Rhestr Awduron Cymru

PRICE, ANGHARAD

Angharad PriceMagwyd ym Methel, Arfon. Graddiodd mewn ieithoedd modern yng Ngholeg Iesu Rhydychen, a chafodd ddoethuriaeth am ei hastudiaeth o ryddiaith Gymraeg y 1990au. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002 gyda’r nofel O! Tyn y Gorchudd, ac enwyd y gyfrol yn Llyfr y Flwyddyn 2003.

Enwyd Caersaint (Y Lolfa, 2010) ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2011.


Detholiad o gyhoeddiadau:

Tania’r Tacsi (Gomer, 1999)
O! Tyn y Gorchudd (Gomer, 2002)
Caersaint (Y Lolfa, 2010)

Cyhoeddiadau eraill:
Robin Llywelyn (Gwasg Pantycelyn, 1999)
Chwileniwm: Technoleg a Llenyddiaeth (gol.) (Gwasg Prifysgol Cymru, 2002)
Rhwng Gwyn a Du: Rhyddiaith Gymraeg y 1990au (Gwasg Prifysgol Cymru, 2002)
Gwrthddiwygwyr Cymreig yr Eidal (Gwasg Pantycelyn, 2005)
 

Adolygiadau:

"Yn sicr, rhaid annog yr awdures i fynd ati i ysgrifennu rhagor; mae ei hiaith mor goeth, mor Gymreig, mor fyw, mae’n bleser pur i’w ddarllen… Mae hon yn gyfrol sydd wir yn werth ei darllen, a’ch colled chi fyddai peidio gwneud hynny."
Gwenllïan Dafydd, Gwales.com, yn trafod O! Tyn y Gorchudd

"I’r rhai ohonom a wirionodd ar O! Tyn y Gorchudd mae edrych ymlaen mawr wedi bod am ei hail gyfrol. Ond mae hon yn gyfrol hollol wahanol, ond yr un mor orchestol gan mai clust a llygad llenor arbennig iawn sydd y tu ôl i hon hefyd. Llygaid yr un awdur a’n swynodd â Chwm Maesglasau sy’n gweld ac yn disgrifio ‘Coronau gleision Eryri. Porfeydd gleision y tir. Y Fenai’n las arian. Ac yng nghanol hyn i gyd, fel brenhines nad oedd yn fawr ond mawreddog, ond eto’n urddas i gyd, ymgodai tref Caersaint yn dyrau ac yn doeau a’r rheiny’n disgleirio’n borffor las wedi glaw a haul y gwanwyn.'"
Eirwen Llwyd Jones, Gwales.com, yn trafod Caersaint


"Yn y nofel arbennig hon, mae Angharad Price yn llwyddo i ddefnyddio cymeriad unigryw a phenodol Caersaint er mwyn trafod tensiynau diwylliannol a gwleidyddol ehangach y Gymry ddatganoledig."
Sioned Williams, BBC Cymru, yn trafod Caersaint


Caersaint (Y Lolfa, 2010)
Nofel drefol a hwyliog yw Caersaint, sy'n darlunio bywyd y trigolion ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain.Cawn ddilyn ymdrechion Jamal Jones i'w "ganfod ei hun" wedi iddo etifeddu cartref Arfonia Bugbird. Mae'r llyfr wedi'i seilio'n fras ar brofiadau'r awdures yng Nghaernarfon, ond mae'r helyntion a'r straeon a geir ynddi yn berthnasol i unrhywun sydd wedi byw mewn tref yng Nghymru erioed. 
Cliciwch ar y clawr i brynu copi

 


O, Tyn y Gorchudd (Gomer, 2002; fersiwn Dwyieithog, 2010)
Hunangofiant dychmygol modryb yr awdures, sy'n rhoi darlun clir a synhwyrus o fywyd gwledig Cymraeg yn Sir Feirionnydd yn ystod yr 20fed ganrif. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod yn 2002 ac enwyd yn Llyfr y Flwyddyn 2003. Cyfieithwyd i’r Saesneg gan Lloyd Jones dan y teitl The Life of Rebecca Jones (Gomer, 2010). Mae’r nofel wreiddiol ar gael ar CD yng nghyfres Llyfrau Llafar, gyda Betsan Llwyd yn ei darllen.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi

 

 




Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z