Dewislen
English
Cysylltwch

Bydd Llenyddiaeth Cymru yn aml yn sôn am fod yn sefydliad sy’n cael ei ‘arwain gan werthoedd’. Ond beth yw ystyr hynny ar lawr gwlad?

Isod, rydyn ni’n cyflwyno rhai camau y byddwn ni’n eu cymryd i weithio yn unol â’n gwerthoedd. Mae hyn yn cynnwys popeth o dalu ffioedd teg i weithwyr llawrydd i leihau ein hallyriadau carbon. Rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn ymgorfforiad o’r newid yr hoffen ni ei weld yn y byd, ac rydyn ni’n croesawu sylwadau ac awgrymiadau am sut y dylen ni ymddwyn. Fel pawb ohonon ni, gwaith ar y gweill yw Llenyddiaeth Cymru, ac rydyn ni’n gobeithio gwella ac addasu dros y blynyddoedd sydd i ddod.

Gwaith teg i weithwyr llawrydd

Gwaith teg i weithwyr llawrydd

Mae Llenyddiaeth Cymru yn dibynnu ar weithwyr llawrydd i roi ein gweledigaeth ar waith yn effeithiol.  Mae trin y gweithlu hollbwysig hwn yn deg ac yn foesegol yn bwysig iawn inni, ac rydyn ni’n gwella ein gwaith bob blwyddyn yn hyn o beth. Fe all pob gweithiwr llawrydd (creadigol neu o fath arall) ddisgwyl cael cyfleoedd, sicrwydd, mwynhad, parch a llais yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud. Byddwn ni’n cydweithio â’r bobl sy’n gwneud gwaith llawrydd, a fydd yn:

  • Cael ffi teg (gweler isod).
  • Cael cytundeb sy’n cyflwyno’n glir ac yn gryno beth rydyn ni’n ei ddisgwyl gan y gweithiwr llawrydd, a pha gymorth y gallan nhw ddisgwyl ei gael gan Llenyddiaeth Cymru.
  • Derbyn cefnogaeth gan ddangos ein bod yn deall eu sefyllfa, gan weithio yn unol â’n polisïau, gan gynnwys ein polisïau Diogelu, Iechyd a Diogelwch a Hygyrchedd. Byddwn ni’n cynnig hyfforddiant penodol pan fydd galw am hynny.

Mae’r rhan fwyaf o’n cyfleoedd i weithwyr llawrydd, o gyfleoedd i redeg prosiectau a rolau llysgenhadol fel Bardd Cenedlaethol Cymru, yn cael eu hysbysebu fel galwadau agored a thryloyw. Mae hyn yn sicrhau ein bod ni’n dilyn dull democrataidd a theg o gysylltu â gweithwyr llawrydd. Byddwn ni hefyd yn cyhoeddi galwadau blynyddol am weithwyr llawrydd sydd â sgiliau penodol (crefftwyr, ffotograffwyr, fideograffwyr) er mwyn creu Rhestr Cyflenwyr a ffafrit wedi’i diweddaru yn hytrach na gofyn am geisiadau, neu ddyfynbrisiau niferus, ar gyfer pob prosiect.

Ffioedd teg i Awduron

Ffioedd teg i Awduron

Un o’r rhannau allweddol o ddarparu gwaith teg i weithwyr llawrydd yw sicrhau ffioedd teg. Yn 2022 fe wnaethom gyflogi Prifysgol Aberystwyth i lunio astudiaeth o ffioedd teg yng Nghymru. Fe wnaeth yr ymchwil gynnwys 111 o awduron a threfnwyr digwyddiadau mewn arolygon a chyfweliadau i bennu amrywiaeth o rwystrau i awduron rhag cael cyflog teg. Er enghraifft, sefydliadau sydd ddim yn deall y gwaith a’r costau sy’n gysylltiedig â chyflwyno gwaith i awduron, neu awduron sydd heb yr hyder i drafod ffi uwch.

