1. Dewis awdur a thema / math o ddigwyddiad
Dylai’r awdur(on) a ddewisir feddu ar brofiad llenyddol amlwg a bod yn ddewis priodol ar gyfer y digwyddiad(au) arfaethedig. Os nad yw’r awdur(on) a ddewisir yn adnabyddus i Llenyddiaeth Cymru, mae’n bosib y byddwn yn gofyn i drefnydd y digwyddiad gyflwynogwybodaeth ychwanegol am yr awdur (megis gwefan, CV, geirdaon, samplau o ddeunydd wedi’i gyhoeddi). Bydd Llenyddiaeth Cymru yn ystyried ceisiadau ar gyfer unrhyw awdur sydd â’r cymwysterau priodol. Os am ysbrydoliaeth, ewch draw i bori Rhestr Awduron Cymru.
2. Trefnu gyda’r awdur
Rhowch gadarnhad i’r awdur o ran dyddiad a lleoliad eich digwyddiad.
3. Cymhwysedd
Sicrhewch fod eich digwyddiad (a’ch sefydliad) yn gymwys i gael cyllid Cronfa Ysbrydoli Cymunedau.
4. Gwneud cais am gyllid
Rhaid i geisiadau gael eu gwneud gan ddefnyddio’r ffurflen gais ar-lein neu’r fersiwn PDF neu Word o’r ffurflen gais y gellir ei lawrlwytho a’i chyflwyno drwy’r post neu e-bost. Mae angen i bob cais gyrraedd Llenyddiaeth Cymru erbyn y dyddiad cau priodol ar gyfer eich digwyddiad, fel y nodir yn y tabl isod. Ni roddir cyllid ar gyfer ceisiadau sy’n cyrraedd ar ôl y dyddiad cau. Os byddwch yn ei chael hi’n anodd cael gafael ar y ffurflen gais yn electronig, gallwch gysylltu â ni i ofyn i ni anfon copi wedi’i argraffu atoch drwy’r post.
Ni all Llenyddiaeth Cymru gynnig cyllid ar gyfer digwyddiadau sydd eisoes wedi cael eu cynnal.
Amserlen y dyddiadau cau:
Digwyddiadau yn ystod mis |
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau |
Gorffennaf | 30 Ebrill |
Awst | 31 Mai |
Medi | 30 Mehefin |
Hydref | 31 Gorffennaf |
Tachwedd | 31 Awst |
Rhagfyr | 30 Medi |
5. Ymateb
Bydd Llenyddiaeth Cymru yn ymateb i’ch cais o fewn naw diwrnod gwaith i’r dyddiad cau sy’n berthnasol i’ch cais. Os na fyddwch yn clywed gennym o fewn yr amser hwn, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru er mwyn sicrhau ein bod wedi cael eich cais. Y trefnydd sy’n gyfrifol am sicrhau bod y cais yn ein cyrraedd mewn pryd – ni ellir dal Llenyddiaeth Cymru yn gyfrifol am geisiadau nad ydynt yn llwyddo i’n cyrraedd.
6. Cynigion
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn anfon cadarnhad o’n cynnig dros e-bost o fewn naw diwrnod gwaith i’r dyddiad cau. Os na allwn gynnig cymorth, byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted â phosibl.
7. Cydnabod cefnogaeth Llenyddiaeth Cymru
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, rhaid i chi roi cydnabyddiaeth i gymorth Llenyddiaeth Cymru yn yr holl ddeunydd cyhoeddusrwydd cyn eich digwyddiad, yn ogystal â gwneud hynny’n bersonol yn y digwyddiad. Darllenwch y Telerau ac Amodau i gael manylion am sut i gydnabod cyllid yn gywir.
8. Talu’r Awduron
Mae talu’r awduron yn llawn ar ddiwrnod y digwyddiad yn un o amodau craidd ein cynigion ariannu. Gall methu â gwneud hynny beryglu llwyddiant ceisiadau yn y dyfodol.
9. Hawlio Cyllid
Rhaid i chi hawlio eich cyllid Cronfa Ysbrydoli Cymunedau o fewn dau fis i’ch digwyddiad, drwy gwblhau a dychwelyd y Ffurflen Adroddiad Digwyddiad a anfonwyd atoch ynghyd â’ch cynnig. Caiff y cyllid ei dalu’n uniongyrchol i drefnydd y digwyddiad ar ôl i ni gael y ffurflen hon. Ceidw Llenyddiaeth Cymru yr hawl i dynnu’r cynnig yn ôl os nad yw wedi’i hawlio o fewn dau fis i’r digwyddiad. Y trefnydd sy’n gyfrifol am sicrhau bod y Ffurflen Adroddiad Digwyddiad yn ein cyrraedd yn ystod y cyfnod hwn.
Nesaf: Telerau ac Amodau a Meini Prawf