Noder os gwelwch yn dda y gwneir y taliad i’r sefydliad hwn; ni allwn wneud taliad i unigolyn, corff ar wahân, neu sefydliad arall heblaw‘r ymgeisydd.
Os gwelwch yn dda disgrifiwch y digwyddiad yr ydych yn ei gynllunio mewn 300 gair neu lai (defnydd mewnol yn unig)
Os yw’r prosiect yn digwydd mewn mwy nac un lleoliad, nodwch fanylion y prif leoliad (neu’r cyntaf) yma a rhowch y manylion ychwanegol yn y blwch isod os gwelwch yn dda.
Rhestrwch ffioedd ar gyfer mwy nac un awdur ar wahân os gwelwch yn dda.
Os ydych yn gwneud cais am ddigwyddiad ar raddfa fawr megis gŵyl, cyfres o weithdai neu ddigwyddiad sy’n cynnwys nifer o awduron, cyflwynwch ddadansoddiad cyllid manwl gyda’ch cais gan ddangos yr holl incwm a gwariant a ddisgwylir, yn adran Gwybodaeth Ychwanegol, os gwelwch yn dda.
Dylid cwblhau’r ffurflenni cais yn llawn a’u cyflwyno mewn da bryd, ond rhaid iddynt gyrraedd Llenyddiaeth Cymru erbyn y dyddiad cau priodol. Ni allwn ystyried ceisiadau sy’n ein cyrraedd yn hwyr.
Mae Llenyddiaeth Cymru’n ceisio asesu a phrosesu ceisiadau o fewn 9 niwrnod gwaith i’r dyddiad cau. Os na fyddwch wedi clywed oddi wrthym o fewn 10 diwrnod ar ôl y dyddiad cau, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda. Gall methu a gwneud hynny arwain at siom - cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau bod y cais yn ein cyrraedd mewn pryd. Gall Llenyddiaeth Cymru dderbyn ffurflenni cais cyflawn yn unig. Os bydd gwybodaeth hollbwysig ar goll, efallai y byddwn yn dychwelyd eich ffurflen ac efallai y caiff y cais ei wrthod o ganlyniad i’r oedi.
Gwneir cynigion nawdd Llenyddiaeth Cymru ichi ar y sail eich bod yn derbyn y telerau ac amodau hyn. Trwy dderbyn unrhyw gynigion nawdd gan Llenyddiaeth Cymru, rydych yn cytuno i'r telerau ac amodau hyn ac yn rhwymedig iddynt.