Mae’r ymchwil hwn yn dangos yn glir y problemau o fewn yr ecosystem lenyddol yng Nghymru ynghylch gwaith teg. Fodd bynnag, nid yw’r camau angenrheidiol yn glir nac yn hawdd. Bydd angen i’r sector lenyddol gyfan – cynulleidfaoedd, awduron, trefnwyr cymunedol, gwyliau, siopau llyfrau, sefydliadau mwy, a chyllidwyr – gydweithio i greu sector cryf a chynrychioliadol sy’n cefnogi awduron i ddatblygu gyrfaoedd cynaliadwy. Gall siarad am arian fod yn anghyfforddus ond mae’n hynod o bwysig a dyma’r unig weithred a fydd yn arwain at newid ystyrlon.

Fel y cwmni cenedlaethol sydd yn gyfrifol dros ddatblygu llenyddiaeth, rydym am arwain trwy esiampl. Felly, rydym yn ymrwymo i gyhoeddi’n flynyddol y ffioedd rydym wedi’u talu, a phennu ystodau ffioedd ar gyfer y flwyddyn i ddod. Yn ogystal, byddwn ond yn partneru â sefydliadau sydd hefyd yn ymrwymo i dalu’r cyfraddau hyn, ac ni fyddwn yn dosbarthu cyllid i sefydliadau nad ydynt yn talu ffioedd teg.

Nid ydym yn ceisio cyfyngu ar awduron sy’n dymuno gweithio am ddim neu am ffioedd is o fewn eu cymunedau neu ar gyfer digwyddiadau penodol i gefnogi achos neu i ddatblygu eu gyrfaoedd, fodd bynnag rydym yn gofyn iddynt egluro pam fod eu cyfradd yn is/am ddim i drefnwyr digwyddiadau er mwyn hwyluso dealltwriaeth ehangach o bwysigrwydd gwaith teg i awduron. Gofynnwn i bob trefnydd digwyddiadau feddwl yn ofalus am gynigion ffioedd awduron cyn cysylltu â nhw, ac i fod yn agored ac yn barod i drafod gyda’r awduron.

O ganlyniad i’r adroddiad hwn, byddwn yn gweithredu:

– Tryloywder: Diweddaru ein canllawiau ffioedd yn flynyddol, ac adrodd ar y ffioedd rydym wedi eu talu i artistiaid am wahanol fathau o weithgareddau llenyddol yn ystod y flwyddyn flaenorol ar ein gwefan.

– Parch: Rydym yn addo talu awduron yn deg ac yn brydlon, gan gymryd gwaith paratoi a threuliau i ystyriaeth.

– Pŵer: Byddwn yn rhoi’r offer i awduron drafod yn effeithiol, gan gynnal gweminarau (webinars) hyfforddi agored wedi’u cynllunio i feithrin hyder, sgiliau a gwybodaeth. Yn ogystal, bydd ein holl raglenni datblygu awduron hirdymor yn cynnwys gwybodaeth ar ddatblygu sgiliau proffesiynol ochr yn ochr â’u gwaith creadigol.

– Cefnogaeth: Byddwn yn cynyddu ein Cronfa Ysbrydoli Cymunedau i £30,000 y flwyddyn o 2024 ymlaen, ac yn cynyddu’r canran y gall trefnwyr digwyddiadau wneud cais amdano i hyd at 75% o ffioedd a threuliau awduron. Yn ogystal ag addo’r swm hwn ar gyfer 2024, byddwn yn mynd ati i godi arian i gynyddu’r cyllid sydd ar gael ar gyfer y dyfodol.

– Platfform: Byddwn yn defnyddio ein platfform a’n rhwydweithiau i eirioli dros newid. Byddwn yn cefnogi trefnwyr digwyddiadau cymunedol trwy ein Cronfa Ysbrydoli Cymunedau i ddeall y materion sy’n wynebu awduron ac eirioli dros ffioedd teg. Byddwn yn cynnal ymgyrch gyfathrebu barhaus sy’n arddangos yr amrywiaeth o lwybrau gyrfa a ffrydiau incwm sydd ar gael i awduron. Bydd ein negeseuon yn ceisio hysbysu cynulleidfaoedd o realiti – y cyfleoedd a’r heriau – y proffesiwn ysgrifennu.

