Cynlluniau Digido LlGC
Awduron yn gwrthdystio
Isod ceir llythyr a brintiwyd yn y Western Mail ar 24 Hydref 2007, wedi ei arwyddo gan awduron, gan roi fwy o nerth i’r drafodaeth a ddechreuwyd gan Academi (bryd hynny), sef aelodau Yr Academi Gymreig / The Welsh Academy.

Dyma lythyr protest. Ar hyn o bryd mae Llyfrgell Genedlathol Cymru wrthi’n digideiddio 90 o gylchgronau a chyfnodolion Cymreig. Nod y prosiect Cyfnodolion Cymreig Arlein yw galluogi dallenwyr i chwilio a darllen cyfresi cyfain o gyflgronau fel Barddas a Poetry Wales ayb yn rhad ac am ddim ar y we. Sefydlwyd y prosiect gan lyfrgellwyr ac academwyr, ond nid oes neb wedi ymgynghori gydag awduron na’r cyrff hynny sy’n eu cynrychioli.
Mae’r prosiect yn derbyn mwy na £840,000 o arian cyhoeddus. Serch hynny, nid yw’r Llyfrgell wedi clustnodi ceiniog ar gyfer awduron y cerddi, erthyglau, adolygiadau a straeon sydd yn y cylchgronau. Mae’r Llyfrgell yn gobeithio y byddant yn fodlon caniatáu digiteiddio eu gwaith yn ddi-dâl.
Gwaith yw ysgrifennu. Mae awduron proffesiynol yn cael eu talu am eu gwaith ac am ei ail-ddefnyddio. Mae methiant y Llyfrgell i roi arian i un ochr i dalu’r awduron sydd yn meddu ar hawlfraint y gwaith yn nam difrifol ar y cynllun. Tan fod sylw yn cael ei dalu i’r mater hwn, ni fydd awduron sydd yn dymuno cadw ysgrifennu fel gweithgaredd proffesiynol yn caniatáu i’r Llyfrgell Genedlaethol i ddigiteiddio eu gwaith. Mae’r rhain yn cynnwys:
|
SAM ADAMS
JOHN BARNIE
DESMOND BARRY
GILLIAN CLARKE
ANNE CLUYSENAAR
TONY CURTIS
STEVIE DAVIES
MARIA DONOVAN
MENNA ELFYN
CHRISTINE EVANS
CATHERINE FISHER
MATTHEW FRANCIS
PHILIP GROSS
PAUL GROVES
GRAHAM HARTILL
PAUL HENRY
JEREMY HOOKER
MIKE JENKINS
NIGEL JENKINS
CYRIL JONES
STEPHEN KNIGHT
GWYNETH LEWIS
MALCOLM LEWIS
HILARY LLYWELLYN-WILLIAMS
GARETH MILES |
JAN MORRIS TONY CONRAN LYNNE REES DEBORAH KAY DAVIES RICHARD MARGGRAF TURLEY GRAHAM MORT LLWYD OWEN HUGH ADAMS LESLEY GRANT-ADAMSON ANN RUFFELL TESSA HADLEY LEO AYLEN KATE NOAKES ROGER GRANELLI SHEENAGH PUGH PHIL CARRADICE HARRISON SOLOW MARIO UMBERTO FIORILLO CLARE MORGAN SALLY ROBERTS JONES MIKE PARKER EIFION JENKINS FFLUR DAFYDD JOHN WILLIAMS WENDY COPE IFOR DAVIES GWYDION THOMAS (ystad R S Thomas) HUW LAWRENCE ANNE STEVENSON |
PATRICK MCGUINNESS |
|
Er mwyn dangos eich cefnogaeth i’r ddadl hon ac i ychwanegu’ch enw at y rhestr uchod, ebostiwch Oliver Reynolds: oreynolds@hotmail.co.uk.


