Dewislen
English
Cysylltu

Datblygu Awduron

Rydym yn galluogi awduron Cymru i achub ar gyfleoedd i fireinio a datblygu eu sgiliau. Mae hyn yn datblygu potensial creadigol a phroffesiynol egin awduron.

Mae awduron yn ganolog i waith Llenyddiaeth Cymru, a credwn mewn buddsoddi ar yr amser iawn er mwyn sicrhau’r datblygiad artistig a phroffesiynol gorau posib gan annog awduron newydd i fentro a meithrin hyder yn eu gallu a’u sgiliau hwy eu hunain.

Mae ein gwaith Datglybu Awduron yn sicrhau bod gan awduron Cymru gyfleoedd i helpu siapio eu gyrfa a’r sgiliau sydd am eu gwneud hwy yn fwy cyflogadwy. Rydym yn awyddus i weld awduron yn cynhyrchu gwaith newydd o sylwedd sy’n rhagorol, yn arloesol, yn wreiddiol ac yn amlwg Gymreig.


Cip ar Weithgaredd: Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd

 

Mae Llenyddiaeth Cymru yn rhedeg Tŷ Newydd, Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru. Arbenigedd Tŷ Newydd yw trefnu cyrsiau ysgrifennu creadigol preswyl, ac mae’r ganolfan yn croesawu grŵp newydd bob wythnos. Mae’n cynnig cyfle i fynychwyr dreulio amser gydag eraill dan arweiniad awduron proffesiynol, i gymryd rhan mewn gweithdai a thiwtorialau un-i-un, i fwynhau darlleniadau, ac i ymhyfrydu yn awyrgylch ysbrydoledig Tŷ Newydd.

Yn ystod 2018-19 cynhaliwyd 55 cwrs ysgrifennu creadigol, gyda 770 wedi mynychu gyda chymorth 100 o diwtoriaid yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Dywedodd 97% o’r rheiny a fynychodd y buasent yn dychwelyd.

Mae Bethan Gwanas yn awdur ffuglen, llyfrau ffeithiol, a llyfrau i blant. Mae hi wedi mynychu sawl cwrs yn Nhŷ Newydd dros y blynyddoedd, ac yn dychwelyd yn aml i diwtora cyrsiau i ddysgwyr sy’n mynd ati i lenydda. Dyma ddywedodd Bethan am Dŷ Newydd:

“Dwi’n meddwl mai 1993 oedd hi pan gerddais i drwy ddrws Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd am y tro cyntaf. Ro’n i wedi cael y gyts o’r diwedd i roi fy enw ar gwrs ‘Dechrau Ysgrifennu’, cwrs dan arweiniad John Rowlands a Harri Pritchard Jones. Ac mae’n dda gen i ddeud i’r profiad fod yn un diddorol, addysgiadol a hynod hwyliog, ac es i adre wedi fy ysbrydoli go iawn. Ro’n i wedi bod yn rhyw botsian sgwennu cyn hynny, ond y penwythnos yn Nhŷ Newydd roddodd i mi’r hyder a’r gic yn dîn ro’n i ei angen.

Ymhen blwyddyn neu ddwy (a chwrs arall neu saith – roedd gen i dipyn i’w ddysgu) ro’n i wedi magu digon o hyder i feddwl am sgwennu nofel. Nofel am ferched yn chwarae rygbi, a diawcs, mi werthodd reit dda, felly mi ges i’r hyder a’r awydd i sgwennu mwy wedyn: dros 30 cyfrol bellach.

Fyddwn i’n awdures rŵan onibai am gyrsiau Tŷ Newydd? Dwi ddim yn siŵr.

Yn Nhŷ Newydd y ganwyd Blodwen Jones. Mae’r drioleg am honno wedi helpu miloedd (o ddifri, miloedd – mae’r llyfr cyntaf yn ei 9fed argraffiad) o oedolion sy’n dysgu Cymraeg i ddechrau mwynhau darllen llyfrau drwy gyfrwng eu hiaith newydd.

Braf ydi gallu gweithio a sgwrsio efo pobl o’r un anian â chi, ac mae hynny’n ran mawr o’r hyn sy’n gwneud Tŷ Newydd yn arbennig. Mae pawb sy’n sgwennu fymryn bach yn od, dach chi’n gweld. Wel, dydan ni ddim go iawn, ond mae’r rhan fwya o bobl sydd ddim yn sgwennu yn meddwl ein bod ni’n od, hyd yn oed ein ffrindiau agos a’n teuluoedd. Felly mae gallu cymdeithasu efo criw o bobl sydd i gyd fymryn bach fel chi yn falm ar yr enaid.