Gwaith teg i staff ar gontract

Gwaith teg i staff ar gontract

Mae gweithwyr Llenyddiaeth Cymru yn gwbl ganolog inni. Rydyn ni’n dibynnu arnyn nhw er mwyn cyflawni uchelgeisiau a blaenoriaethau Cynllun Strategol 2022-2027 yn effeithiol. Mae iechyd a llesiant ein tîm yn bwysig inni ac rydyn ni’n cydnabod pwysigrwydd creu a chynnal diwylliant iach, cefnogol a chynhwysol sydd hefyd yn adlewyrchu gwir natur cymunedau cyfoethog ac amrywiol Cymru.

Mae ein dull o weithio yn y maes adnoddau dynol wedi’i seilio ar dryloywder, ar ymgynghori, ar atebolrwydd ac ar ddysgu.

Mae gwaith teg yn waith sy’n rhoi cyfleoedd, diogelwch, mwynhad a llais i weithwyr, ac yn waith sy’n dangos parch. Mae hefyd yn golygu rheoli a chydbwyso hawliau a chyfrifoldebau sefydliad â rhai ei weithwyr.

Mae’r canlynol yn hollbwysig er mwyn sicrhau gwaith teg i’r holl staff sydd dan gontract:

  • Sicrhau bod Bwrdd Rheoli yr Ymddiriedolwyr yn adolygu ac yn diweddaru’r Polisi Tâl yn flynyddol. Mae hyn yn sicrhau bod cyflogau’n parhau’n gystadleuol yn y farchnad lafur, drwy gynnal adolygiadau o gyflogau a chan dalu unigolion yn unol ag arferion a safonau arferol y diwydiant.
  • Diweddau’r Polisi Cyfleoedd Cyfartal bob blwyddyn i sicrhau nad yw staff a gweithwyr posibl yn dioddef o wahaniaethu ar sail rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, oedran, anabledd, statws ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, neu gan eu bod yn gweithio ar sail ran amser neu ar gontract cyfnod penodol.
  • Ni fyddwn ni’n cynnig contractau dim oriau i unrhyw aelod o staff, a byddwn ni wastad yn talu Cyflog Byw Gwirioneddol presennol y Deyrnas Unedig i bob aelod o staff sydd ar gontract.
  • Rydyn ni’n cydnabod pwysigrwydd cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, ac yn cynnig 25 diwrnod o wyliau blynyddol ar sail pro rata, yn ogystal â gwyliau banc a gwyliau braint, cyfleoedd i wirfoddoli, a hyfforddiant yn ystod oriau gwaith.
  • Byddwn ni’n sicrhau bod ein harferion recriwtio – yn fewnol ac yn allanol – yn deg ac yn dryloyw, gan gydymffurfio â’n Polisi Cyfleoedd Cyfartal ac â’r gyfraith.
  • Rydyn ni’n cynnig trefniadau gweithio hybrid, sef trefniant gweithio hyblyg, anffurfiol, sy’n rhoi’r cyfle i weithwyr rannu’r amser y byddan nhw’n ei dreulio yn y gweithle ac mewn lleoliad gweithio o bell (e.e. gartref). Serch hynny, gall hyn fod yn wahanol rhwng gwahanol weithwyr yn dibynnu ar natur y tasgau/cyfrifoldebau ac ar yr angen i ofalu am eu llesiant.
  • Byddwn ni wastad yn annog staff i fod yn aelodau o undebau llafur.
  • Rydyn ni’n annog diwylliant o fod yn agored yn y sefydliad, ac yn credu y gall hyn helpu i atal camymarfer – mae atal pethau’n well na cheisio’u datrys yn nes ymlaen. Serch hynny, mae gennyn ni bolisi chwythu’r chwiban a phrosesau cwyno i sicrhau bod gweithwyr yn cael eu trin yn deg, ac yn unol â’r gyfraith, os a phan fyddan nhw’n mynegi pryderon.
  • Byddwn ni’n adolygu ein polisïau a’n gweithdrefnau bob blwyddyn ar ôl ymgynghori â’r gweithwyr a’r Ymddiriedolwyr.

