathliadau Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth. Erbyn hyn mae’r Her wedi sefydlu’i hun fel un o brif ddigwyddiadau llenyddol Cymru gyda channoedd yn cymryd rhan drwy anfon eu ceisiadau am gerddi, a miloedd rhagor yn dilyn dros y we. Y canlyniad yw fod Her100Cerdd yn fraslun o fywyd Cymru mewn un diwrnod, gyda’r cerddi yn adlewyrchu diddordebau, pryderon a phleserau’r Cymry. Anfonwyd ceisiadau am gerddi gan sefydliadau nodedig gan gynnwys Oxfam Cymru, Merched y Wawr, a Radio Cymru. Yn ogystal â cherddi dwys a difrifol, ceir ambell un mwy direidus ar bynciau amwys megis porc peis, ping-pong, a’r ysfa i fynd i’r gwely.

Cwblhawyd yr her ar 11.59 am yn union gyda cherdd addas iawn o’r enw ‘Diwedd shifft’. Pan holwyd Rhys Iorwerth am sut yr oedd yn teimlo o gwblhau’r dasg, atebodd: “Byddaf yn ceisio osgoi Leusa Fflur yn yr Eisteddfod flwyddyn nesaf.”

Gallwch weld yr holl gerddi yma: www.llenyddiaethcymru.org/our-projects/her-100-cerdd/

Llenyddiaeth Cymru