Rhestr Awduron Cymru
PRYSOR, DEWI
Ebost: dewiprysor@btinternet.com
Nofelydd, bardd a cherddor o Gwm Prysor, Trawsfynydd. Mae’n byw yn Stiniog efo’i wraig a’u tri mab. Gweithiodd fel trydanwr a saer maen cyn troi at addysg bellach yng Ngholeg Harlech yn 1997, pan yn 30 oed, i astudio Llenyddiaeth, Hanes a Syniadau. Graddiodd gydag anrhydedd mewn Hanes a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth yn 2003, cyn gweithio fel darlithydd hanes rhan amser i raglen cyrsiau cymunedol Cymdeithas Addysg y Gweithwyr.
Enwyd Lladd Duw (Y Lolfa, 2010) ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2011. Enillodd y gyfrol Wobr Barn y Bobl Golwg 360. Mae ei nofel diweddaraf, Cig a Gwaed (Y Lolfa, 2012) wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2013.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Limrigau Prysor (Gwasg Carreg Gwalch, 2003)
Brithyll (Y Lolfa, 2006)
Mwy o Limrigau Prysor (Gwasg Carreg Gwalch, 2007)
Madarch (Y Lolfa, 2007)
Crawia (Y Llolfa, 2008)
Lladd Duw (Y Lolfa, 2010)
Cig a Gwaed (Y Lolfa, 2012)
Drama Lwyfan
DW2416 (Llwyfan Gogledd Cymru, 2005)
Adolygiadau:
"..mae creadigaethau Dewi Prysor wedi'u portreadu mor fyw, ac i'w gweld yn ymrafael â bywyd gyda chymaint o afiaith, mae'n anodd peidio â chael eich swyno ganddyn nhw, a'u hymrwymiad at ei gilydd, eu teuluoedd a'u bro."
Kate Crockett, BBC Cymru'r Byd, yn trafod Crawia
"Tu ol i'r miri, yr anhrefn, y camfihafio a'r cariad amlwg at gymeriadau a lleoliad ei drydedd nofel, mae'r awdur yn cyfleu negeseuon difrifol ynghylch cyflwr ein gwlad a dyfodol ein cenedl. Mae Dewi Prysor yn gyflym ddatblygu'n drysor cenedlaethol, ac fe wnaiff Crawia i chi chwerthin a gwingo bob yn ail. Nofel arall gwbl gofiadwy gan awdur mwyaf doniol a darllenadwy Cymru."
Llwyd Owen yn trafod Crawia
"Chwip o nofel, gydag afiaith heintus yr awdur yn byrlymu trwyddi o'r dechrau i'r diwedd. Mae'r cymeriadau'n argyhoeddi, ac yng nghanol berw can-milltir-yr-awr y plot gafaelgar ceir ambell ysbaid dawel o wir brydferthwch. Mae Prysor yn gwybod sut i ddeud stori, a'i deud hi'n dda."
Emlyn Gomer Roberts yn trafod Lladd Duw
"Nofel llawn cymeriadau dwys a doniol, sylwebaeth gymdeithasol ddiffuant a mewnweledol, a dau gymeriad canolog fydd yn ymdroi yn hir yn y cof. Mae "Lladd Duw" yn nofel a hanner ac - yn debyg i gyfrolau blaenorol yr awdur - yn adrodd stori gyffrous tra'n cynnig arsylwadau cynnil a chraff am y Gymru gyfoes ar yr un pryd."
Llwyd Owen yn trafod Lladd Duw
Lladd Duw (Y Lolfa 2010)
Mae gangstyrs peryclaf dwyrain Ewrop am waed Jojo a Didi. Rhaid iddynt ddianc o Lundain am eu bywydau. Ond does ond un lle i guddio - tref fach glan-mor Gilfach.. Emwyd ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2011.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi
Crawia (Y Lolfa 2010)
Mae'r Nadolig yn agosau, ac mae trigolion Graig yn hel celc ar gyfer y dathliadau. Ond mae rhyw ddihirod ar waith yn y gymuned, a'u hanfadwaith yn bygwth chwalu'r cynlluniau am Nadolig llawen a gwlyb.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi
……………
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith
1. Perfformio’i gerddi
2. Darlleniadau a thrafod ei waith
3. Sgyrsiau am hanes a llenyddiaeth mewn diwylliant poblogaidd
4. Gweithdai barddoniaeth ac ysgrifennu creadigol
Oedran y gynulleidfa: Disgyblion ysgolion uwchradd / Clybiau Ieuenctid / Oedolion


