Wrth fireinio ein blaenoriaethau a’n gweithgareddau, gobeithiwn ddatblygu perthnasau mwy ystyrlon gyda’r awduron a’r cyfranogwyr rydym yn gweithio â hwy. Maent yn defnyddio ein gwasanaethau neu’n cyflawni ein prosiectau, ac yn randdeiliaid hollbwysig. Ein nod yw sicrhau fod ein dulliau o gefnogi yn cynnig datblygiad hir-dymor i awduron, gan ganolbwyntio ar fuddsoddi ar yr amser iawn er mwyn gwneud y mwyaf o ddatblygiad celfyddydol a phroffesiynol yr unigolyn.
Er mwyn cynnig ymyraethau effeithiol a phenodol, ac er mwyn defnyddio ein hadnoddau i gyflawni’r effaith mwyaf, byddwn yn canolbwyntio ar dri grŵp o gleientiaid yr ydym am weithio â hwy yn ystod y cyfnod hwn.
Trwy adnabod cleientiaid i’w targedu, gallwn fod yn fwy eglur wrth ddatgan pa gymorth a chefnogaeth y gallwn ei gynnig i awduron, darllenwyr a chyfranogwyr ar bob cam o’u gyrfa a’u datblygiad.
Cyfranogwyr Creadigol
Mae cyfranogwyr creadigol yn cymryd rhan mewn gweithgareddau llenyddol o bob math, a hynny’n aml mewn gweithdai. Efallai fod y geiriau’n fodd o leddfu loes, yn ffordd o ddatblygu sgiliau, neu’n amddiffynfa rhag byd annheg. Bydd nifer yn datblygu i fod yn awduron ac artistiaid proffesiynol, gan fentora ac ysbrydoli eraill i ddod o hyd i’w lleisiau.
Egin Awduron
Mae gan egin awduron y potensial i ragori yn eu crefft ac i fentro wrth greu eu celfyddyd. Efallai y byddant wedi cael rhywfaint o gydnabyddiaeth eisoes, ac yn canolbwyntio’n gynyddol ar ddatblygu eu crefft. Gall egin awduron berthyn i bob grŵp oedran.
Awduron Profiadol
Mae awduron cyfoes Cymru yn cynrychioli ystod eang o ffurfiau, ieithoedd a phrofiadau. Yn ogystal â chryfhau proffil Cymru a’i llenyddiaeth, maent hefyd yn hollbwysig wrth ysbrydoli cenhedlaeth newydd o awduron a chynulleidfaoedd creadigol, ac yn medru rhoi arweiniad i eraill a’u mentora.
___
Rydym yn credu fod y rheini sy’n darllen, yn gwrando ac yn gwylio llenyddiaeth yn unigolion creadigol yn eu hanfod, a gan hynny, byddwn yn cyflawni ein holl weithgareddau gyda Chynulleidfaoedd Creadigol mewn golwg.
Cynrychioli Pawb
Mae gan lenyddiaeth wreiddiau dwfn yn y cysyniad o ryddid mynegiant. Serch hynny, mae gwir ryddid yn ddibynnol ar gydraddoldeb cyfleoedd a chynrychiolaeth deg. Pan nad ydych yn gweld pobl fel chi yn yr hyn yr ydych yn ei ddarllen, rydych yn llawer llai tebygol o chwilio gweithiau tebyg neu weld gwerth mewn ysgrifennu creadigol. Pan nad ydych yn gweld eich hunan
mewn sefydliad sy’n cynnig cyfleoedd creadigol, rydych yn llawer llai tebygol o ymgeisio amdanynt.
Trwy weithio gyda phartneriaid, byddwn yn gwneud mwy i feithrin amrywiaeth a chynrychiolaeth o fewn y sector lenyddol. Dylai awduron Cymru gynnwys ystod o oedrannau, o gefndiroedd cymdeithasol ac economaidd, ethnigedd, rhyw, ardaloedd ac ieithoedd. Nid cau unrhyw un allan yw’r bwriad yma, ond yn hytrach greu cyfleoedd teg a chyfartal, a sicrhau fod datblygiad proffesiynol ac arloesedd celfyddydol ar gael i bawb.
Drwy ein Blaenoriaethau Tactegol, rydym wedi adnabod tair nodwedd benodol, a byddwn yn darparu cefnogaeth ychwanegol i gleientiaid sydd yn:
- Unigolion o gefndiroedd du, Asiaidd neu leiafrif ethnig (BAME)
- Unigolion o gefndiroedd incwm isel
- Unigolion sydd ag anableddau neu salwch (corfforol neu feddyliol)
Byddwn yn parhau i arddel diffiniad eang o lenyddiaeth, gan roi cyfleoedd i gyfranogwyr o bob gallu fwynhau ac arbrofi â gwahanol ffurfiau.