Twristiaeth Lenyddol Telerau & Amodau

Twristiaeth Lenyddol Telerau & Amodau
Cyflwr y Tywydd
Mi fydd y teithiau yn cael eu cynnal ym mhob tywydd, heblaw bod perygl i iechyd a diogelwch. Ni fydd tywydd gwael yn rheswm teilwng i ganslo taith ac os ydych am wneud ar y diwrnod ni fydd Llenyddiaeth Cymru yn cynnig ad-daliad.
Polisi Canslo
O ganlyniad i’r ymrwymiadau ariannol a gweinyddol a ddaw o drefnu’r teithiau llenyddol, mae’n rhaid gwarantu'r incwm maent yn eu cynhyrchu. Gallwn gynnig ad-daliad os ddarperir rhybudd rhesymol (lleiafswm o bedair wythnos) ond mi fydd yn ddarostyngedig ar daliad gweinyddol o 20%.
Gallwch ganslo taith o fewn y cyfnod rhybudd o bedair wythnos ond dim ond os y bydd Llenyddiaeth Cymru yn llwyddo i ail werthu y tocyn y rhoddir ad-daliad. Mi fydd yr ad-daliad yn ddarostyngedig ar daliad gweinyddol o 20%.
Mae Llenyddiaeth Cymru yn cadw’r hawl i ganslo taith mewn achos o salwch neu unrhyw amgylchiadau eraill sydd tu hwnt i’w rheolaeth. Os y bydd y daith yn cael ei chanslo mi fydd Llenyddiaeth Cymru yn gwneud pob ymdrech i gysylltu â chi o flaen llaw ac yn darparu ad-daliad llawn.
Mae Llenyddiaeth Cymru yn cadw’r hawl i wrthod gadael unrhyw un ar daith sydd, neu sy’n ymddangos i fod, o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, neu unrhyw un sydd yn ymddwyn mewn ffordd sydd yn niweidiol i fwynhad y bobl eraill ar y daith.
Newidiadau i’r Daith
Yn achlysurol gall amgylchiadau tu hwnt i reolaeth Llenyddiaeth Cymru arwain at newidiadau munud olaf i’r daith. Mewn achos o’r fath mi fydd taith arall o werth cyfatebol yn cael ei gynnig yn ei lle.
Gwisgo’n Addas
Sicrhewch eich bod wedi gwisgo’n addas ac yn ddigon heini ar gyfer y daith. Mae’r teithiau yn cael eu cynnal mewn amrywiaeth o amgylchiadau ac mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn meddu ar y cyfarpar cywir ac â’r gallu corfforol i ymdrin â gofynion y daith gan y bydd rhai ohonynt yn cynnwys llwybrau anwastad a fydd yn fwdlyd ac wedi eu gorchuddio gan ordyfiant. Ceir gwybodaeth bellach am hygyrchedd y teithiau yn eu disgrifiadau ac anfonir y gofyniadau penodol yn y llythyr sy’n cadarnhau’r archeb.
Hygyrchedd
Cynhelir y teithiau mewn amrywiaeth o leoliadau ac efallai ni fydd rhai o’r rhain yn hygyrch i gadair olwyn. Cyfeiriwch at ddisgrifiad y daith cyn gwneud eich archeb.
Damwain neu Golled
Mae’r rheini sy’n cymryd rhan yn y teithiau yn gyfrifol am eu diogelwch personol a’u heiddo. Nid yw Llenyddiaeth Cymru yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw anaf, colled, difrod, anhwylder, neu golled uniongyrchol neu ganlyniadol, sut bynnag y digwyddir, heblaw bod aelod o’i staff wedi bod yn ddiofal. Nid ydym yn berchen nac yn rheoli’r lleoliadau, cerbydau, tai bwyta, caffis neu dafarndai a ddefnyddir a nid yw Llenyddiaeth Cymru yn gyfrifol am golled neu ddamwain a achosir gan berchnogion neu reolwyr lleoliadau, cerbydau, tai bwyta, caffis neu dafarndai yr ymwelir â hwy fel rhan o’r daith.
Yswiriant Personol
Mae’r penderfyniad os ydynt am gymryd yswiriant personol yn gyfrifoldeb i’r unigolyn.
Polisi Preifatrwydd
Mi fydd yr holl wybodaeth bersonol a gyflenwir yn cael ei gadw’n ddiogel a ni fydd yn cael ei rannu â thrydydd parti. Am wybodaeth bellach gellir gweld polisi preifatrwydd corfforaethol Llenyddiaeth Cymru ar y wefan neu trwy gais trwy gysylltu â Llenyddiaeth Cymru dros y ffôn neu trwy’r post.


