Cyflwynir Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn flynyddol i’r gweithiau llenyddol gorau a gyhoeddwyd yn y flwyddyn flaenorol yn Gymraeg ac yn Saesneg, a hynny mewn tri category: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol-Greadigol. Teitl y Wobr Farddoniaeth Saesneg yw’r Roland Mathias Poetry Award.
Mae dau banel, un o dri beirniad Cymraeg ac un o dri beirniad Saesneg yn mynd ati i ddyfarnu Rhestr Fer o dri llyfr ym mhob categori a gaiff eu cyhoeddi ym mis Mai. Cyhoeddir enillwyr y categorïau mewn seremoni wobrwyo yn yr haf, ac fe fydd un o’r tri wedi yn cael ei ddyfarnu yn enillydd Llyfr y Flwyddyn.
Llenyddiaeth Cymru sydd yn gweinyddu Gwobr Llyfr y Flwyddyn, gyda nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Llenyddiaeth Cymru yw’r cwmni sydd yn gyfrifol am ddatblygiad llenyddiaeth yng Nghymru. Cyngor Celfyddydau Cymru oedd yn gyfrifol am Wobr Llyfr y Flwyddyn cyn 2004.
Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn cael ei chynnal bob blwyddyn, gyda rhestr fer yn cael ei chyhoeddi yn y gwanwyn, a’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod tymor yr haf.
Mae enillydd pob category yn derbyn £1,000 a’r prif enillydd yn cipio £3,000 ychwanegol.
Nid yw manylion Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2017 wedi eu cyhoeddi eto. Caent eu cyhoeddi’n fuan ar dudalen Llyfr y Flwyddyn.
Estynnir gwahoddiad i dri beirniad feirniadu’r llyfrau Saesneg, a thri i feirniadu’r llyfrau Cymraeg. Mae nifer o unigolion adnabyddus o fewn y sin llenyddol wedi beirniadu yn y gorffennol; awduron, newyddiadurwyr, adolygwyr, cyflwynwyr, golygyddion, ond yn bwysicach na dim, mae’r beirniaid wastad yn ddarllenwyr brwd.
Mae’n rhaid i’r tri beirniad ddarllen yr holl lyfrau cymwys, cyn dethol Rhestr Fer fel panel ac yna’r enillwyr. Enwir un beirniad yn Gadeirydd y panel.
Darllenwch y canllawiau cymhwyster i weld os yw eich llyfr yn gymwys.
Y dyddiad cau ar gyfer llyfrau a gyhoeddwyd yn ystod 2016 i’w hystyried ar gyfer gwobr 2017 yw dydd Gwener 20 Ionawr 2017.
Fel tŷ cyhoeddi dylech anfon pedwar copi print o bob llyfr cymwys mor fuan ar ôl eu cyhoeddi â phosib at:
Gwobr Llyfr y Flwyddyn
Llenyddiaeth Cymru
4ydd Llawr, Adeiladau Cambrian
Sgw ar Mount Stuart
Caerdydd
CF10 5FL
Gwneir yr holl waith gweinyddu yn fewnol; nid oes ffurflenni i’r cyhoeddwyr eu llenwi.
Cliciwch i ymweld â’r archif ble y gallwch weld holl enillwyr y gorffennol.