Dewislen
English

Telerau ac Amodau Cyffredinol

1.1  Rhaid i geisiadau gael eu gwneud yn ysgrifenedig gan ddefnyddio’r ffurflen gais ar-lein neu fersiwn dogfen PDF wedi’i lawrlwytho o’r ffurflen gais y gellir ei chyflwyno drwy’r post neu ar ebost. Os byddwch yn ei chael hi’n anodd cael gafael ar y ffurflen gais yn electronig, gallwch gysylltu â ni i ofyn am gopi wedi’i argraffu.

1.2  Rhaid i bob cais gyrraedd Llenyddiaeth Cymru erbyn y dyddiad cau priodol ar gyfer eich digwyddiad, fel y nodir yn y tabl uchod. Ni roddir cyllid ar gyfer ceisiadau sy’n cyrraedd ar ôl y dyddiad cau.

1.3  Ni all Llenyddiaeth Cymru gynnig cyllid yn ôl-weithredol ar gyfer digwyddiadau sydd eisoes wedi cael eu cynnal, o dan unrhyw amgylchiadau.

1.4  Bydd Llenyddiaeth Cymru yn ymateb i’ch cais o fewn naw diwrnod gwaith i’r dyddiad cau sy’n berthnasol i’ch cais. Os na fyddwch yn clywed gennym o fewn yr amser hwn, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru er mwyn sicrhau ein bod wedi cael eich cais. Y trefnydd sy’n gyfrifol am sicrhau bod y cais yn ein cyrraedd mewn pryd – ni ellir dal Llenyddiaeth Cymru yn gyfrifol am geisiadau nad ydynt yn llwyddo i’n cyrraedd.

1.5  Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn anfon cadarnhad o’n cynnig drwy’r post neu e-bost o fewn naw diwrnod gwaith i’r dyddiad cau. Os na allwn gynnig cymorth, byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted â phosibl. Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost yn y lle cyntaf (lle y rhoddwyd cyfeiriad e-bost), felly sicrhewch fod y cyfeiriad e-bost a nodir gennych yn gywir a’ch bod yn edrych ar eich mewnflwch yn rheolaidd.

1.6  Oherwydd y galw cynyddol uchel am gyllid Cronfa Ysbrydoli Cymunedau, ni allwn drafod ceisiadau unigol a wrthodwyd ac fe’ch cynghorir i ddarllen y Meini Prawf Cymhwyso a’r adran Sut i Wella Safon eich Cais. Er mwyn asesu eich cais, gall fod angen i ni gysylltu â chi i ofyn am wybodaeth ychwanegol neu eglurhad. Gall hyn arwain at oedi wrth brosesu eich cais; cewch eich hysbysu am unrhyw oedi lle y bo modd. Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost yn y lle cyntaf, felly sicrhewch fod y cyfeiriad e-bost a nodir gennych yn gywir a’ch bod yn edrych ar eich mewnflwch yn rheolaidd.

1.7  Rhaid i drefnwyr y digwyddiad dalu’r awdur(on) a drefnwyd yn llawn ar ddiwrnod y digwyddiad. Gall methu â gwneud hynny beryglu llwyddiant ceisiadau yn y dyfodol.

1.8  Caiff cyfraniad ariannol Llenyddiaeth Cymru ei dalu’n uniongyrchol i’r sefydliad ar ôl i’r Ffurflen Adroddiad Digwyddiad gael ei chwblhau a’i hanfon atom. Dim ond ar ôl i’r ffurflen hon gael ei chwblhau a’i dychwelyd i Llenyddiaeth Cymru y gellir gwneud taliad. Dylid dychwelyd y Ffurflen Adroddiad Digwyddiad wedi’i chwblhau i Llenyddiaeth Cymru drwy e-bost i: nawdd@llenyddiaethcymru.org

1.9  Rhaid i drefnwyr digwyddiadau hawlio cyfraniad ariannol Llenyddiaeth Cymru o fewn deufis i’r digwyddiad. Ceidw Llenyddiaeth Cymru yr hawl i dynnu’r cynnig yn ôl os nad yw wedi’i hawlio o fewn dau fis i’r digwyddiad. Y trefnydd sy’n gyfrifol am sicrhau bod y Ffurflen Adroddiad Digwyddiad yn ein cyrraedd yn ystod y cyfnod hwn – ni ellir dal Llenyddiaeth Cymru yn gyfrifol am Ffurflenni Adroddiad Digwyddiad nad ydynt yn llwyddo i’n cyrraedd.

