Dewislen
English
Cysylltwch

Cyhoeddi mai’r Children’s Laureate Wales cyntaf erioed yw Eloise Williams

Cyhoeddwyd Mer 18 Medi 2019 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyhoeddi mai’r Children’s Laureate Wales cyntaf erioed yw Eloise Williams
©: Llenyddiaeth Cymru / Camera Sioned
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi mai’r awdur plant poblogaidd o Sir Benfro, Eloise Williams, yw’r Children’s Laureate Wales cyntaf erioed. Nod y rôl lysgenhadol newydd hon yw ymgysylltu â ac ysbrydoli plant Cymru drwy lenyddiaeth, ac i hyrwyddo hawl plant i fynegi eu hunain.

Cyhoeddwyd y newyddion ddydd Mercher 18 Medi o flaen 150 o ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Parc Jiwbilî yng Nghasnewydd. Eloise yw Llysgennad Darllen yr ysgol ac yn dilyn y cyhoeddiad, bu’n rhan o agoriad swyddogol llyfrgell newydd yr ysgol. Mewn llythyr agored i blant Cymru, pwysleisiodd Eloise cymaint o anrhydedd oedd ymgymryd â’r rôl hon; sut y bydd yn gwneud ei gorau glas i helpu plant Cymru i ddod o hyd i’r straeon sy’n bwysig iddyn nhw; yn ymgyrchu fel eu bod nhw’n gweld eu hunain yn cael eu cynrychioli’n dda mewn llenyddiaeth; ac yn bwysicaf oll, bod eu lleisiau yn bwysig. Gallwch ddarllen ei llythyr yn llawn ar wefan Llenyddiaeth Cymru.

Bu Eloise Williams yn gweithio fel actor ac ymarferydd creadigol am dros ddegawd cyn symud ymlaen i fod yn awdur plant. Enillodd ei nofel, Gaslight (Firefly Press, 2017) – a ysgrifennwyd gyda chefnogaeth Ysgoloriaeth Awdur Newydd Llenyddiaeth Cymru – wobr Llyfr Pobl Ifanc y Flwyddyn Wales Arts Review 2017, Gwobrau Llyfrau YBB 2018, a chyrhaeddodd restr fer Gwobrau Tir na nOg 2018. Cyrhaeddodd Seaglass (Firefly Press, 2018), ei nofel diweddaraf i bobl ifanc, restr fer Gwobrau Tir na nOg 2019, a’r North East Book Awards 2019.

Yn siaradwr rheolaidd mewn gwyliau a digwyddiadau, mae hi’n defnyddio ei sgiliau drama i ennyn diddordeb pobl ifanc mewn llenyddiaeth ac erbyn hyn mae hi ar lwyfan llawer yn fwy nag y buodd hi erioed tra’n actor proffesiynol!

Dywedodd Eloise: “Dwi wedi bod wrth fy modd â straeon erioed. Mae’r profiad o ymgolli’ch hun mewn stori dda yn hudol. Mae straeon yn ein cysylltu, yn rhoi empathi a dealltwriaeth inni, yn ymestyn ein hymennydd a’n dychymyg, yn gadael inni deithio’r byd a phrofi’r rhyfeddodau mwyaf.

“Mae llenyddiaeth plant yn ffynnu ac ni allai fod amser mwy cyffrous i fod yn rhan o’i dwf yma yng Nghymru. Dwi’n teimlo’n gryf bod cysylltiad rhwng llyfrau plant a’r gobaith dwi’n ei deimlo bob tro dwi’n cerdded i mewn i ystafell ddosbarth. Dwi’n grediniol y bydd darllenwyr ifanc yn gwneud ein dyfodol yn ddisglair ac mae’n anrhydedd cael bod yn rhan o hynny.”

Cyhoeddwyd y fenter newydd ym mis Mai 2019 fel rhan o Gynllun Strategol newydd Llenyddiaeth Cymru (2019-22). Bydd y Children’s Laureate Wales yn gweithio ochr yn ochr â’r cynllun Cymraeg Bardd Plant Cymru, gan weithio’n bennaf gyda phlant rhwng 5-13 oed. Penodwyd Eloise yn dilyn galwad gyhoeddus i awduron fynegi eu diddordeb yn y rôl.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, am y cyhoeddiad: “Rydym wrth ein bodd nid yn unig i lansio’r fenter newydd hon, ond i gyhoeddi rhywun mor angerddol, poblogaidd a hawddgar i rôl Children’s Laureate Wales. Ein gweledigaeth yw Cymru lle mae llenyddiaeth yn grymuso, yn gwella ac yn cyfoethogi bywydau. Bydd y rôl hon yn darparu rhagor o gyfleoedd i’n plant a’n pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau ysgrifennu creadigol ac yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at eu llesiant. “

“Bydd Eloise yn bencampwr gwych dros ddarllen ac ysgrifennu creadigol er pleser, a thros gynrychiolaeth o fewn llenyddiaeth plant; edrychaf ymlaen yn arw at ddilyn ei thaith dros y ddwy flynedd nesaf.”

Bydd y Children’s Laureate Wales yn ymweld â nifer o ysgolion, clybiau, gwyliau a digwyddiadau ledled Cymru, yn ogystal â dyfeisio a datblygu prosiectau arbennig a phwrpasol gyda’r cleientiaid y mae Llenyddiaeth Cymru yn eu targedu.

Am ragor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad ysgol, ewch i adran wefan y Children’s Laureate Wales. I drafod prosiectau eraill, ebostiwch Llenyddiaeth Cymru ar: childrenslaureate@literaturewales.org.