Dewislen
English
Cysylltwch
Rhwng Awst 2007 ac Awst 2017, cynigodd menter estyn allan Cynllun Datblygu Llenyddiaeth De Cymru (CDLlDC) gweithgareddau creadigol i grwpiau ac unigolion nad oedd ganddynt fynediad rhwydd i gelfyddydau’r brif ffrwd. Y nod oedd i gyrraedd y bobl y mae arnyn nhw ein hangen ni fwyaf, a hynny drwy brosiectau sy’n gwir ateb eu hanghenion.

Dros y ddeng mlynedd llwyddod y CDLlDC i:

  • Cysylltu â dros 37,300 o bobl
  • Cynnal dros 1050 o ddigwyddiadau
  • Trefnu dros 250 o brosiectau wedi eu teilwra’n benodol
  • Cynnig nifer o weithdai amrywiol yn Gymraeg a Saesneg gan gynnwys ysgrifennu creadigol, drama, cyfansoddi caneuon a rap, ysgrifennu straeon stribed ac animeiddio
  • Teithio ar draws de Cymru i gynnal sesiynau mewn ysbytai, ysgolion, cartrefi gofal, llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol – hyd yn oed ar y trên.

 

Cyflawnwyd hyn trwy gydweithio’n agos gyda deg o Awdurdodau Lleol, gan gynnwys Pen-y-bont, Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tydfil, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg, a hefyd gydag Ymddiriedolaeth Rhys Davies.

“Nid yw tlodi yn golygu angen ariannol neu ddiweithdra yn unig. Rhaid hefyd ystyried tlodi yn nhermau diffyg cyfleoedd, mynegiant, cymhelliant a dyhead” – Transforming Futures

Nod y fenter oedd cysylltu â phobl nad ydynt yn draddodiadol wedi bod yn rhan o fyd y celfyddydau, drwy drefnu gweithgareddau yn eu hardaloedd hwy ac addasu cynnwys y gweithgareddau yn ôl eu hanghenion. Gall cymryd rhan mewn prosiect o’r fath wella:

  • Hyder cymdeithasol a phersonol
  • Sgiliau allweddol llythrennedd a chyfathrebu
  • Lles ac iechyd meddwl
  • Dyhead ac uchelgais personol
  • Ysbryd cymdeithasol a balchder lleol
  • Mynegiant creadigol a defnydd o’r iaith

“Rwy’n gwybod na allaf newid fy ngorffennol, ond gallaf ysgrifennu fy nyfodol.” – Jaz, St Joseph’s School

Am ragor o wybodaeth am Gynllun Datblygu Llenyddiaeth De Cymru, ewch i: www.southwalesliterature.co.uk

Nôl i Archif Prosiectau