 

Meini Prawf Cymhwysedd

2.    Trefnwyr

2.1  Dim ond i sefydliadau dilys y gwneir cynigion ariannu; ni all unigolion wneud cais.

2.2  Ymhlith y sefydliadau cymwys mae ysgolion, llyfrgelloedd, tafarndai, clybiau, cymdeithasau, canolfannau cymunedol, gwyliau celfyddydol a lleoliadau eraill ledled Cymru. Ni all Llenyddiaeth Cymru gynnig cyllid i bleidiau gwleidyddol, grwpiau caeedig (ac eithrio ysgolion a grwpiau sy’n gweithio gydag oedolion agored i niwed), lleoliadau fel awduron preswyl, elusennau na sefydliadau eraill sy’n codi arian ar gyfer digwyddiadau nad ydynt yn ymwneud â’r celfyddydau.

2.3  Nid yw sefydliadau sydd yn derbyn cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru a/neu Bortffolio Celfyddydol Cymru yn gymwys.

2.4  Ni all awduron drefnu eu bod nhw eu hunain yn ymddangos yn y digwyddiad (hyd yn oed os ydynt yn gweithredu fel ‘trefnydd digwyddiadau’ ar ran sefydliad) ac ni all sefydliadau wneud cais am gyllid ar gyfer digwyddiadau y maent yn trefnu i’w haelodau, eu cyflogeion neu eu swyddogion eu hunain gynnal gweithgareddau neu roi perfformiadau ynddynt.

 

3.    Awduron

3.1  Rhaid i’r awdur(on) a ddewisir feddu ar brofiad llenyddol amlwg a bod yn ddewis priodol ar gyfer y digwyddiad(au) arfaethedig.

3.2  Os nad yw’r awdur(on) a ddewisir yn adnabyddus i Llenyddiaeth Cymru, rhaid i drefnydd y digwyddiad gyflwyno digon o wybodaeth am yr awdur (fel CV, geirdaon, samplau o ddeunydd wedi’i gyhoeddi) ar gais. Gall methu â gwneud hynny olygu y caiff eich cais ei wrthod. Bydd Llenyddiaeth Cymru yn ystyried ceisiadau ar gyfer unrhyw awdur sydd â’r cymwysterau priodol.

3.3  Er bod Llenyddiaeth Cymru yn anelu at ddiogelu lles plant ac oedolion agored i niwed pan fyddant yn bresennol mewn digwyddiadau ym maes y celfyddydau llenyddol neu’n cymryd rhan ynddynt, y trefnydd sy’n gyfrifol am sicrhau mai dim ond awduron priodol sy’n cymryd rhan. Nid yw Llenyddiaeth Cymru yn cymryd cyfrifoldeb am addasrwydd awduron unigol ac nid yw’n trefnu i wiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) gael eu cynnal ar gyfer awduron y bydd sefydliadau’n gweithio gyda nhw fel rhan o gynllun ariannu Cronfa Ysbrydoli Cymunedau. Mae’r digwyddiad yn eiddo i’r sefydliad sy’n ei drefnu. Ni ddylai awduron gwadd byth gael eu gadael ar eu pen eu hunain heb oedolyn arall o’r sefydliad pan fyddant yn gweithio gyda phlant neu oedolion agored i niwed. NID athrawon yw’r awduron, ac mae’n rhaid i un athro o leiaf aros gyda’r awdur bob amser yn yr ysgol.

3.4  Mae disgwyliad i’r holl ddigwyddiadau a ariennir i ddilyn gwerthoedd Llenyddiaeth Cymru, a bydd torri’r gwerthoedd hynny yn effeithio’n negyddol ar geisiadau yn y dyfodol. Cyfeiriwch at ein canllaw trefnu digwyddiadau cymunedol da i gael rhagor o wybodaeth ac enghreifftiau o arfer da.

3.5  Sicrhewch fod y ffioedd a gynigir i bob awdur yn deg ac yn ystyriol, a bod costau teithio yn cael eu hystyried. Cyfeiriwch at ein canllaw ar drefnu digwyddiadau cymunedol da i gael rhagor o wybodaeth am ffioedd a awgrymir.

3.6  Sicrhewch fod eich paneli, rhaglenni a digwyddiadau yn gynhwysol ac yn gynrychioliadol – gan sicrhau cydbwysedd o rywedd, awduron o ystod eang o oedrannau, awduron o liw, awduron anabl, awduron o gefndiroedd incwm isel ac awduron o’r gymuned LGBTQ+.

 

4.    Digwyddiadau

4.1  Yr unig ddigwyddiadau a gefnogir fydd rhai lle y bydd awduron yn cynnal gweithdai, darlithoedd, darlleniadau neu berfformiadau sy’n ymwneud ag ysgrifennu creadigol neu ddefnyddio iaith a llenyddiaeth mewn modd creadigol, neu werthfawrogi, hyrwyddo neu ddatblygu’r arfer hwnnw, neu berfformiadau o waith sy’n deillio o draddodiadau llafar sydd â phwyslais ar lenyddiaeth.

