Adroddiad Canol Tymor ein Cynllun Strategol 2019-2022
Rydyn ni’n grymuso, yn gwella ac yn cyfoethogi bywydau drwy lenyddiaeth. Mae ein prosiectau’n ceisio gwneud gwir wahaniaeth, a thrwy eiriau rydyn ni’n helpu i lywio cymdeithas, economi a diwylliant Cymru.
Mae’r diweddariad sefydliadol hwn yn dangos ein cynnydd a ninnau hanner ffordd drwy Gynllun Strategol 2019-2022. Rydyn ni’n dangos sut mae Llenyddiaeth Cymru, er gwaethaf amgylchiadau anodd 2020, wedi helpu i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol, wedi datblygu lleisiau llenyddol mwy amrywiol, ac wedi creu cyfalaf diwylliannol ac economaidd inni i gyd.