Rhestr Awduron Cymru
AARON, LUNED
luned@hotmail.com
Mae Luned Aaron yn ddramodydd a sgriptwraig o Fangor sydd, ar hyn o bryd, yn byw yng Nghaerdydd. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Tryfan, Bangor, a graddiodd mewn Astudiaethau Theatr ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.
Enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru yn 1999, ac eto yn 2001 a 2003. Yn 2002, enillodd ysgoloriaeth S4C i fynychu’r Coleg Ffilm Ewropeaidd yn Nenmarc am naw mis. Tra bu yno, canolbwyntiodd ar sgriptio a chafodd arweiniad gan ymarferwyr amlwg ym maes ffilm yn Sgandinafia.
Mae ei gwaith blaenorol yn cynnwys tair drama ar gyfer y radio: Cysgu dan y sêr, Ystafell Dywyll a Castell Pawb ei Dŷ yn ogystal â dramâu llwyfan megis Meical ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru a Stop Ola’ ar gyfer Cwmni’r Frân Wen.
Mae hi hefyd wedi sgriptio ffilmiau byrion – yn eu mysg, mae Caru a Cameo a gynhyrchwyd gan Opus ac a ddarlledwyd ar S4C. Mae ei gwaith llenyddol i’w weld yn gyson ar ddalennau Taliesin a Barn.
Ymddiddora Luned yn y Cyfryngau Newydd, a bu’n cydredeg cyrsiau adrodd storïau digidol – ffurf sy’n galluogi pobl i adrodd eu storïau drwy gyfrwng lluniau a lleisiau ar y We.
Luned yw Llywydd cyntaf Fforwm Celfyddydau Gwynedd ac mae’n aelod o Fwrdd Rheoli Llenyddiaeth Cymru ac is-bwyllgor Artistig Theatr Genedlaethol Cymru.