4.2  Rhaid i sesiynau adrodd stori mewn ysgolion neu gyda phlant ymgorffori gwaith ysgrifennu creadigol fel rhan annatod o’r ymweliad.

4.3  Nid yw digwyddiadau codi arian i elusennau – ni waeth pa mor deilwng yw’r achos – yn gymwys i gael eu hystyried.

4.4  Ni all Llenyddiaeth Cymru gynnig cymorth i ddigwyddiadau lle mae’r trefnydd yn y broses o wneud cais am gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru (gan gynnwys pob un o grantiau’r Loteri) ar ei gyfer neu eisoes wedi gwneud cais llwyddiannus neu aflwyddiannus am gyllid o’r fath. Mae hyn yn cynnwys sefydliadau sy’n rhan o Bortffolio Celfyddydol Cymru. Ni chaiff trefnwyr dderbyn cyllid ar gyfer yr un gweithgaredd gan Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru o dan unrhyw amgylchiadau. Wrth wneud cais am gyllid Cronfa Ysbrydoli Cymunedau, rhaid i drefnwyr roi gwybod i ni os ydynt yn y broses o wneud cais am gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru, neu os ydynt eisoes wedi gwneud cais llwyddiannus neu aflwyddiannus am gyllid o’r fath.

4.5  Nod cynllun Cronfa Ysbrydoli Cymunedau yw cefnogi digwyddiadau a fyddai’n annhebygol o ddigwydd fel arall. Ni chefnogir digwyddiadau sy’n debygol o wneud elw sylweddol.

4.6  Gall Llenyddiaeth Cymru ariannu digwyddiadau llenyddol yn unrhyw ran o Gymru, mewn unrhyw iaith, drwy gynllun Cronfa Ysbrydoli Cymunedau. Gall digwyddiadau fod yn rhai byw neu yn rai digidol. Dim ond os cânt eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg yn gyfan gwbl y bydd Llenyddiaeth Cymru yn ariannu digwyddiadau y tu allan i Gymru. Nid yw digwyddiadau a gynhelir y tu allan i Gymru mewn unrhyw iaith arall, na digwyddiadau a gynhelir y tu allan i’r DU, yn gymwys i gael cymorth.

4.7  Ac eithrio digwyddiadau mewn ysgolion a rhai sy’n cynnwys oedolion agored i niwed, rhaid i ddigwyddiadau a ariennir gan Cronfa Ysbrydoli Cymunedau gael eu hysbysebu a bod yn agored ac yn hygyrch i’r cyhoedd. Gall trefnwyr bellach ychwanegu manylion eu digwyddiadau a’u gweithgareddau eu hunain yn uniongyrchol at adran Digwyddiadau gwefan Llenyddiaeth Cymru. Rydym yn eich cynghori’n gryf i wneud hyn cyn gynted â bod manylion eich digwyddiad wedi’u cadarnhau. Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio’r hyn a nodwch i hyrwyddo eich digwyddiad drwy ein sianelau cyfryngau cymdeithasol a’n cylchlythyr.

 

5.    Meini Prawf Ysgrifennu Creadigol

5.1  Dim ond ar gyfer digwyddiadau sy’n ymwneud â datblygu ysgrifennu creadigol, a mwynhad a dealltwriaeth ohono, gan gynnwys nofelau, barddoniaeth, straeon byrion, dramâu ysgrifenedig, ysgrifennu arbrofol a beirniadaeth lenyddol, y caiff cyllid ei gynnig.

5.2  Pynciau cymwys ac anghymwys: Er mwyn bod yn gymwys i gael cymorth gan Llenyddiaeth Cymru, rhaid mai ysgrifennu creadigol yw thema’r digwyddiad(au). Nid yw pynciau fel hanes cenedlaethol a rhyngwladol, gwleidyddiaeth, meddygaeth, materion tramor, economeg, hanes crefyddol, teithio, natur, darlledu, archaeoleg, ffigurau anllenyddol enwog, garddio, yoga na choginio yn rhan o gylch gwaith Llenyddiaeth Cymru. Fodd bynnag, gall Llenyddiaeth Cymru ystyried cefnogi darlithoedd neu ddigwyddiadau sy’n cynnwys awduron yn y categorïau hyn o bryd i’w gilydd, ar yr amod mai’r prif ffocws yw’r broses o ysgrifennu’n greadigol yn hytrach na’r pwnc ei hun. Caiff ceisiadau am gymorth ar gyfer digwyddiadau sy’n cynnwys bywgraffyddion a hunangofianwyr eu hystyried yn yr un modd.