Cynaliadwyedd

Cynaliadwyedd

Yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae Llenyddiaeth Cymru yn cydnabod ac yn derbyn ei bod hi’n argyfwng hinsawdd, a bod hynny’n cael effaith drychinebus ar ein byd ac ar fywydau pobl. Rydyn ni’n derbyn bod hyn yn effeithio waethaf ar y bobl dlotaf.

Byddwn ni’n gweithredu pan allwn ni, er mwyn atal yr argyfwng rhag gwaethygu ymhellach ac i godi ymwybyddiaeth drwy ein gwaith. Byddwn ni’n gweithio gyda phartneriaid a’n cynulleidfaoedd i geisio creu Cymru sy’n wyrddach, yn decach ac yn fwy ffyniannus. I helpu i fynd i’r afael â’r heriau hyn a gwneud Llenyddiaeth Cymru yn sefydliad mor gynaliadwy â phosibl:

  • Byddwn ni’n mynd ati’n bwrpasol i roi ein Cynllun Gweithredu Cynaliadwyedd ar waith. Cynllun yw hwn sy’n cyflwyno camau gweithrediadol llym i gyfyngu ar ein hôl-troed carbon ac sy’n rhoi manylion am sut y gall rhai o’n prosiectau creadigol roi sylw i’r argyfwng hinsawdd yn thematig.
  • Er y byddwn ni’n ystyriol o dlodi digidol a’r rheini sy’n llai rhugl wrth ddefnyddio technoleg, byddwn ni’n lleihau ôl-troed carbon digwyddiadau llenyddol drwy gynyddu digwyddiadau rhithwir neu hybrid i gymharu gyda digwyddiadau wyneb yn wyneb.
  • Byddwn ni’n defnyddio creadigrwydd i addysgu, archwilio a herio, gan gynyddu gwybodaeth pobl am yr argyfwng hinsawdd ac ysbrydoli newid a fydd yn para.
  • Byddwn ni’n cefnogi cynhyrchwyr a chyflenwyr lleol wrth gael gafael ar gynhwysion a chynnyrch i Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, gan fanteisio ar gynnyrch tymhorol a milltiroedd bwyd is.
  • Byddwn ni’n canolbwyntio ar weithio yn lleol ac yn cynorthwyo i ddatblygu cymunedau cydnerth drwy gefnogi digwyddiadau llenyddol lleol a phrosiectau ystyrlon ym maes llenyddiaeth er iechyd a llesiant.
  • Fel busnes, ni fyddwn ni’n teithio ar awyrennau, a byddwn ni hefyd yn annog staff, ymddiriedolwyr a’r awduron rydyn ni’n gweithio gyda nhw i ddefnyddio opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus pan fydd hynny’n bosibl.
  • Byddwn ni’n gweithio i ddod yn sefydliad carbon niwtral.

Codi Arian yn Foesegol a Phartneriaethau

Codi Arian yn Foesegol a Phartneriaethau

Elusen yw Llenyddiaeth Cymru ac mae angen inni godi arian drwy amryw o gyllidwyr a phartneriaid er mwyn cyflawni ein gweledigaeth.   Mewn gair, po fwyaf o arian y byddwn ni’n ei godi, y mwyaf o effaith y byddwn ni’n ei chael.

Serch hynny, mae o ble y daw ein harian yn bwysig inni, ac rydyn ni’n ceisio codi arian mewn ffordd mor foesegol â phosibl.

Mae ein Polisi Codi Arian yn Foesegol yn amlinellu enghreifftiau yr hyn nad ydyn ni’n ei wneud (fel peidio â derbyn arian gan bobl neu sefydliadau sy’n rhan o fusnesau tanwyddau ffosil, neu ar ran pleidiau gwleidyddol), ond mae’r sefyllfa foesegol yn go niwlog wrth edrych ar nifer o ffynonellau cyllid posibl.   Rydyn ni wedi datblygu system fewnol drylwyr i bwyso a mesur manteision posibl neu effeithiau niweidiol cyllid, ac mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn goruchwylio’r system hon.

