Twristiaeth Lenyddol

 

 

 

 

 

 


 

Cyflwyniad

Mae Llenyddiaeth Cymru yn darparu amrywiaeth o ddigwyddiadau a phrosiectau twristiaeth lenyddol yng Nghymru. Ein bwriad yw annog pobl i ymwneud â threftadaeth lenyddol tirlun Cymru mewn amryw o ddulliau, drwy arwain ymwelwyr i grombil y tirweddau sydd wedi ysbrydoli ysgrifenwyr Cymru. Mae llawer o’n gwaith mewn partneriaeth â chyrff cenedlaethol eraill fel Cadw, Croeso Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Ers 2009, Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cynnal rhaglen flynyddol o deithiau llenyddol ar hyd a lled Cymru, gan gynnau diddordeb a chodi ymwybyddiaeth o ffigyrau blaenllaw a themâu llenyddiaeth Cymru. Rydym yn gweinyddu sawl prosiect llenyddol arall hefyd, yn cynnwys y wefan blaciau, sy’n darparu gwybodaeth am yr holl blaciau llenyddol y gwyddys amdanynt yng Nghymru.

Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y tabiau ar y chwith.

 


*Newydd ar gyfer 2012*

Cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru ei Rhaglen Dwristiaeth Lenyddol 2012 ddydd Sadwrn 24 Mawrth mewn derbyniad arbennig yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yng nghwmni Archesgob Caersaint, Rowan Williams. Lluniau yma.

Yn mentro ymhellach, ac ar lwybrau mwy cyffrous nac erioed o’r blaen, bydd pedwar digwyddiad ar ddeg yn cael ei gynnal dros Gymru gyfan rhwng Ebrill-Hydref 2012. Mae tocynnau yn cychwyn o £4 (£3 pris gostyngedig). Cliciwch yma am fwy o wybodaeth, ac i lawrlwytho'r rhaglen.