Cynlluniau Digido LlGC

Cymdeithas yr Awduron

Ymddangosodd yr eitem canlynol yn Saesneg yn rhifyn haf 2008 cylchgrawn Cymdeithas yr Awduron, The Author.

“Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ymgymryd â phrosiect uchelgeisiol, gan geisio gwneud cymaint â phosib o gylchronau Cymru ar gael yn ddigidol. Mae’r prosiect wedi derbyn llawer o gyhoeddusrwydd gan bod nifer o awduron proffesiynol wedi beirniadu’r prosiect a gwrthod cymryd rhan ynddo.

Ymddengys na fu ymgynghori gydag awduron ac rydym wedi cyfleu’r pryder yma i’r Llyfrgellydd, Andrew Green; cliriwyd rhai trwyddedau ar sail egwyddor ‘dewis eithrio’; ac roedd y trwyddedau yr oeddent yn ceisio eu cael gan yr awduron yn ymddangos yn eang iawn.

Cadarnhaodd Mr Green y caiff caniatâd pendant ei sicrhau gan berchnogion yr hawlfraint a caiff deunydd ei dynnu oddi ar y wefan os bydd angen. Mae’n bosibl i awduron gyfyngu defnydd i ‘bwrpasau anfasnachol yn unig’. Serch hynny, mae’r telerau trwyddedu a gynigir gan y Llyfrgell yn eu hanfod yn eang ac nid oes unrhyw ddarpariaeth ar gyfer talu’r awduron. Gall y telerau hyn ymddangos yn dderbyniol i’r rhai hynny sydd ddim yn cael eu talu i ysgrifennu ar gyfer cyfnodolion Cymreig ac sy’n bennaf â diddordeb mewn gweld eu gwaith yn cael ei ddosbarthu’n fwy eang. Fodd bynnag, bydd awduron proffesiynol yn sicr eisiau ystyried yn ofalus os ydy rhoi caniatâd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ddefnyddio trwydded yn ddoeth, gan ystyried y gellid ennill incwm drwy arddangos y gwaith mewn man arall.”

                                           The Author, Rhifyn yr Haf 2008

Mae’r cyngor a gynhwysir yma yn eithaf clir. Os ydych chi’n awdur proffesiynol cadwch draw. Peidiwch â rhoi eich caniatâd. Mae nifer fawr o awduron Cymru eisoes wedi atal eu caniatâd. Mae’r rhain yn cynnwys Jan Morris, Bardd Cenedlaethol Cymru Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol blaenorol Gwyneth Lewis, y rhyng-genedlaetholwr Cymreig blaenllaw Robert Minhinnick, Athro Barddoniaeth Prifysgol Morgannwg Tony Curtis, Golygydd y Rough Guides Mike Parker, Bethan Gwanas, Wil Owen Roberts, Meg Elis, Meic Stephens, Harri Pritchard Jones, Stevie Davies, Fflur Dafydd, a llawer mwy.