Cronfa Ysbrydoli Cymunedau
Mae llenyddiaeth yn ein cysylltu ni â’n gilydd ar adeg o raniadau cynyddol ac ansicrwydd byd-eang. Mae’r straeon y byddwn ni’n eu darllen, yn eu clywed, ac yn eu dweud wrth ein gilydd yn ein helpu i ddehongli cymhlethdodau ein bywydau ac i wneud pen a chynffon o’n byd. Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen grym llenyddiaeth arnon ni yn ein bywydau.
Mae Cronfa Ysbrydoli Cymunedau Llenyddiaeth Cymru yn gynllun ariannu unigryw ar gyfer digwyddiadau llenyddol. Cafodd ei sefydlu’n wreiddiol gan Gyngor Celfyddydau Cymru dros ddeng mlynedd ar hugain yn ôl. Mae’r cynllun yn cynnig cymorth ariannol o hyd at 50% o’r ffioedd sy’n cael eu talu i awduron ar gyfer digwyddiadau llenyddol megis sgyrsiau, darlithoedd, gweithdai ysgrifennu creadigol a mwy. Gall y digwyddiadau hyn gael eu cynnal unrhyw le yng Nghymru, mewn neuaddau pentref, mewn tafarndai, mewn llyfrgelloedd, mewn ysgolion, mewn clybiau ieuenctid – neu hyd yn oed ar lwyfannau digidol ar gyfer grwpiau sy’n cwrdd ar-lein.
Mae Llenyddiaeth Cymru am i ragor o bobl yng Nghymru brofi gwefr llenyddiaeth. Rydym ni yn credu fod gan lenyddiaeth, yn ei holl amrywiaeth, y grym i gysylltu cymunedau â’i gilydd a rhoi cysur, ysbrydoliaeth a gobaith i’r rheiny sydd ei angen fwyaf.
Caiff y cynllun ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.
Mae’r broses gwneud cais ar gyfer Cronfa Ysbrydoli Cymunedau yn syml ac yn gyflym. Dyma rai enghreifftiau o ddigwyddiadau sy’n gymwys ar gyfer nawdd:
- Ymweliadau untro, neu gyfres o ymweliadau, gan awduron ag ysgolion, llyfrgelloedd, tafarndai, clybiau, cymdeithasau, canolfannau cymunedol a lleoliadau eraill ledled Cymru, sy’n ysbrydoli cymunedau drwy ddarlleniadau, sgyrsiau neu weithdai;
- Rhaglenni mewn lleoliadau neu wyliau sy’n arloesol, yn newydd ac yn gyffrous. Gall hyn gynnwys rhaglenni o ddigwyddiadau llenyddol mewn gwyliau bach neu deithiau llenyddol;
- Darpariaeth lenyddol mewn lleoliadau cymunedol neu leoliadau iechyd er mwyn gwella iechyd a llesiant y cyfranogwyr.
Nodwch, os gwelwch yn dda: dim ond i sefydliadau y gwneir cynigion ariannu; ni all unigolion wneud cais.
Darllenwch drwy’r adran Nawdd ar gyfer Digwyddiadau yn ofalus cyn gwneud cais. Dechreuwch gyda’r Broses o wneud cais a’r dyddiadau cau.