Rhestr Awduron Cymru

THOMAS, NED

Hafod Wen, Ffordd Caradog, Aberystwyth, SY23 2JY
email: post@nedthomas.plus.com

Awdur, beirniad ac ymgyrchwr diwylliannol. Magwyd yng Nghymru, Lloegr, yr Almaen a’r Swistir. Bu’n gweithio fel newyddiadurwr a hefyd fel darlithydd mewn prifysgolion yn Sbaen a Rwsia. Tra'n ddarlithydd yn Adran Saesneg Prifysgol Aberystwyth sefydlodd a bu’n olygydd ar y cylchgrawn Planet. Bu wedyn yn Gyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru a heddiw mae’n Lywydd Canolfan Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth sy’n arwain prosiectau ieithyddol a llenyddol ar draws y Gymuned Ewropeaidd. Enillodd gystadleuaeth stori fer Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn 1981. Fe yw Cadeirydd y cwmni a sefydlwyd yn wreiddiol i lansio’r papur newydd dyddiol yn y Gymraeg, Y Byd, ac sydd heddiw yn ymchwilio i ffordd wahanol o gyfrannu at amrywiaeth y Wasg Gymraeg. Gwnaeth Cwmni Da tair fideo o Ned Thomas yn siarad am ei gyfrol Bydoedd a materion eraill. Mae rhain i'w gweld yn fan hyn.

Ennillodd Bydoedd (Y Lolfa, 2010) Llyfr y Flwyddyn 2011. Meddai un o'r beirniaid, Simon Brooks, am y gyfrol fuddugol: “Mae Bydoedd Ned Thomas yn gampwaith. Dyma hunangofiant rhyfeddol mewn arddull gwaraidd, yn bwrw golwg ar hanes Ewrop a Chymru ers yr Ail Ryfel Byd. Cymro gwlatgar yw Ned, ond nid ar gyfer y Gymru fewnblyg mae’n ysgrifennu. Wedi’i nodweddu gan dreiddgarwch hynod, mae Ned yn manteisio ar ei brofiadau rhyngwladol i’r eithaf, gan ddadansoddi lle Cymru yn y byd. Gyda sylwgarwch cymdeithasol ar bob tudalen bron, dyma hunangofiant Cymraeg gorau’r ganrif.”


Detholiad o Gyhoeddiadau:
George Orwell (Oliver and Boyd)
The Welsh Extremist – A Culture in Crisis (Gollancz/Y Lolfa)
Derek Walcott, Bardd yr Ynysoedd / Poet of the Islands (Cyngor Celfyddydau Cymru)
Waldo Williams (Gwasg Pantycelyn)
Bydoedd – Cofiant Cyfnod (Y Lolfa, 2010)
 

Adolygiadau (o Bydoedd: Cofiant Cyfnod):

"Wel dyma un o'r llyfrau atgofion difyrraf i mi ei ddarllen erioed."
Catrin Beard ar y rhaglen Pethe Hwyrach (S4C)

"Mae Ned Thomas yn llenor wrth reddf .…Dyma fywyd yn ei gyfanrwydd."
Alun Jones yn Llanw Llŷn

"Nid yn aml mae cyfrol mor wâr â hon yn ymddangos yn y Gymraeg."
Vaughan Hughes, Barn

"Trysor o lyfr sy'n darllen hanfodol eleni."
Angharad Tomos,Yr Herald Gymraeg / Daily Post

"Sut wlad oedd Yr Almaen yn 1947 dan lywodraeth y Cynghreiriaid buddugoliaethus, Sbaen pan deyrnasai Franco, a Rwsia yn nyddiau'r Rhyfel Oer? Sut y llwyddodd ymgyrch y Sianel a pham na welodd Y Byd olau dydd? Sut mae bod yn Gymro neu'n Gymraes yn y byd cythryblus sydd ohoni? Dyna rai o'r cwestiynau y cynigia Ned Thomas atebion iddynt yn ei hunangofiant unigryw craff."
Gareth Miles, Taliesin.



Bydoedd: Cofiant Cyfnod (Y Lolfa, 2010)
Enillydd Llyfr y Flwyddyn 2011. Hunangofiant yn olrhain hanes yr academydd, newyddiadurwr ac awdur: ceir atgofion o'i blentyndod yn yr Almaen, a straeon am ei amser yn gweithio ledled Ewrop cyn iddo symud i Gymru. Dyma gyfrol sy'n gynnes ac yn ddifyr, tra hefyd yn llwyddo i godi cwestiynau gwleidyddol a diwylliannol bwysig.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.







……...................


Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun
Awduron ar Daith:
1. Llenyddiaeth Cymru yn y ganrif hon - R.S. Thomas, Waldo Williams, Idris Davies
2. Llenyddiaeth Rwsia (e.e. Tolstoy, Solzhenitsyn)
3. Llenyddiaeth Saesneg y Caribî ac Affrica (Walcott, Achebe, Ngugi)
4. Cyhoeddi yng Nghymru

Oedran y Gynulleidfa: 6ed dosbarth / myfyrwyr coleg / oedolion

 

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z