Dewislen
English

1    Ffioedd Awduron

Mae Llenyddiaeth Cymru mewn sefyllfa unigryw i allu gweld yr ystod o ffioedd awduron y cytunir arnynt ar hyn o bryd rhwng awduron a hyrwyddwyr gweithdai, darlleniadau a darlithoedd yng Nghymru. Gall y ffioedd hyn amrywio yn dibynnu ar brofiad yr awdur, p’un a oes angen gwaith paratoi arbennig ymlaen llaw, a ph’un a oes llawer o amser yn cael ei dreulio’n teithio i’r digwyddiad ac oddi yno. Mae Llenyddiaeth Cymru yn ymgynghori ynglyn â ffioedd awduron ar hyn o bryd. Yn y cyfamser, gall y cyfraddau canlynol gynnig canllaw defnyddiol i drefnwyr pan fyddant yn trafod ffioedd ag awduron:

  • Darlleniad gan awdur, gyda sesiwn gwestiwn ac ateb i ddilyn (hyd at 1 awr): £100 – £200
  • Sgwrs, darlith neu weithdy (1-1.5 awr o hyd): £150 – £200
  • Awdur mewn ysgol am ddiwrnod: rhwng £300 – £400 am ddiwrnod llawn / rhwng £175 a £200 am hanner diwrnod

Dylid defnyddio’r rhain fel canllaw yn unig. Ni fydd Llenyddiaeth Cymru yn cyfrannu at dalu costau teithio nac unrhyw dreuliau eraill yr eir iddynt yn sgil cynllun ariannu Cronfa Ysbrydoli Cymunedau o dan unrhyw amgylchiadau. Gall Llenyddiaeth Cymru gyfrannu hyd at 50% o gyfanswm ffioedd yr holl awduron.

 

2.   Diogelu

Mae Llenyddiaeth Cymru yn anelu at ddiogelu lles plant ac oedolion agored i niwed pan fyddant yn bresennol mewn digwyddiadau ym maes y celfyddydau llenyddol neu’n cymryd rhan ynddynt. Mae Llenyddiaeth Cymru yn ymrwymedig i arfer da sy’n amddiffyn plant ac oedolion agored i niwed rhag newid. Hefyd, bydd Llenyddiaeth Cymru yn rhoi canllawiau clir i’w bartneriaid a’i gleientiaid ar y camau gweithredu y dylent eu cymryd os bydd ganddynt unrhyw bryderon ynglŷn â diogelwch plant ac oedolion agored i niwed.

Mae gan Llenyddiaeth Cymru Bolisi a Gweithdrefn Diogelu mewnol sy’n cydymffurfio â’r gofynion a osodir gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar ei gleientiaid ledled Cymru. Mae copïau o’r polisi hwn ar gael ar gais.

O ran cynlluniau ariannu Llenyddiaeth Cymru yn arbennig, rhaid i drefnwyr gofio, yn unol â thelerau cynlluniau Llenyddiaeth Cymru, fod y digwyddiad yn eiddo i’r sefydliad sy’n ei drefnu ac mai’r sefydliad hwnnw sy’n gyfrifol am sicrhau mai dim ond awduron priodol a ddewisir. Nid yw Llenyddiaeth Cymru yn cymryd cyfrifoldeb am addasrwydd awduron unigol ac nid yw’n trefnu i wiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) gael eu cynnal ar gyfer awduron y bydd sefydliadau’n gweithio gyda nhw fel rhan o gynllun ariannu Cronfa Ysbrydoli Cymunedau. Ni ddylai awduron gwadd byth gael eu gadael ar eu pen eu hunain heb oedolyn arall o’r sefydliad pan fyddant yn gweithio gyda phlant neu oedolion agored i niwed. NID athrawon yw’r awduron, ac mae’n rhaid i un athro o leiaf aros gyda’r awdur bob amser.

 

3.   Sut i wella safon eich cais

Nod cynllun ariannu Cronfa Ysbrydoli Cymunedau yw cefnogi digwyddiadau llenyddol o safon uchel na fyddent o bosibl yn digwydd fel arall. Mae’r galw am gyllid bob amser yn fwy na’r cyllid sydd ar gael, sy’n golygu na fydd pob cais yn llwyddiannus, hyd yn oed os byddant yn gymwys. I sicrhau fod eich cais yn denu sylw, ystyriwch y meini prawf isod fydd yn cael eu defnyddio wrth i ni asesu eich cais:

  1. A yw’r digwyddiad yn arloesol, yn wreiddiol, yn ddiddorol ac o safon uchel?
  2. Os yw’r digwyddiad ar agor i’r cyhoedd, yw’n debygol o ddenu criw, neu gynulleidfa fawr?
    E.e. yw’r trefnydd yn defnyddio sianeli marchnata addas/yn weithgar annog cynulleidfa newydd i ymwneud â’r digwyddiad a nid dim ond aelodau arferol?
  3. A fydd y digwyddiad yn anelu i gael effaith gadarnhaol ar iechyd a llesiant y gynulleidfa?
    E.e. a fydd y digwyddiad yn lleihau unigrwydd yn y gymuned drwy ddod â grŵp at ei gilydd i gymdeithasu? Yw pwnc y sgwrs yn debygol o rymuso’r gynulleidfa, ac a ydyw yn debyg o annog y gynulleidfa i ddefnyddio llenyddiaeth i wella eu llesiant personol?
  4. A yw’r digwyddiad yn hybu gyrfa a datblygiad yr awdur(on) sydd yn cymryd rhan?
    E.e. a fyddwch yn gwerthu llyfrau’r awdur yn y digwyddiad, neu annog y gynulleidfa i brynu eu llyfrau? Ydych chi yn talu eich awduron yn deg, yn cynnwys treuliau a chostau teithio perthnasol?
  5. A yw’r digwyddiad, neu’r rhaglen o ddigwyddiadau, yn gynhwysol ac yn ystyried cydraddoldeb ac amrywiaeth o ran y siaradwyr sydd yn cymryd rhan?
    E.e. ystyriwch ddemograffig eich cymuned, ond hefyd Cymru gyfan. Ydych chi yn sicrhau cynrychiolaeth deg yng nghyd-destun rhywedd, oedran y siaradwyr, pobl o gefndiroedd aml-ddiwylliannol, a phobl ag anableddau? Ydych chi’n darparu digwyddiadau Cymraeg?
  6. Ydych chi wedi ystyried effaith eich digwyddiad ar yr amgylchedd?
  7. A yw’r digwyddiad yn cymryd lle mewn ardal neu gymuned lle mae’r ddarpariaeth o ddigwyddiadau celfyddydol a llenyddol yn brin?
    E.e. cymuned wledig, neu gymuned sydd ddim yn draddodiadol ymwneud llawer â’r celfyddydau?
  8. A fydd y digwyddiad yn cael ei ddogfennu, ac/neu ar gael i’w fwynhau eto?
    E.e. a fydd y digwyddiad yn cael ei ffilmio a’i ddangos ar-lein? Neu a fydd y trefnydd yn adrodd am y digwyddiad ar flog neu mewn papur bro?
  9. Yw eich digwyddiad yn groesawgar ac yn hygyrch i’r gymuned gyfan, ac felly yn denu cynulleidfa newydd ar gyfer digwyddiadau llenyddol?
  10. Yw’r awdur(on) yn addas ar gyfer y digwyddiad dan sylw a’r gynulleidfa darged?

 

Nesaf: Cyflwynwch eich cais

 

Nôl i Nawdd