Rhestr Awduron Cymru
MORGAN, D DENSIL
Pennaeth Coleg Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrifsygol Bangor. Ar ôl graddio o Fangor yn 1979 fe astudiodd yng Ngholeg Regent’s Park, Rhydychen ar gyfer doethuriaeth ac yn weinidog Bedyddiwr yn ne Cymru am chwe mlynedd. Yn 2006 dyfarnwyd gradd DD iddo gan Brifysgol Cymru ar sail ei waith cyhoeddedig. Mae hefyd wedi gwario semester fel Gymrawd Gwadd yn Athrofa Ddiwinyddol Princeton, UDA.
Enwyd ei lyfr Dawn Dweud: Lewis Edwards (Gwasg Prifysgol Cymru, 2009) ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2010.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Dawn Dweud: Pennar Davies (Gwasg Prifysgol Cymru, 2003)
O'r Pwll Glo i Princeton: Bywyd a Gwaith R.S. Thomas (Prifysgol Cymru Bangor, 2005)
Dawn Dweud: Lewis Edwards (Gwasg Prifysgol Cymru, 2009)
Dyddiadur America a Phethau Eraill (Gwasg Carreg Gwalch, 2009)
The SPCK Introduction to Karl Barth (SPCK, 2011)
Adolygiad:
"Dyma gyfrol na allwn fforddio bod hebddi mewn unrhyw ysgol uwchradd nac o fewn unrhyw gapel. Y mae’r awdur yn taro deuddeg ar bob tudalen."
D. Ben Rees, Gwales.com, yn trafod Dawn Dweud: Lewis Edwards
Lewis Edwards (Gwasg Prifysgol Cymru, 2009)
Astudiaeth gynhwysfawr o waith Lewis Edwards (1809-87), pennaf ysgolhaig Cymru'r bedwaredd ganrif bymtheg ac un a gododd safonau y Gymru Ymneilltuol a'u gosod ar seiliau dysg rhyngwladol. Yn Fethodist Calfinaidd o ran ei fagwraeth a'i argyhoeddiadau, yfodd yn ddwfn o dduwioldeb ei gyfnod.


