Dewislen
English
Cysylltu
Rydym yn ehangu ac ymestyn cyrhaeddiad ac enw da awduron Cymru er mwyn dathlu ein hawduron cyfoes a’n treftadaeth lenyddol.

Mae llenyddiaeth yn rhan annatod o ddiwylliant Cymru. Mae ein treftadaeth lenyddol gyfoethog yn coleddu’r ddynameg hon o’r degawdau, y canrifoedd a’r milenia sydd wedi mynd heibio. Mae ein hawduron cyfoes yn saernïo’r ddynameg hon ac yn myfyrio arni yn awr, a hynny ar lwyfannau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae ein hawduron a’n darllenwyr yn hanfodol ar gyfer sicrhau cymdeithas iach, fywiog, agored a hunanymwybodol.

Rydym yn gweithio gydag awduron profiadol Cymru i ddod â mwy o amlygrwydd i’n llenyddiaeth a’i gwneud yn fwy hygyrch. Yn ei dro, mae hyn yn cynyddu’r gwerth a roddir ar lenyddiaeth Cymru ymhlith ein dinasyddion ni a dinasyddion gwledydd eraill.

Mae’r gwaith hwn yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth i ddangos ein llenyddiaeth a’n hawduron ar eu gorau ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol o bwys, yn ogystal â gweithio i ysgogi comisiynau amlwg eu proffil gan sefydliadau eraill.

Rydym yn mynd ati i sgowtio am dalent er mwyn i egin awduron gamu ymlaen yn eu gwaith ac i chwilio am awduron profiadol llai adnabyddus sydd o bosibl heb gael sylw dyledus, gan dargedu’n benodol y rheini sydd ag un neu fwy o Nodweddion y Cleientiaid a Dargedir.

 


Cip ar Weithgaredd: Gwobr Llyfr y Flwyddyn

 

Mae Llyfr y Flwyddyn yn wobr flynyddol sy’n dathlu llenorion talentog Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae’r wobr wedi ei hariannu a’i threfnu gan Llenyddiaeth Cymru, mewn partneriaeth â Cyngor y Celfyddydau, Golwg360, Cyngor Llyfrau Cymru, Cwmni Da ac S4C.

Mae pedwar categori yn y ddwy iaith – BarddoniaethFfuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant & Phobl Ifanc, gydag un o’r enillwyr categori hyn yn mynd ymlaen i ennill y Brif Wobr mewn seremoni wobrwyo fawreddog yn ystod yr haf. Caiff Gwobr Barn y Bobl ei gynnal a’i noddi gan Golwg360, a People’s Choice Award ei gynnal a’i noddi gan Wales Arts Review.

Mae rhai o awduron enwocaf Cymru wedi bod ar y rhestr fer ac wedi derbyn gwobr, gan gynnwys: Bardd, nofelydd a dramodydd a enwebwyd am BAFTA, Owen Sheers; Y nofelydd a’r  sgriptiwr, Caryl Lewis, Cyfrannydd cyson ar BBC 4, Horatio Clare; Aelod flaenllaw Super Furry Animals, Gruff Rhys; y Prifardd Mererid Hopwood; Enillydd Gwobr Stori Fer Genedlaethol y BBC, Cynan Jones; Enillydd y Costa Prize am farddoniaeth, Jonathan Edwards; a chymrawd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol, Patience Agbabi.

 

Gall ennill y wobr hon gael effaith sylweddol ar yrfa awdur. Nid yn unig y mae’n ffynhonell werthfawr o gydnabyddiaeth o fewn y maes llenyddol, ond fe ddaw law yn llaw hefyd ac amryw o gyfleoedd eang yn y maes e.e. gwahoddiadau i ymddangos mewn digwyddiadau a gŵyliau, cynigion gan asiantaethau proffesiynol, a mwy o dderbyniad gan gyhoeddwyr.

Enillodd Alys Conran y brif wobr Saesneg yn 2017 gyda’r nofel Pigeon:

  • Cynyddodd werthiant y llyfr o 43% ar ôl cyhoeddi’r rhestr fer
  • Gwerthiant i hawliau ffilm, llwyfan a chlywedol y nofel o fewn blwyddyn o ennill y wobr
  • Daeth yn archeb genedlaethol gyda WHSmith, a chynyddodd yr archebion gan siopau llyfrau blaenllaw eraill
  • Cynnydd ym mhroffil yr awdur, a gwahoddiadau i ŵyliau a chynhadleddau cenedlaethol
  • Cafodd ail nofel Alys, Dignity ei groesawu i ddwylo W&N, un o gyhoeddwyr y grŵp Orion Publishing, a cafodd ei disgrifio gan eu golygydd, Federico Andornino, fel un o awduron gorau ei chenhedlaeth”.

