Dewislen
English
Cysylltu

Rydym yn darparu rhagor o gyfleoedd i bobl Cymru gymryd rhan mewn gweithgareddau ysgrifennu creadigol, ac yn dyfnhau eu heffaith. Trwy hyn byddwn yn ysbrydoli rhai o’n hunigolion a’n cymunedau mwyaf ymylol drwy eu galluogi i gymryd rhan mewn gweithgaredd llenyddol.

Bob blwyddyn, mae dros 900,000 o bobl yn ymwneud â gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni neu eu cefnogi gan Llenyddiaeth Cymru. Mae ein gweithdai, ein digwyddiadau a’n prosiectau yn gwella sgiliau, yn lleihau rhwystrau cymdeithasol ac economaidd, ac yn defnyddio geiriau ar lafar ac yn ysgrifennedig i rymuso, gwella a chyfoethogi bywydau ein cleieintiaid.

 

 


Cip ar Weithgaredd: Llên Pawb | Lit Reach

 

Mae prosiect cymunedol Llên Pawb yn cael ei gyflawni gan Llenyddiaeth Cymru drwy gydweithio â sefydliadau amrywiol ledled Cymru. Mae’r gweithdai llenyddiaeth, sydd wedi’u teilwra i gynyddu canlyniadau penodol, yn gwella lefelau llythrennedd, cyflogadwyedd, cynhwysiant cymdeithasol, hunanhyder a chydnerthedd.

Yn 2018-19, cyflawnwyd dros 190 o weithdai dros Gymru, gan ymwneud â 2,800 o unigolion. Cafodd dros £30,000 ei wario ar ffioedd artistiaid prosiect Llên Pawb.

Mae’r prosiect hwn yn paru artist neu awdur gyda grŵp cymunedol a fydd yn cael budd o ymwneud a llenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol. Er enghraifft, mewn cydweithrediad gyda Women’s Aid Port Talbot & Afan, arweiniodd Rufus Mufasa gyfres o weithdai gyda menywod o’r LIFE Survivors Network gan greu cerddi a chaneuon, wedi eu hysbrydoli gan eu profiadau, ar gyfer eu sioe ffasiwn flynyddol. Doedd y mwyafrif ohonynt heb ymwneud yn ymarferol a llenyddiaeth ers bod yn yr ysgol, a doedd eraill erioed wedi darllen cerdd ar lafar. Yn y gweithdai, cafodd ysgrifennu creadigol ei ddefnyddio fel ffordd wahanol i’r menywod fynegi eu hunain. Yn ôl un aelod o staff Port Talbot & Afan Women’s Aid:

“Mae’r merched yn gadael y gweithdai fymryn yn dalach bob wythnos.”

Mae Llên Pawb hefyd wedi cyfrannu’n ehangach at y sector gelfyddydol yng Nghymru drwy:

  • Ddarparu esiampl flaenllaw o waith cyfranogi sy’n cynnig canlyniadau sydd wedi eu teilwro, sy’n fesuradwy, ac sy’n codi safon gwaith eraill drwy feithrin sgiliau trosglwyddadwy
  • Ysbrydoli’r celfyddydau i geisio gwaredu tlodi drwy sefydliadau anghelfyddydol yn y dyfodol, a chodi barn y cyhoedd a’r llywodraeth ar werth y sector fel canlyniad.
  • Darparu hyfforddiant a phrofiadau cyfranogi ar gyfer amrywiaeth o artistiaid llenyddol, a rhoi cyfle iddynt oll weithio ar groestoriad o brosiectau celfyddydol. Byddai hyn felly yn cynnig llwybr arall ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth a sgiliau.

“Gweithdai hudol. Dwi eisiau dysgu mwy. Mae wedi bod yn hwyl a doeddwn i ddim yn gwybod nad oedd angen i farddoniaeth odli. Mi wnes i fwynhau canu, nes i ddysgu mwy o eiriau… wyddwn ni ddim y gallwn ni ei wneud.”

Gan unigolyn a gymerodd ran mewn gweithdy Llên Pawb.

 

 


Cip ar Weithgaredd: Preswyliad Awduron Ifanc

 

Rhwng Mawrth 2018 a Mawrth 2019, cynhaliwyd preswyliadau yn Nhŷ Tredegar a Chastell y Waun (Ymddiriedolaeth Genedalethol) ac yng Ngwaith Haearn Blaenafon a Plas Mawr (Cadw), gyda phreswyliad ar-y-cyd yn Nhŷ a Chastell Dinefwr. Cafodd 64 o bobl ifanc y cyfle i weithio gyda’r awduron Sophie McKeand a Clare e. potter a’r gweithiwr theatr Llinos Jones fel rhan o’r preswyliadau hyn.

Gyda nifer cynyddol o bobl ifanc Cymru yn byw mewn tlodi, ac ystadegau iechyd meddwl yn peri gofid, mae’n braf gweld gweithgareddau llenyddol yn cael effaith bositif ar y cyfranogwyr, gan gynnwys: cynnydd yn ymddygiad cyfranogwyr ym myd addysg, a 82% o’r awduron ifanc yn teimlo cynnydd yn yr hyder y maent yn ei deimlo yng ngrym eu lleisiau.

Cyflawnwyd y prosiect hwn mewn partneriaeth rhwng Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cadw a Theatr Genedlaethol Cymru.

Dywedodd rhai o’r bobl ifanc:

“Roedd fy llais yn swnio’n wahanol, bron, fel aderyn uchel yn yr awyr”

“Barddoniaeth yw darganfod goleuni yn y tywyllwch”

“Roeddwn i’n nerfus ar y dechrau oherwydd fy nyslecsia, ond roeddwn i wrth fy modd”

Cafodd y ffilm isod ei arddangos fel rhan o ddigwyddiad ‘Llais yr ifanc’ yn y Senedd ar y 2 Mehefin 2019, a oedd yn dogfennu’r preswyliad a’r effaith a gafodd ar y disgyblion:

 

Nôl i Ein Heffaith