Ein Gwerthoedd
Bydd Llenyddiaeth Cymru yn aml yn sôn am fod yn sefydliad sy’n cael ei ‘arwain gan
werthoedd’. Ond beth yw ystyr hynny ar lawr gwlad?
Yn y ddogfen isod, rydyn ni’n cyflwyno rhai camau y byddwn ni’n eu cymryd i weithio yn unol â’n
gwerthoedd. Mae hyn yn cynnwys popeth o dalu ffioedd teg i weithwyr llawrydd i leihau ein
hallyriadau carbon. Rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn ymgorfforiad o’r newid yr hoffen ni ei
weld yn y byd, ac rydyn ni’n croesawu sylwadau ac awgrymiadau am sut y dylen ni ymddwyn.