Dewislen
English
.

Terasau 

i’r strydoedd cymen hyn, daeth rhesi bechgyn
yn cadw’u patrwm megis cynt,
wrth groesi tir neb.

Mae canrif wedi ail-lasu’r tir
a chwythwyd mewn eiliadau gwaed…
rhidyllu’i ymysgaroedd… ffrwydro’i gnawd.
Bu’n gysgod i’r bechgyn rhag y storom ddur
a’r drysau tyweirch yn cau’n dawel ar eu hôl.

Daethant o strydoedd cyfyng cyffelyb.
lle bu corn y gad yn corlannu cyfeillion
ar gyfer y fenter fawr,
cyn i’r tai wincio’u bleinds
o un i un.

Heno, mae’r cerrig yn wyn fel esgyrn
a heulwen yr hwyr
yn naddu’r enwau’n berffaith,
yn bwrw cysgodion hir.

Ddaw neb i darfu ar ango’r cymdogion,
dim ond ambell ddieithryn,
o’r dyfodol nas cawsant,
yn craffu’n ddi-ddeall ar Braille yr enwau,
am fod y drysau i gyd ar glo.

Cafodd y gerdd hon (ynghyd â chyfieithiad y bardd ohoni) ei thaflunio ar Dŵr Elisabeth (Big Ben) fel rhan o weithgareddau’r Senedd Prydeinig ar Ddydd Sul y Cofio, 2016.

 

Llythyr Mamgu gan Ifor ap Glyn

Ysgrifenwyd monolog gan Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru, i nodi 50 mlynedd ers trychineb Aberfan. Gellir ei ddarllen yma. Comisiynwyd y darn gan Ganolfan Mileniwm Cymru ar gyfer Cyngerdd Coffa Aberfan ar ddydd Sadwrn 8 Hydref, ac fe’i darllenwyd gan yr actor Siân Phillips.

 

Gweledigaethau Euro 2016

Ryw brynhawngwaith o Fehefin

a’r haf yn euro’r disgwyl hir,

cymerais fy hynt tua Ffrainc.

 

Ac mi a welais ryfeddodau;

yn gyntaf, wal goch,

a honno’n cyd-symud ac yn canu.

 

A’r wal a droes yn rhyferthwy

a gododd o ystlysoedd y stadiwm

a golchi’n fôr gorfoleddus o goch

drwy’r strydoedd, o Lens i Toulouse.

 

Ac mi a glywais arwyr y bêl gron

yn hawlio’u hiaith yn ôl, fesul ‘diolch’,

a chrys-wneuthurwyr a bragwyr

o ben draw’r byd,

yn ei harddel hefyd yn eu sgîl.

 

Ac wele, nôl yng Ngwalia,

roedd y ffenestri’n dreigio,

a’r trefi cochion yn taranu;

a’n hyder newydd fel enfys wedi’r glaw.

 

A dyma fy mhobl, y vampire nation

(a arferai syllu i’r drych a gweld dim)

yn camu o’r cysgodion

ac yn canfod eu hunain,

megis am y tro cyntaf.

 

Boed felly i’r rhyfeddodau hyn barhau

a chawn agor llwybrau newydd

wrth i’r hen rai fygwth cau –

a dyna fasa’n euro’r cyfan…

 

Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru

 

Ras yr Iaith

Tra’n cymryd rhan yn Ras yr Iaith, Gorffennaf 2016

Gorffennaf yn ei afiaith,
a chawn flas ar Ras yr Iaith

 

Cadw oed
Gorffennaf 2016

(er cof am Gapten Dafydd Jones, a’r cannoedd o Gymry eraill
a laddwyd yng Nghoed Mametz
)
Voici le bois de Mametz….

Ffolineb oedd ceisio’r coed heddiw,
ond cerddasom drwy fwledi’r glaw,
noethi’n pennau dan y derw llafar, a’u dail yn janglo
cyn troi ein hwynebau tua’r golau gwlyb.

Ceux-ci sont des arbres galloisants,
des chênes, des noisettes, des hêtres…

Coed Cymraeg eu hiaith yw’r rhain,
y derw, y cyll a’r ffawydd;
glaslanciau praff, yn syth fel bidogau,
a’u brigau deiliog yn rhidyllu’r glaw.

Yn eu gaeaf, mae llawr y goedwig
yn bantiau shells i gyd
-ond heddiw maen nhw wedi’u weirio
gan fieri’r haf
a chylchoedd rheini’n cuddio’r creithiau,
yn llyfnu’r gorffennol brwnt,
lle bôn-dorrwyd dynion hefo’r coed
mewn storom ddur…

Écoute! Ici, on peut, à peu près,
entendre les racines en s’enfoncant par terre
où se couchent les Gallois…

O dan y ddaear hon, mae gwreiddiau Mametz
yn cwpanu pob helmed fel plisgyn ŵy,
yn gwasgu drwy’r ‘sgidiau a laciwyd o draed y milwyr,
yn cosi asennau, dan anwes y pridd.

Mae eu gwaed yn dal i borthi’r coed…

C’est ici le memorial Gallois,n’est-ce pas?

Ac heddiw, wrth gerdded yn ysgafn
dros esgyrn ein cyn-dadau, ail-droediwn yr atgofion,
rhag i’r derw a’r ffawydd golli’u llais.

Ganrif ar ôl I’r Cymry hawlio’r coed,
mae eu hwyrion a’u hwyresau yn dal i gadw oed…

 

 

 

 

Y tŷ hwn

‘If we want Wales, we will have to make Wales’  – Gwyn Alf Williams

Daeth gwanwyn yn hwyr i’n gwlad;
y gaea wedi cloi ein huchelgais
a gwydro ein dyheadau,
cyn y dadmer mawr,
a barodd i’r gwteri garglo
a’r landeri garlamu.

Boed felly, haul, ar y tŷ hwn heddiw;
dyma bair ein dadeni; a llwyfan i’n llais;
lle canwn ein gweledigaeth i fodolaeth…

A down yma o sawl cwmwd, megis cynt –
wrth droedio’r llwybr dreiniog cul
sydd â gwlan fel trimins Dolig ar ei hyd;
neu wrth heidio lawr y lôn wleb
sy’n ddrych i sglein yr awyr –

down yma, i gyffwrdd  â’r gorwel
a’i blygu at iws gwlad.

Ac wrth ddynesu
o’n cymoedd a’n mynyddoedd
at ein dinas barhaus,

diolchwn nad oes tyllau bwledi
ym mhileri’r tŷ hwn,
dim ond cwmwl tystion wrth ein cefn
ym mhob plwraliaeth barn.

Ac wrth gael ein tywys
i gynteddau’r tŷ,
boed angerdd i’n trafod
a phwyll ymhob cymod;

boed i anodd ddod yn syml,
a’r heriol ddod yn hwyl;
a boed i ni gofio’r wireb hon beunydd:
‘cynt y cyferfydd dau ddyn
na dau fynydd’
Comisiynwyd y gerdd hon gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer achlysur Agoriad Swyddogol y Pumed Cynulliad

Nôl i Bardd Cenedlaethol Cymru