Mae llawer o waith Llenyddiaeth Cymru’n cael ei wneud mewn partneriaeth ag elusennau a busnesau eraill.  Yn aml, bydd ein partneriaid yn ein helpu i gyrraedd cymuned benodol, neu maen nhw’n arbenigwyr yn eu meysydd.

Mae’n bwysig i ni bod ein partneriaid yn rhannu ein gwerthoedd a’n gweledigaeth. Dyna pam mae gennyn ni broses drylwyr i ddatblygu partneriaethau, gan gynnwys cynnal sgwrs ar y dechrau’n deg am ein gwerthoedd a’n hegwyddorion wrth gyflawni, ac mae’r rhain wedyn yn cael eu gwreiddio yn nogfennau cytundebau’r partneriaethau.

Ein nod yw bod yn dryloyw ynghylch o ble y daw ein harian a sut y mae’n cael ei wario.  Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael mwy o wybodaeth, darllenwch ein hadroddiadau blynyddol neu cysylltwch â ni.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Nod Llenyddiaeth Cymru yw bod yn groesawgar ac yn garedig wrth ddod ag ystod amrywiol o bobl ynghyd yn y sector celfyddydau a llenyddiaeth – boed yn awduron, yn gynulleidfaoedd, yn weithwyr llenyddol proffesiynol, yn gynhyrchwyr, yn staff, yn ddarllenwyr neu’n gyfranogwyr – a hynny waeth beth fo’u cefndir. Rydyn ni’n gwmni cenedlaethol sydd â gwerthoedd cynhwysol, ac rydyn ni am i bawb yng Nghymru allu ymwneud â ni ac â’n gwaith. Rydyn ni’n gwybod bod amryw o rwystrau’n dal i fodoli yn y sector a’r rheini’n atal awduron, darllenwyr a chynulleidfaoedd rhag ymwneud â llenyddiaeth. Er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn a gwneud Llenyddiaeth Cymru mor gynhwysol â phosibl:

  • Byddwn ni’n cynnig Rhestr o Ofynion Hygyrchedd i bob hwylusydd sy’n cynnal prosiectau o dan gontractau inni, gan sicrhau ein bod ni’n gallu creu amgylchedd hygyrch, diogel a chyfforddus iddyn nhw weithio ynddo. Bydd gofynion hygyrchedd pob unigolyn yn unigryw, ond drwy’r Rhestrau hyn o Ofynion, ein gobaith yw dysgu mwy am sut i wneud ein digwyddiadau a’n prosiectau yn fwy cynhwysol a hygyrch i bawb.
  • Fel y gwelir yn yr adran am Gyfathrebu, byddwn ni’n darparu cynnwys mewn fformatau niferus, er mwyn i’n cynulleidfaoedd allu eu defnyddio’n rhwydd.
  • Bydd tîm o staff Llenyddiaeth Cymru yn cymryd rhan yn rheolaidd meswn sesiynau hyfforddiant ym maes cynhwysiant, gan gynnwys hyfforddiant yn y meysydd Hygyrchedd, Anabledd, Hyfforddiant Gwrth-Hiliaeth, ac Ymwybyddiaeth o Fyddardod.
  • Byddwn yn rhagweithiol yn ein cefnogaeth i bolisi gwrth hiliaeth Llywodraeth Cymru
  • Byddwn yn parhau i ddefnyddio proses recriwtio sy’n annog cynhwysiant a thryloywder. Er enghraifft, rydym yn cymryd camau cadarnhaol drwy gynnig cyfweliadau gwarantedig i ymgeiswyr sy’n bodloni gofynion addasrwydd y rôl ac sy’n nodi eu bod wedi’u tangynrychioli o fewn y sector llenyddol.
  • Bydd y rhan fwyaf o’n gweithgareddau yn rhad ac am ddim, ac yn ceisio apelio at grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli. Ar gyfer rhaglen o gyrsiau agored Tŷ Newydd, bydd ysgoloriaethau ar gael i awduron nad ydyn nhw’n gallu mynychu, a bydd rhaglen gyfochrog o gyrsiau strategol yn cael ei darparu i roi hyfforddiant datblygu awduron yn rhad ac am ddim i grwpiau penodol.
  • Byddwn ni’n ceisio cyflogi mwy o staff, ac yn rhoi contractau (ac hyfforddiant) i fwy o hwyluswyr a thiwtoriaid sydd ag amrywiaeth eang o brofiadau bywyd. Wrth gynnal ein gweithgareddau, bydd y rhain yn batrymau i’w hefelychu ac yn gallu annog grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli i deimlo’n gyfforddus yn cymryd rhan yn ein gwaith.
  • Byddwn ni’n arbrofi â gwahanol blatfformau er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd, gan ddefnyddio ystafelloedd cyfarfod rhithwir i gyrraedd y rheini nad ydyn nhw’n gallu teithio, ond gan fod yn ymwybodol o’r heriau sy’n gysylltiedig â thlodi digidol.
  • Mae gennyn ni Gynllun Datblygu’r Gymraeg sy’n amlinellu ein cyfrifoldeb tuag at y Gymraeg. Byddwn ni’n sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei thrin yn gyfartal â’r Saesneg ym mhopeth a wnawn, a bod siaradwyr Cymraeg yn cael eu cynnwys yn ein rhaglenni.

