Dewislen
English
Cysylltwch

 

 

Gwelwn yn gliriach o hyn allan;

a’n hen gynefin o borfa a chwysi

wedi’i ail-greu â mandrel

a chŷn mân- hollti.

Mae ein strydoedd wedi’u haredig

drwy bob cwm; a’n pobol

mor hael eu dychymyg â chynt

wrth gloddio heddiw â ‘llygoden’ a ‘sgrîn’

er mwyn medi’r llanw

a dofi’r gwynt…

 

Gwelwn yn gliriach bellach,

gan nad yw ein cannwyll dan lestr mwy,

a drws agored ein tŷ’n goleuo’r stryd.

Trwy hwn yr awn ni allan

i hwsmona’r dyfodol

ac i rannu’r gwirionedd â’r byd.

A gwnawn y pethau bychain,

dros ein tir, a’n hiaith, a’n pobol;

er mwyn ceisio’u lles bob tro

er mwyn bod yn hynafiaid cyfrifol.

 

Ifor ap Glyn

Bardd Cenedlaethol Cymru

(Dyma gerdd a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru er mwyn dathlu Dydd Gŵyl Dewi 2020.  Mae modd gwylio’r fideo yn y tweet isod neu ddarllen y testun islaw.)

 

 

Nôl i Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru 2016 – 2022