 

6.    Cydnabod Cymorth Llenyddiaeth Cymru

6.1  Un o amodau ein cymorth yw bod Llenyddiaeth Cymru yn cael ei gydnabod yn yr holl ddeunydd cyhoeddusrwydd sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad(au) sy’n derbyn cymorth, ar y cyd â phartneriaid ariannu eraill ac yn gymesur â nhw. Mae hyn yn cynnwys posteri, rhaglenni, taflenni ac unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd argraffedig arall, yn ogystal â chydnabyddiaeth glir ar yr holl ddeunyddiau hyrwyddo ar-lein a digidol, gan gynnwys cylchlythyrau, gwefannau a sianelau cyfryngau cymdeithasol. Gall methu â chynnwys cydnabyddiaeth gywir effeithio’n negyddol ar unrhyw geisiadau newydd.

6.2  Dylai datganiadau i’r wasg a chyfweliadau yn y wasg hefyd gydnabod cymorth Llenyddiaeth Cymru. Yn ogystal â hyn, dylid cydnabod cymorth Llenyddiaeth Cymru ar lafar yn ystod y digwyddiad, lle y bo hynny’n briodol. Mewn digwyddiadau lle mae defnyddio deunyddiau cyhoeddusrwydd yn y lleoliad ac ar y llwyfan yn briodol, drwy faneri arddangos ac ati., rhaid cydnabod Llenyddiaeth Cymru ar y cyd â phartneriaid ariannu eraill ac yn gymesur â nhw.

 

7.     Defnyddio logo Llenyddiaeth Cymru

7.1  Dylid defnyddio logo Llenyddiaeth Cymru i gydnabod y cymorth. Dylai fod yn ddarllenadwy ac wedi’i leoli yn y man mwyaf ymarferol, ond ni ddylid ei addasu mewn unrhyw ffordd. Rhaid i logo Llenyddiaeth Cymru fod yn gymesur â logos eraill a ddefnyddir gan y trefnydd.

7.2  Dylai logo Llenyddiaeth Cymru ymddangos ar ffurf lorweddol bob amser. Peidiwch ag ymestyn, cywasgu, troi nac ystumio’r logo.  Sicrhewch fod digon o gyferbyniad rhwng y logo a’r cefndir. Dylech geisio defnyddio’r logo bob amser yn hytrach na nodi cyfraniad Llenyddiaeth Cymru yn unig.

7.3  Os caiff deunydd cyhoeddusrwydd ei baratoi cyn eich cais i Llenyddiaeth Cymru, ac nad yw’n rhoi cydnabyddiaeth i Llenyddiaeth Cymru, gallai hyn olygu na chaiff eich cais ei dderbyn. Ceidw Llenyddiaeth Cymru yr hawl i atal y cyllid y cytunwyd arno ar gyfer unrhyw ddigwyddiad neu brosiect, neu ran o’r cyllid hwnnw, lle mae’r trefnwyr wedi torri’r amodau uchod yn fwriadol neu drwy esgeulustod.

7.4  Dylid rhoi gwybod i Llenyddiaeth Cymru yn syth am unrhyw anhawster i gydymffurfio â’r gofynion uchod. Os na allwch ddefnyddio delwedd am unrhyw reswm, dylech gynnwys y llinell ganlynol: ‘Hoffem gydnabod cymorth ariannol Llenyddiaeth Cymru’.

Gellir islwytho logo Llenyddiaeth Cymru o waelod y dudalen hon. 

 

Caiff unrhyw gynigion ariannu gan Llenyddiaeth Cymru eu gwneud i chi ar yr amod eich bod yn derbyn y Telerau ac Amodau uchod. Gall methu â chydymffurfio â Thelerau ac Amodau Llenyddiaeth Cymru arwain at wrthod cynigion ariannu neu eu tynnu yn ôl.

Drwy dderbyn unrhyw gynigion ariannu gan Llenyddiaeth Cymru, rydych yn cytuno â’r telerau ac amodau hyn ac felly’n ymrwymedig iddynt. Os bydd unrhyw rai o’r telerau ac amodau hyn yn peri anhawster i chi, neu os hoffech eu trafod ymhellach, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru ar: 01766 522 811 / nawdd@llenyddiaethcymru.org

 

Nesaf: Cyngor i Drefnwyr Digwyddiadau

Logo Cronfa Ysbrydoli Cymunedau

Logo Du ar gefndir tryloyw
Iaith: EnglishMaint: 98KB
Logo Gwyn ar gefndir tryloyw
Iaith: EnglishMaint: 98KB
Nôl i Preifat: Nawdd – Hen