Cyfathrebu

Cyfathrebu

Mae Llenyddiaeth Cymru’n ceisio sicrhau bod ei holl ddeunydd cyfathrebu yn ddefnyddiol ac yn berthnasol i’w gynulleidfaoedd, a’u bod yn gallu ymwneud â’r sefydliad yn y ffordd sy’n fwyaf addas iddyn nhw. Rydyn ni’n anelu at sicrhau bod ein deunydd cyfathrebu yn glir, yn gryno ac yn gywir, gan sicrhau hefyd bod y dôn a’r cynnwys yn addas i’r gynulleidfa dan sylw.

  • Canolbwyntio ar werthoedd: Byddwn ni wastad yn cadw at ein gwerthoedd, a bydd y rhain yn sail i’n deunydd cyfathrebu, gan gynnwys pa bapurau newydd y byddwn ni’n cysylltu â nhw i geisio sicrhau sylw, ble y byddwn ni’n gosod hysbysebion, pa negeseuon allanol ar y cyfryngau cymdeithasol y byddwn ni’n eu rhannu, ac at ba fath o ddigwyddiadau y byddwn ni’n cyfrannu.
  • Cynhwysol: Byddwn ni’n ceisio darparu cynnwys mewn fformatau niferus, er mwyn i’n cynulleidfaoedd allu eu defnyddio’n rhwydd. Mae hyn yn cynnwys rhoi isdeitlau ar ein fideos, darparu fersiynau o ddogfennau cyhoeddus sy’n ystyriol o Ddyslecsia, darparu sgrindeitlo byw ar gyfer digwyddiadau ar-lein pan fydd hynny’n bosibl, a rhagor.
  • Proffesiynol: Byddwn ni’n gwrtais, yn deg ac yn dangos parch.
  • Cyfrifol: Byddwn ni’n ystyriol o breifatrwydd pobl eraill ac yn parchu cyfrinachedd. Byddwn ni wastad yn gweithredu pan welwn ddeunydd cyfathrebu sy’n dangos ymddygiad neu iaith sy’n anaddas yn ein barn ni, a byddwn ni’n rhoi gwybod i’r awdurdodau perthnasol am unrhyw ohebiaeth neu negeseuon sy’n mynd gam yn rhy bell. Byddwn ni’n cydymffurfio â holl bolisïau Llenyddiaeth Cymru sy’n gysylltiedig â chyfathrebu, gan gynnwys ein Polisi TG, Teleffon a Chyfathrebu; Polisi’r Cyfryngau Cymdeithasol; ein Canllawiau Cymunedol; Cynllun Datblygu’r Gymraeg; a thelerau platfformau’r cyfryngau cymdeithasol rydyn ni’n eu defnyddio.
  • Cywir: Rydyn ni’n ceisio sicrhau bod ein cynnwys yn gywir a bod y ffeithiau’n cael eu gwirio pan fydd angen gwneud hynny. Os byddwn ni’n gwneud camgymeriad, byddwn ni’n ei gywiro’n ddi-oed.
  • Tryloyw: Byddwn ni’n glir ac yn agored am ein gweithgareddau – am sut y mae penderfyniadau’n cael eu gwneud ac am sut y maen nhw’n cael eu rhoi ar waith a’u hariannu.