Ar ôl sbel, gofynwyd i mi fyddwn i’n fodlon bod yn diwtor yno fy hun. Argol, ges i sioc. Fi?! Ond ro’n i wedi cael cyfle i bigo chydig o dips gan awduron profiadol erbyn hynny, a dwyn syniadau gan bobl fel y diweddar Jan Mark a Valerie Bloom, Mihangel Morgan ac Aled Lewis Evans, felly mi gytunais, ac mi wnes i fwynhau pob eiliad. Dwi wedi cyd-gynnal sawl cwrs yno bellach, rhai ar gyfer pobl sy’n dysgu Cymraeg hefyd, ac er ei fod o’n waith caled, mae’n fraint gallu helpu cyw-awduron eraill i ennill yr hyder a’r sgiliau i ddal ati. O, ac mae’r tâl o gymorth mawr i rywun sy’n ceisio crafu bywoliaeth drwy sgwennu rhyddiaith yn Gymraeg.

Yn y bôn, mae Tŷ Newydd yn drysor cenedlaethol.”

 

Dilynwch y ddolen i ddysgu mwy am Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd

 


Cip ar Weithgaredd: Ysgoloriaethau i Awduron a Chynllun Mentora Llenyddiaeth Cymru 

 

Sut y defnyddiodd Eloise Williams ei hysgoloriaeth awdur i ysgrifennu Gaslight:

“Rhoddodd y gallu i mi dreulio amser ar fy ysgrifennu creadigol.

Roedd y llyfr a gynnigiais wedi ei leoli yng Nghaerdydd yn Oes Fictoria. Chwedl adynod a dihirod, ac arwr nerthol; a phroblem fawr ac agwedd gref oes Fictoria. Roedd yn mynd i fod yn ‘thriller’. Roedd gen i obeithion mawr i’w wneud yn gyffrous ac yn wahanol, neu’n ddarllenadwy o leiaf.  Ond, doedd gen i ddim syniad os y byddai’n gweithio.

Cafodd fy llyfr cyntaf Elen’s Island  ei gyhoeddi gan yr hyfryd Firefly Press ac fe dderbyniodd glod uchel yng ngwobrau Tir na n-Og Cyngor Llyfrau Cymru, ond ni wyddwn i os oedd gen i’r gallu i lwyddo yn yr hir dymor fel awdur ar gyfer pobl ifanc – mae’n waith ansicr iawn.

Mae hi’n farchnad gystadleuol iawn ond  gan bod gen i fwy o amser, diolch i’r ysgoloriaeth, a chymorth gan Llenyddiaeth Cymru, roedd yn amlwg mai paerhau ar y trywydd hwn oedd yr ateb. Dechreuais fy siwrnai mewn fflip-fflops, cyn parhau â’r daith esgidiau cerdded pwrpasol.

Brwydrais drwy ddrafft cyntaf Gaslight, a chael y mwyafrif ohono’n anghywir. Brwydrais drwy’r ail ddrafft a chael ychydig ohono’n gywir. Brwydrais drwy fwy o ddrafftiau. Roedd yn gyfnod o arbrofi ac o gymlethtod, ond daeth at ei gilydd yn y diwedd.  Mi fyswn i’n dal wrthi’n ceisio’i ysgrifennu pe na bawn i wedi cael ail-farn fy ngolygydd dibynadwy, Janet Thomas.

 

“Defnyddiais yr ysgoloriaeth i brynnu amser. Amser i feddwl, i freuddwydio, i ysgrifennu, i ymchwilio, i ddwdlan, i grwydro’r traethau a’r coedwigoedd, ac i ddychmygu, dychmygu a mwy o ddychmygu. Brwydr. Ces amser i ystyried syniadau newydd o ddifrif. Rhoddodd gyfle i mi wneud camgymeriadau ac i greu byd yr oeddwn i wir yn credu ynddi. Rhoddodd gyfle i mi frwydro i gyfiawnhau’r stori hon, ac felly fe gafodd y cyfle gorau posib i gael ei adrodd yn y ffordd orau.”

Eloise Williams

Yn y pen draw, fe werthodd pob copi o Gaslight  mewn digwyddiad yng Ngŵyl Llên Plant Caerdydd, ac wrth i mi adrodd rhai o’r geiriau ar lafar am y tro cyntaf, gwyddwn yn iawn mai dilyn fy nghalon (oedd ar y pryd yn curo’n drwm) oedd y peth iawn i wneud.”

Fe ennillodd Gaslight wobr Llyfr Pobl Ifanc y Flwyddyn Wales Arts Review 2017.

 

Nôl i Ein Heffaith