Noddi Digwyddiadau

1. Cyflwyniad
*Noder bod yna newidiadau i delerau ac amodau Llenyddiaeth Cymru. Rhaid i grant Llenyddiaeth Cymru gael ei hawlio gan drefnwyr y digwyddiad o fewn 8 mis wedi’r digwyddiad (au).
1.1. Amlinelliad o’r cynllun nawdd
Gall Llenyddiaeth Cymru gynnig cymorth ariannol tuag at nifer o ddigwyddiadau llenyddol ac mae’r cynllun cymorth llenyddol, Awduron ar Daith, yn cael ei weinyddu yn syml ac yn gyflym. Mae Awduron ar Daith yn ariannu dros fil o ddarlleniadau a gweithdai ledled Cymru bob blwyddyn, ac mae oddeutu wythdeg mil o bobl yn manteisio ar y cyfleoedd hyn bob blwyddyn. Mae cydbwysedd cyfartal rhwng y gweithgareddau Cymraeg a Saesneg ac mae gwaith newydd yn datblygu mewn Urdwaidd, Arabaidd a Somalaidd.
Gall Llenyddiaeth Cymru gynnig cymorth tuag at nifer o wahanol ddigwyddiadau gan gynnwys gweithdai llenyddol, darlithoedd, darlleniadau, cynadleddau, stompiau, nosweithiau cerdd a chwrw ac yn wir unrhyw ddigwyddiad yn ymwneud ac ymarfer, hyrwyddo, gwerthfawrogi neu ddatblygu ysgrifennu creadigol.
Dim ond sefydliadau, trefnwyr a hyrwyddwyr sy’n cael cynnig y cynlluniau cymorth; chaiff unigolion ddim ymgeisio. Ni all llenorion gynnig eu hunain ar gyfer digwyddiad gan ddisgwyl nawdd, ac ni chaiff trefnwyr geisio cyllid ar gyfer digwyddiadau lle maent yn bwcio eu haelodau, eu gweithwyr cyflogedig neu eu swyddogion eu hunain i gyflwyno gweithdai neu berfformiadau. Mae’r sefydliadau sy’n gymwys am nawdd yn cynnwys ysgolion, llyfrgelloedd, tafarndai, clybiau, cymdeithasau, canolfannau cymunedol, gwyliau celfyddydol, a lleoliadau eraill ledled Cymru. Ni allwn ariannu digwyddiadau partïon gwleidyddol nac i ddigwyddiadau sy’n codi arian elusennol.
Gall Llenyddiaeth Cymru ariannu hyd at 50% o gostau digwyddiadau llenyddol priodol. Mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnig nawdd tuag at ffi’r awdur (ac weithiau yn ystyried cyfrannu tuag at dreuliau a llety). Fel arfer ni fydd unrhyw gostau eraill yn gymwys am nawdd.
Darllenwch ein canllawiau a’r termau ac amodau yn ofalus cyn gwneud cais os gwelwch yn dda.
1.2. Gwybodaeth Gyffredinol
Cynllun Awduron ar Daith yw cynllun ariannu hynaf a symlaf Prydain ar gyfer digwyddiadau llenyddiaeth. Cafodd ei sefydlu’n gyntaf gan Gyngor Celfyddydau Cymru tua 30 mlynedd yn ôl.
Mae nawdd ar gael i gynorthwyo’r canlynol:
• Ymweliadau unigol gan awduron ag ysgolion, llyfrgelloedd, tafarnau, clybiau, cymdeithasau, canolfannau cymunedol, gwyliau celfyddydol, a lleoliadau eraill ledled Cymru.
• Cynlluniau Awduron Preswyl sy’n helpu i ariannu cyfnodau estynedig o waith gan un awdur neu fwy mewn un lleoliad neu ar un prosiect. Gall y rhain fod yn digwydd mewn ysgolion unigol neu mewn clwstwr, mewn clybiau ieuenctid neu lyfrgelloedd, mewn grŵp o ganolfannau dydd neu gartrefi gofal.
• Trefnu rhaglenni lleoliadau, gwyliau neu gyfresi sy’n arloesol, newydd a chyffrous megis rhaglenni o weithgaredd llenyddol mewn gwyliau neu deithiau llenyddol.
• Gweithdai a digwyddiadau Sgwadiau ‘Sgwennu i Bobl Ifainc
1.3. Gwneud cais
- Dewis eich awdur.
Rydym yn cadw cronfa ddata o’r rhan fwyaf o awduron yn y ddwy iaith sy’n Gymry ac yn byw yng Nghymru, ynghyd â bywgraffiadau byr a manylion cyswllt, ac mae gan rai o’r tudalennau linciau i wybodaeth bwcio ar gyfer y trefnwyr. Dylai’r trefnwyr chwilio am awdur addas ond nid oes rhaid i drefnwyr ddewis o’r rhestr hon yn unig. Bydd Llenyddiaeth Cymru yn ystyried ceisiadau ar gyfer unrhyw awdur sydd â’r cymwysterau priodol; mae’r rhan fwyaf o awduron blaenllaw’r DU wedi gweithio yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf. Gall Llenyddiaeth Cymru gynnig cymorth ar gyfer eich dewis o lenorion ar gyfer digwyddiadau arbennig.
- Trefnu efo'r awdur.
Cadarnhewch dyddiad a lleoliad y digwyddiad gyda’r awdur.
Mae manylion cyswllt rhai o'r awduron ar ein Rhestr Awduron Cymru. Yn aml, gall Llenyddiaeth Cymru basio ceisiadau ymlaen at awduron sydd heb gyhoeddi eu manylion cyswllt ar ein gwefan.
- Cymhwyster?
Sicrhewch fod eich digwyddiad (a’ch sefydliad) yn gymwys i dderbyn nawdd gan Llenyddiaeth Cymru(gweler ein telerau ac amodau os gwelwch yn dda).
- Gwneud cais am nawdd.
Mae'n rhaid derbyn ceisiadau ysgrifenedig drwy ddefnyddio’r ffurflen gais ar lein neu trwy lawr lwytho PDF o’r ffurflen gais a’i hanfon yn y post. Mae’n rhaid i’r ceisiadau ysgrifenedig am gymorth ein cyrraedd ddigon ymlaen llaw, ac o leiaf mis cyn y digwyddiad arfaethedig (noder: mae hyn bellach yn cynnwys ysgolion hefyd). Os ydych yn gwneud cais am ddigwyddiad sydd ymhen llai na phum wythnos, ffoniwch Llenyddiaeth Cymru yn syth ar ôl anfon eich cais os gwelwch yn dda, er mwyn sicrhau bod y ffurflen wedi ein cyrraedd ac i osgoi siom.
- Ymateb.
Byddwn yn ymateb i’ch cais o fewn saith diwrnod gwaith. Os na fyddwch wedi clywed gennym cysylltwch â ni i wneud yn siŵr ein bod wedi derbyn eich cais. Cyfrifoldeb y trefnydd yw gwneud yn siŵr fod y cais yn ein cyrraedd mewn da bryd - Ni all Llenyddiaeth Cymru gymryd cyfrifoldeb am geisiadau sydd ddim yn ein cyrraedd.
- Cynnig.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn anfon llythyr i gadarnhau yn y post a hynny o fewn saith diwrnod i ni dderbyn eich cais. Os na allwn gynnig cymorth, byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted â phosib, gan nodi ein rhesymau. Rydym yn cysylltu ar e-bost felly a fyddech cystal â sicrhau bod y cyfeiriad e-bost a roddir i ni yn gyfredol a bod rhywun yn edrych ar y mewnflwch yn aml.


