Rhestr Awduron Cymru
MEDI, NIA
Awdur ac actores. Yn wreiddiol o Lanfair, ger Harlech, mae Nia yn trigo ger Dolgellau bellach. Graddiodd yng Ngholeg Normal, Bangor. Yn ogystal a'i gwaith fel actores, mae hi wedi ysgrifennu sgriptiau ar gyfer y llwyfan ac ar gyfer y radio, ac hefyd wedi gweithio fel dylunydd tai (ar raglen Real Rooms, er enghraifft. Omlet oedd ei nofel chynta, ac fe'i henwyd ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2006. Fe'i addaswyd ar gyfer ffilm deledu yn 2008.
Cyhoeddiad:
Omlet (Gwasg Gwynedd, 2005)
Adolygiad:
"yr hiwmor yw prif gryfder y nofel hon. Mae'n amlwg fod yma awdur sy'n meddu ar ddawn dweud eithriadol, sy'n llwyddo i gynnig darluniau digri o ddigwyddiadau bob dydd.."
Caron Wyn Edwards, BBC Cymru'r Byd
Omlet (Gwasg Gwynedd, 2005)
Nofel feiddgar a doniol iawn am wyliau haf Angharad Austin, athrawes sengl yn ei thridegau. Adroddir ei hynt a'i helynt mewn arddull unigryw gyda sylwadau craff ar fywyd ac ar bobl yn gyffredinol.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