“Mae gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi bod yn hollbwysig yn achos fy nofel gyntaf. Ers ennill y wobr, rydw i wedi fy ngwahodd i wyliau a chynhadleddau rhyngwladol; ac wedi gweld fy llyfr – a’i neges am ein hiaith a’n diwylliant – yn cyrraedd cynulleidfa llawer fwy eang, gyda mwy o siopau llyfrau mawr yn penderfynu ei gynnwys are u silffoedd. Roedd y wobr yn allweddol i mi, ac i fy ngyrfa llenyddol, ac mi fydd yn parhau i agor drysau.”

Alys Conran 

Click here to discover more about Wales Book of the Year.


Cip ar Weithgaredd: Estyn yn Ddistaw: Dydd o Fyfyrio ar Farddoniaeth Rhyfel a Heddwch yng Nghymru

 

Fel cyfrwng hygyrch sydd ar gael i bawb, mae barddoniaeth wedi bod yn allweddol ar gyfer dogfennu ac archwilio effeithiau trychinebus rhyfeloedd dros y blynyddoedd. Mae gan farddoniaeth y gallu rhyfeddol i uno pobl, adeiladu pontydd rhwng diwylliannau a chenedlaethau, creu cysylltiadau cryfach gydag eraill, ac i wneud synnwyr o’r byd o’n cwmpas. Cafodd hyn oll ei amlygu drwy Estyn yn Ddistaw: Dydd o Fyfyrio ar Farddoniaeth Rhyfel a Heddwch yng Nghymru.

Noddwyd y digwyddiad hwn gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AC, ac fe gafodd ei drefnu gan Llenyddiaeth Cymru gyda chefnogaeth gan Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918.

Yn ystodd y dydd cafwyd perfformiadau, darlleniadau, darlithoedd comisiwn, a chyflwyniadau gan 50 unigolyn, a oedd oll yn amlygu’r amrywiaeth sydd i’w gael yng nghymdeithas Cymru wrth i awduron o bell ac agos, ac o bob math o gefndiroedd, rannu’r llwyfan.

Roedd y prosiect wedi comisiynu gwaith creadigol gwreiddiol i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf a fyddai’n dod yn rhan o etifeddiaeth Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 a diwylliant llenyddol Cymru. Un o’r uchafbwyntiau oedd clywed y cerddi hyn yn cael eu hadrodd gan feirdd sefydledig fel Gillian Clarke, Alan Llwyd, Eric Ngalle Charles, Nerys Williams a Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn. Cafodd 3 darlithydd eu comisiynu’n ogystal, gan arwain at drafodaethau diddorol gan Phil Carradice, Nerys Williams ac Aled Eirug.

Yn ystod y bythefnos cyn y digwyddiad, cafodd dau brosiect cyfranogi eu cynnal gyda phobl ifanc – un yn Ysgol Uwchradd Fitzalan, Caerdydd gyda’r awdur Jafar Iqbal mewn partneriaeth â Chasgliad Edward Thomas yn archifau Prifysgol Caerdydd, a’r llall gyda disgyblion Ysgol Calon Cymru, Llanfair ym Muallt gyda’r beirdd Rufus Mufasa ac Elan Grug Muse. Galluogodd y prosiectau hyn i’r bobl ifanc ddysgu am farddoniaeth ryfel cyn creu a chyflwyno eu gwaith eu hunain, wedi eu hysbrydoli gan lenyddiaeth y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafwyd perfformiadau trawiadol a meddylgar gan y ddwy ysgol ar y diwrnod, a gyfrannodd ar gynyddu eu gallu i bwysleisio a’u cyflwyno i fydau, athroniaethau, a diwylliannau newydd.

Dywedodd y Prif Weinidog:

“Roedd y diwrnod yn gyfle euraidd i adlewyrchu ar farddoniaeth a llenyddiaeth gyfoethog Cymru, effeithiau rhyfel a phwysigrwydd heddwch. Roedd hi’n fraint cael cymerd rhan mewn digwyddiad mor effeithiol ac ystyriol.”

Mae modd darllen y cerddi a’r darlithoedd a gafodd eu comisiynu, yn ogystal â gweld lluniau o’r diwrnod ar wefan Llenyddiaeth Cymru.

Nôl i Ein Heffaith