Dewislen
English
Cysylltwch

Bwrdd Ymddiriedolwyr

Cathryn Charnell-White
Cadeirydd
Mwy
John O'Shea
Dirprwy Gadeirydd
Mwy
Craig Austin
Ymddiriedolwr
Mwy
Casi Dylan
Ymddiriedolwr
Mwy
Mohamed Hassan
Ymddiriedolwr
Mwy
Delyth Roberts
Ymddiriedolwr
Mwy
Rachel Harries
Ymddiriedolwr
Mwy
Owain Taylor-Shaw
Ymddiriedolwr
Mwy
Christina Thatcher
Ymddiriedolwr
Mwy
Steve Dimmick
Ymddiriedolwr
Mwy
Owen Hathway
Ymddiriedolwr
Mwy
Richard King
Ymddiriedolwr
Mwy
Cathryn Charnell-White
Cadeirydd

Dr Cathryn Charnell-White yw Pennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth. Mae ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar hunaniaeth Gymreig, merched a barddoniaeth, a llenyddiaeth y tywydd yng Nghymru’r Cyfnod Modern Cynnar. Cathryn oedd Pencampwr Cydraddoleb ac Amrywiaeth yr Adran (2018–20) a bu’n eistedd ar y pwyllgor canolog ar gyfer cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae’n ymroddedig i sicrhau bod myfyrwyr o bob cefndir yn gweld eu hunain yn y cwricwlwm. Datblygodd fodiwl newydd, ‘Testunau’r Enfys’, gyda chydweithiwr yn yr Adran Theatr Ffilm a Theledu, a hwn yw’r modiwl LHDT+ cyntaf o’i fath mewn Adran Gymraeg. Bu’n gwasanaethu ar Fwrdd Cyfarwyddwr Llenyddiaeth Cymru ers Tachwedd 2019.

Cau
John O'Shea
Dirprwy Gadeirydd

Astudiodd John O’Shea wleidyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe a bu'n gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau addysgol cyn ei benodiad diweddaraf yn Brifathro Coleg Merthyr Tudful. Mae John yn dod â phrofiad ym maes llywodraethu elusennau i’r Bwrdd yn ogystal â brwdfrydedd dros alluogi holl bobl Cymru waeth beth yw eu cefndir, eu haddysg neu eu rhagolygon i ffynnu a datblygu eu creadigrwydd Mae John yn Gadeirydd Grow Enterprise Wales, aelod o'r Royal Shakespeare Company a Chapter, ac yn angerddol dros oresgyn amddifadedd.

Cau
Craig Austin
Ymddiriedolwr

Mae Craig Austin yn awdur a beirniad celfyddydol sy’n byw yn Llundain, ac yn olygydd Wales Arts Review. Cyhoeddwyd ei waith, ffuglen a ffeithiol, mewn nifer o gyhoeddiadau cenedlaethol. Y mae Craig hefyd yn brofiadol iawn mewn Adnoddau Dynol proffesiynol, gydag arbenigedd swyddogaethol mewn cysylltiadau diwydiannol a chyfraith cyflogaeth ar draws ystod eang o sectorau a chwmnïau mawr.

Cau
Casi Dylan
Ymddiriedolwr

Magwyd Casi Dylan yng Ngheredigion ac mae hi’n byw a bod bellach yn Glasgow. Mae profiad eang ganddi mewn meysydd sy’n croestorri llenyddiaeth, llesiant, a chyfranogaeth cymdeithasol, gan gynnwys swyddi gyda The Reader Organisation a Gŵyl Lyfrau Ryngwladol Caeredin. Erbyn hyn mae hi’n gweithio fel Rheolwr Digwyddiadau ac Ymgysylltu ym Mhrifysgol Glasgow. Mae hi’n Gydymaith gyda Cyfnewidfa Lên Cymru, ac yn ysgrifennu’n rheolaidd ar gyfer y cylchgrawn llyfrau O’r Pedwar Gwynt.

