Rhestr Awduron Cymru
PRITCHARD, DAFYDD JOHN
Bardd a fagwyd yn Nant Peris yn Arfon. Derbyniodd ei addysg gynnar yn Ysgol Dolbadarn Llanberis ac Ysgol Brynrefail Llanrug, ac yna bu’n fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin a Phrifysgol Aberystwyth. Mae’n gweithio fel Archifydd Cynorthwyol yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae’n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Y Cwps, a thîm ymryson Ceredigion. Enillodd Goron yn Eisteddfod Bro Dinefwr 1996. Mae Dafydd yn aelod Pwyllgor Aelodau Llenyddiaeth Cymru.
Cyhoeddiadau:
Dim ond Deud (Barddas, 2006)
Adolygiadau:
"Fel y mae’r teitl yn awgrymu, nid pregethu a wna Dafydd John ond ‘dweud ei ddweud’ yn ei ffordd dawel a diymhongar ei hun. Ond yn aml iawn llinellau a cherddi’r beirdd tawel sy’n taro galetaf."
Iwan Llwyd, Gwales.com, yn trafod Dim ond Deud