Iaith: Byddwn ni’n rhannu ein cynnwys yn Gymraeg ac yn Saesneg ac yn sicrhau bod modd i’n cymuned ymwneud â ni yn y naill iaith neu’r llall. Byddwn ni’n dangos parch at holl ieithoedd Cymru ac yn dathlu amlieithrwydd ein cymunedau.

Tryloywder

Mae Llenyddiaeth Cymru’n cydnabod bod angen bod yn dryloyw. Rydyn ni eisiau bod yn atebol i’n cyllidwyr, i’n rhanddeiliaid ac i’r cyhoedd yn gyffredinol. Byddwn ni’n sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol ar gael i’r cyhoedd, a byddwn ni’n ymateb i geisiadau rhesymol am wybodaeth ychwanegol mewn ffordd briodol.

 

Byddwn ni wastad yn gwneud y pethau hyn:

  • Rhannu ein hadroddiad blynyddol a’n cyfrifon ar ein gwefan ac â Thŷ’r Cwmnïau. Bydd hyn yn cynnwys:
    • y gwariant ar ffioedd a threuliau awduron yn ystod y flwyddyn ariannol
    • dadansoddiad o’n hincwm, % yr incwm a gafwyd o gyllid cyhoeddus, o incwm masnachol, o roddion ac ati.
  • Cyhoeddi ein hadroddiadau effaith chwarterol ar ein gwefan, sy’n cynnwys ein cynnydd o dan yr amcanion a osodir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ynghyd â thargedau gweithrediadol mewn meysydd fel Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, a Chynaliadwyedd.
  • Cwblhau ffurflenni blynyddol y Comisiwn Elusennau’n brydlon bob blwyddyn, gan adrodd am lefelau incwm a gwariant y flwyddyn ariannol flaenorol.
  • Cofnodi’n gywir unrhyw daliadau i’n hymddiriedolwyr am wasanaethau, e.e. ffioedd awduron, mewn Cofrestr o Fuddiannau. Caiff y gofrestr hon ei diweddaru bob chwarter a’i chyhoeddi ar wefan y sefydliad.
  • Cydnabod cyfraniadau ein partneriaid at brosiectau ac adlewyrchu hyn mewn unrhyw ddeunyddiau hyrwyddo, h.y. ar y cyfryngau cymdeithasol, taflenni, posteri.
  • Rhannu gwersi creadigol a gweithrediadol i’w dysgu â’r sector, drwy ein hadroddiadau sefydliadol trwy rwydweithiau, a’u rhannu hefyd â phartïon sydd â diddordeb.
  • Ymateb i geisiadau rhesymol am wybodaeth am ein rhaglen, neu gyngor, o fewn 10 niwrnod gwaith. Gallai ceisiadau cymhleth gymryd hwy, ond o fewn yr amser hwnnw gall rhywun ddisgwyl ymateb sy’n esbonio pryd y dylen nhw glywed rhagor, ynghyd â chael manylion cyswllt aelod dynodedig o staff.
  • Ymateb i gwynion yn brydlon ac mewn ffordd resymol.
Nôl i Gyrfaoedd a Chyfleoedd gyda Llenyddiaeth Cymru