Rhestr Awduron Cymru - Gwybodaeth Bellach
Sut i gysylltu gydag awdur ar gyfer digwyddiad
Gellid trefnu digwyddiad gyda rhan fwyaf yr awduron yng nghronfa Awduron Cymru Llenyddiaeth Cymru ar gyfer trafodaethau llenyddol, darlleniadau, darlithiau a gweithdai. Mae ambell un wedi gofyn i ni hysbysebu y mathau o ddigwyddiadau y maent yn cynnig ac unrhyw ofynion arbennig sydd ganddynt. Ar yr achlysuron yma, mae’r nodyn a hypergyswllt ‘Am fanylion trefnu digwyddiad gyda’r awdur ewch yma’ yn ymddangos ar ddechrau eu tudalen Awduron Cymru. Mi fydd clicio yma yn eich arwain at wybodaeth bellach ar yr hyn y gallent ei gynnig.
Os ydych yn dymuno trefnu digwyddiad gydag awdur, cysylltwch gyda nhw yn uniongyrchol er mwyn trafod dyddiadau a manylion pellach. Os yw manylion cyswllt yr awdur yn ymddangos ar ddechrau’r dudalen mae’r awdur wedi rhoi caniatad i chi gysylltu â nhw. Os nad yw cofnod yr awdur yn cynnig manylion cyswllt, gall Llenyddiaeth Cymru anfon eich cais at yr awdur dan sylw. Anfonwch e-bost at post@llenyddiaethcymru.org gyda unrhyw gyfatebiaeth yr hoffech i ni anfon at awdur.
Wedi bwcio’r awdur, os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymgeisio am nawdd rhannol tuag at y ffi, cliciwch yma i weld canllawiau cynllun cyllido Llenyddiaeth Cymru a’r ffurflen cais ar lein. Nodwch nad yw pob digwyddiad yn gymwys ar gyfer nawdd.
Os ydych chi’n awdur ac eisiau hysbysebu’r mathau o ddigwyddiadau yr ydych yn cynnig, anfonwch e-bost at post@llenyddiaethcymru.org.









