Rhestr Awduron Cymru

HAF, EURGAIN

Ffôn: 07799 841 522
Ebost: eurgainhaf@btinternet.com

Eurgain HafAwdur llyfrau i blant ac oedolion.  Ganed a magwyd ym Mhenisarwaun yn Arfon ond mae erbyn hyn wedi ymgartrefu ym Mhontypridd.  Addysgwyd yn Ysgol Uwchradd Brynrefail, Llanrug a Phrifysgol Cymru Aberystwyth.  Wedi cyfnod yn gweithio fel Swyddog y Wasg i S4C mae nawr yn gweithio fel Swyddog y Cyfryngau i elusen Achub y Plant ac yn ysgrifennu yn ei hamser sbâr.  Cyhoeddwyd straeon byrion o’i heiddo yn Golwg a Taliesin ac mae hi’n cyfrannu erthyglau ac adolygiadau (theatr) ar gyfer Barn, y Western Mail, Y Cymro, Tu Chwith a chylchgrawn gwylwyr S4C, Sgrîn.  Mae’n gyn–enillydd Coron Eisteddfod yr Urdd (1994) ac Eisteddfod Môn (2002).  Enillodd wobr Cymdeithas Celfyddydau Gogledd Cymru am stori fer, a bu’n llwyddiannus yng nghystadleuaeth stori fer BBC Radio Cymru yn 2004 a chyhoeddwyd y stori fel rhan o’r gyfrol Yn Nes at Baradwys (Gol. Angharad Dafis).

Enillodd Fedal Ddrama yr Eisteddfod Ryng–Golegol yn 1994  a pherfformiwyd ei drama fer Cadw Oed fel rhan o gynhyrchiad teithiol Sgript Cymru, Drws Arall i’r Coed yn 2005.

Ond diléit pennaf Eurgain yw ysgrifennu storïau i blant.  Addaswyd dwy o’i straeon byrion ar gyfer y cyfresi teledu Tud a Len, ac Adfent. Mae hefyd yn cyfrannu straeon byrion i gylchgrawn yr Urdd, Cip yn gyson.

Cyhoeddwyd Fferm Ffion - ei nofel gyntaf i blant gyda Gwasg y Dref Wen fis Mawrth 2005 a dewiswyd y llyfr hwnnw fel un o’r llyfrau gosod ar gyfer cystadleuaeth y Cwis Llyfrau yn 2006. 

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Chwileniwm – gol. Angharad Price(cyfrannwr) (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 2002)
Yn Nes at Baradwys – gol. Angharad Dafis (cyfrannwr) (Gwasg Carreg Gwalch, 2005)
Fferm Ffion (Dref Wen, 2005)
Stablau Seren  (Dref Wen, 2006)
Nerth Bôn Braich (un o saith o awduresau y nofel gywaith hon) (Gwasg y Bwthyn, 2008)

Siencyn a Dan Draed (Dref Wen, 2008)
Dan Draed Dan Glo (Dref Wen 2009)
Siencyn a'r Sipsiwn (Dref Wen 2009)
Siencyn a'r Clociwr Cas (Dref Wen 2010)
 

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z