Cau
Mohamed Hassan
Ymddiriedolwr

Ganed Mohamed yn Alexandria, yr Aifft, a symudodd i Gymru am y tro cyntaf yn 2007. Astudiodd Ffotograffiaeth yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, cyn cwblhau gradd meistr mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol De Cymru. Yn fwy diweddar mae gwaith Mohamed wedi’i gynnwys mewn nifer o arddangosfeydd grŵp mawreddog, gan gynnwys: ‘Wynebu Prydain: ffotograffiaeth ddogfennol Brydeinig ers y 1960au’ wedi curadu gan Ralph Goertz (lleoliadau amrywiol ar draws Ewrop, 2021-2023), ‘Many Voices, One Nation’, wedi curadu gan Ffotogallery a’r Senedd (lleoliadau amrywiol ledled Cymru, 2019-2020), a The Taylor Wessing Portrait Prize (Oriel Bortreadau Cenedlaethol, 2018). Yn ddiweddar cafodd ei waith ei gaffael gan gasgliadau yn cynnwys Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Chasgliad Celf Llywodraeth y DU.

Cau
Delyth Roberts
Ymddiriedolwr

Yn enedigol o Roslan yn Eifionydd, y mae Delyth Roberts newydd ymddeol o'i swydd fel Rheolwr Maes Rhaglen Addysg Gyffredinol gyda chyfrifoldeb am Lefel A yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Grŵp Llandrillo Menai. Bu'n dysgu Cymraeg Lefel A ar safle Pwllheli er 1997 a chyn hynny mewn ysgolion uwchradd yng Ngwynedd. Bu'n asesydd cymheiriaid i ESTYN ac yn Uwch Arholwr Cymraeg Safon Uwch i CBAC. Mae'n Gadeirydd Ymddiriedolaeth Park-Jones ac yn ymddiddori ym myd llenyddiaeth, cerddoriaeth a drama.

Cau
Rachel Harries
Ymddiriedolwr

Mae gan Rachel Harries flynyddoedd lawer o brofiad o weithio yn y sector cyhoeddus a’r maes llywodraethu yn benodol, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio i Archwilio Cymru. Mae hi’n teimlo’n gryf dros sicrhau bod lleisiau o gefndiroedd amrywiol yn cael eu cynrychioli yn y celfyddydau, yn enwedig llenyddiaeth.

Cau
Owain Taylor-Shaw
Ymddiriedolwr

Magwyd Owain Taylor-Shaw ym Mhen Llŷn cyn iddo symud i Gaerdydd i astudio Rheolaeth Busnes ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Owain wedi cael profiad eang o weithio ym meysydd celfyddydol, diwylliannol, y cyfryngau a'r trydydd sector. Bellach mae’n rheoli adran Datblygu Busnes, Canolfan Mileniwm Cymru, gan arwain ar bartneriaethau strategol, cynyddu incwm masnachol, cynyddu masnach ED a datblygu cynnyrch newydd.

Cau
Christina Thatcher
Ymddiriedolwr

Mae Christina Thatcher yn awdur ac yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei hymchwil presennol yn archwilio sut y gall ysgrifennu creadigol effeithio ar fywydau pobl sydd mewn profedigaeth oherwydd dibyniaeth. Mae Christina hefyd yn Olygydd Barddoniaeth i The Cardiff Review ac yn hwylusydd gweithdai llawrydd. Mae ei barddoniaeth a’i straeon byrion wedi ymddangos mewn dros 40 o gyhoeddiadau gan gynnwys The London Magazine, Planet Magazine a The Interpreter’s House. Cyrhaeddodd ei chasgliad cyntaf, More than you were, restr fer Cystadleuaeth Casgliad Barddoniaeth Debut Bare Fiction yn 2015 ac fe’i cyhoeddwyd gan Parthian Books yn 2017.

Cau
Steve Dimmick
Ymddiriedolwr

Mae Steve Dimmick yn fachgen o Blaina. Ei dad, sefydlydd Poems and Pints ym Mlaenau Gwent, wnaeth ysbydoli ei gariad at eiriau. Mae Steve yn rhedeg clwb llyfrau CardiffRead, clwb darllen a thrafod mwyaf hirhoedlog y ddinas. Yn rhinwedd y rôl hon mae wedi croesawu pobl fel Manon Steffan Ros, Chris Power, Owen Sheers, Belinda Bauer, Lemn Sissay a llawer mwy trwy ddrysau Llyfrgell Treganna. O ddydd i ddydd, mae’n dad i dri o blant, ac yn eistedd fel Rhiant-Lywodraethwr yn Ysgol Plasmawr. Mae Steve hefyd yn ymddiriedolwr gyda National Theatre Wales.

