Rhestr Awduron Cymru

ARCH, CHARLES

Yn ei gyfrol hunangofiannol Byw Dan y Bwa, (Gwasg Gwynedd, 2005) mae Charles Arch yn adrodd hanes chwarter canrif cyntaf ei fywyd, tra bu’n "byw dan y bwa" ar fferm ei deulu yng nghysgod abaty Ystrad Fflur. Mae’n adnabyddus am ei weithgarwch gyda Mudiad y Ffermwyr Ifanc, a threialon cwn defaid ledled y byd. Ef hefyd, ers chwarter canrif, yw prif sylwebydd y Sioe Frenhinol.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Byw Dan y Bwa (Gwasg Gwynedd, 2005)
O’r Tir i’r Tŵr (Gwasg Gwynedd, 2007)


Adolygiadau:

"Storïwr yw Charles wrth anian. Mae yn ei elfen yn adrodd stori dda, ac mae’i ddawn dweud yr un mor amlwg yma yn ei hunangofiant. Mae’n sicr o apelio at y darllenydd, yn arbennig y rhai hynny ohonom sydd o gefndir amaethyddol, ond rwy’n pwysleisio nad oes yn rhaid ichi ddod o gefndir amaethyddol i fwynhau’r gyfrol. Bydd o ddiddordeb arbennig, wrth gwrs, i bobl Ceredigion a Maldwyn. Yn wir, mae ei gyfraniad mor eang fel y llwydda i gyffwrdd â bywydau cannoedd o ddarllenwyr Cymraeg. Felly, allan â chi i brynu’r gyfrol!"
Ann Fychan, Gwales.com, yn trafod O'r Tir i'r Tŵr

 

O’r Tir i’r Tŵr (Gwasg Gwynedd, 2007)

Cliciwch ar y clawr i brynu copi






Byw dan y Bwa
(Gwasg Gwynedd, 2005)

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.









Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z