Ac yntau’n hoff o ieithoedd, cyrhaeddodd Steve rownd derfynol Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn yn 2018. Fel Cyfarwyddwr Masnachol Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, cylch gwaith Steve yw Gwneud Bywydau Pobl yn Well; rhywbeth y mae’n gobeithio ei gyflawni fel Ymddiriedolwr gyda Llenyddiaeth Cymru.

Cau
Owen Hathway
Ymddiriedolwr

Wedi’i eni a’i fagu yn y Rhondda, astudiodd Owen Wleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn symud i yrfa mewn rolau polisi a chyfathrebu amrywiol dros 20 mlynedd. Ar hyn o bryd, Owen yw Cyfarwyddwr Cynorthwyol Mewnwelediad, Polisi, Materion Cyhoeddus a Buddsoddiadau Cymunedol Chwaraeon Cymru. Yn y rôl hon mae’n goruchwylio gwaith ymchwil y sefydliad, y berthynas â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill, yn ogystal â bod yn gyfrifol am ddosbarthu arian Llywodraeth Cymru a’r Loteri i glybiau a grwpiau cymunedol ym mhob cornel o Gymru. Cyn ymuno â’r sefydliad, bu Owen yn arwain y gwaith cyfathrebu i Blaid Cymru yn Senedd Cymru ble datblygodd angerdd am rôl diwylliant mewn addysg ac ymgysylltu â phobl ifanc, yn deillio o’i amser yn arwain y gwaith polisi, cysylltiadau cyhoeddus a materion cyhoeddus yng Nghymru gyda undeb athrawon mwyaf y DU.

Mae Owen yn Cyd-gadeirio bwrdd rheoli strategol Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru ac mae’n Aelod o Fwrdd Amgueddfa Cymru ac Ymddiriedolaeth Seiclo Geraint Thomas.

Cau
Richard King
Ymddiriedolwr

Ganed Richard King i deulu dwyieithog yn Ne Cymru ac ers ugain mlynedd mae wedi byw yn sir wledig Powys, yng nghanolbarth Cymru. Ef yw awdur Original Rockers (2015), a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Gordon Burn, ac fe ddewisiwyd ei lyfr How Soon Is Now? (2012) fel Llyfr Cerddoriaeth y Flwyddyn y Sunday Times, y ddau wedi'u cyhoeddi gan Faber. Cyhoeddwyd The Lark Ascending yn 2019, ac fe’i dewisiwyd fel Llyfr y Flwyddyn Rough Trade, Mojo a’r Evening Standard. Cyhoeddwyd ei lyfr diweddaraf, Brittle With Relics, mewn clawr caled gan Faber ym mis Chwefror 2022 ac mewn clawr meddal yn 2023.

Cyn ei yrfa fel awdur, bu King yn gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth annibynnol, gan gyd-sefydlu’r label recordio Planet Records ym Mryste yn ddwy ar hugain oed. Tynnwyd rhestr y label o ddiwylliant cerddoriaeth danddaearol y ddinas, gan ryddhau cerddoriaeth gan Movietone, Third Eye Foundation, Crescent, a Flying Saucer Attack, ynghyd ag ambell fand Americanaidd gan gynnwys Yo La Tengo a Harry Pussy. Ym 1996 sefydlodd King berthynas waith gyda Domino Records yn Llundain, perthynas a barhaodd mewn amryw o ffyrdd, am dros bymtheg mlynedd.

Mae King hefyd wedi gweithio’n rheolaidd fel curadur, yn rhaglennu a chynhyrchu digwyddiadau yn y Barbican Centre, Llundain, yr Olympiad Diwylliannol, Llundain 2012, Gŵyl y Gelli, Gŵyl y Dyn Gwyrdd, lle bu’n curadu llwyfan Babbling Tongues am bum mlynedd a Gŵyl Ryngwladol Difaterwch, Bryste. Roedd King yn bartner sefydlu anrhydeddus i Do Lectures.

Cau