Dewislen
English
Cysylltwch

Partneriaid

I roi’r rhaglen ar waith, mae Llenyddiaeth Cymru yn cydweithio â sefydliadau ac unigolion o’r sector celfyddydau a llenyddiaeth yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys The Complete Works, Lucent Dreaming, y Ledbury Poetry Critics Programme, Black History Cymru, Poetry Wales, S4C, Race Council Cymru, Lumin Press a Speaking Volumes. Bydd rhagor o bartneriaid yn cael eu cyhoeddi a’u cynnwys wrth i’r rhaglen ddatblygu drwy gydol y flwyddyn.

Black History Cymru
Partner
Mwy
Ledbury Poetry Critics Programme
Partner
Mwy
Lucent Dreaming
Partner
Mwy
Lumin
Partner
Mwy
Poetry Wales
Partner
Mwy
Race Council Cymru
Partner
Mwy
Speaking Volumes
Partner
Mwy
S4C
Partner
Mwy
The Complete Works
Partner
Mwy
Black History Cymru
Partner

Mae Black History yn fudiad byd-eang ac yn fenter i ymchwilio ac ail-adrodd hanes pobl o dras Affricanaidd ac Affricanaidd-Caribïaidd. Yng Nghymru, mae hanes pobl Ddu ar yr ymylon, yn cael eu hanwybyddu a heb gynrychiolaeth, ac amcan Black History Cymru’(BHC) yw newid hynny.

Mae rhwydwaith Black History Cymru yn cynnwys dros 104 o sefydliadau ledled Cymru fel; elusennau ieuenctid, grwpiau llawr gwlad, ysgolion, sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch sy'n cynrychioli pobl o wahanol ddiwylliannau, crefyddau a lleoliadau daearyddol sy'n eistedd ar ein pwyllgor llywio.

https://bhmwales.org.uk/

Cau
Ledbury Poetry Critics Programme
Partner

Gŵyl Farddoniaeth Ledbury yw'r dathliad rhyngwladol mwyaf, mwyaf disglair, mwyaf rhyngwladol o farddoniaeth a gair llafar yn y DU. Ers i Ledbury Poetry Critics lansio ei raglen fentoriaeth ddwys blwyddyn o hyd gyntaf yn 2017, gan recriwtio a mentora 12 beirniad o liw, mae wedi bod yn gyfrifol am gynyddu gwelededd beirdd a beirniaid o liw. Sefydlwyd y rhaglen gan Sandeep Parmar a Sarah Howe gyda chefnogaeth gan Ŵyl Farddoniaeth Ledbury. Bellach mae'r cyd-drefnwyr Vidyan Ravinthiran, Janine Bradbury ac Alycia Pirmohamed wedi ymuno â nhw. Bydd Dave Coates yn parhau â'i waith ystadegol amhrisiadwy ar gyfer Ledbury Critics yn 2021.

https://www.poetry-festival.co.uk/ledbury-emerging-critics-programme-2/

Cau
Lucent Dreaming
Partner

Mae Lucent Dreaming yn gylchgrawn annibynnol ar gyfer awduron ac artistiaid ledled y byd. Cylchgrawn print ac ar-lein chwarterol yn cyhoeddi straeon byrion, barddoniaeth a gwaith celf hyfryd, rhyfedd a swrrealaidd gan gyfranwyr ledled y byd.

https://lucentdreaming.com/

Cau
Lumin
Partner

Mae LUMIN yn wasg anibynnol fechan curadurol / cydweithredol a radio ar gyfer llenyddiaeth a chelf arbrofol, radical a phersonol. Wedi'i leoli yng Nghaerdydd, Cymru, mae LUMIN yn cynnwys yr artistiaid Sadia Pineda Hameed & Beau W. Beakhouse ac yn cynnig cyswllt ar gyfer comisiynau, gweithdai, grwpiau gwrando / darllen, sgyrsiau ac ati.

https://lumin-press.com/

Cau
Poetry Wales
Partner

Fe'i sefydlwyd ym 1965, a Poetry Wales yw cylchgrawn barddoniaeth cenedlaethol Cymru. Mae Poetry Wales yn cyhoeddi barddoniaeth, nodweddion ac adolygiadau cyfoes uchel eu parch yn rhyngwladol yn ei gylchgrawn print a digidol.

https://poetrywales.co.uk/

Cau
Race Council Cymru
Partner

Cyngor Hil Cymru (CHC) yw'r corff ymbarél trosfwaol a sefydlwyd gan gymunedau llawr gwlad lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru i ddod â sefydliadau allweddol ynghyd, a chydweithio i frwydro yn erbyn rhagfarn hiliol, gwahaniaethu ar sail hil, aflonyddu, erledigaeth, cam-drin, trais.

https://racecouncilcymru.org.uk/

Cau
Speaking Volumes
Partner

Sefydliad siarad byw yw Speaking Volumes sy'n arbenigo mewn clywed lleisiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol; cyrraedd cynulleidfaoedd amrywiol; a dod o hyd i ffyrdd cyffrous o gyflwyno gwaith awduron.

https://speaking-volumes.org.uk/

Cau
S4C
Partner

Sianel deledu Gymraeg ydi S4C sy'n yn darlledu'n fyw rhwng 6 y bore a hwyr y nos. Mae modd hefyd i chi wylio rhaglenni a fideos ar wahanol blatfformau digidol ar adegau i'ch siwtio chi.

Mae 'na amrywiaeth eang iawn o raglenni ar S4C gan gynnwys newyddion, drama, dogfen, cerddoriaeth, adloniant a rhaglenni plant. Mae'r deunydd sydd ar y we yn cynnwys gwasanaeth cynnwys byr arlein, wedi ei anelu yn bennaf at gynulleidfa 16-34 o'r enw Hansh.

https://www.s4c.cymru/cy/amdanom-ni/

Cau
The Complete Works
Partner

Yn 2005 anogodd yr actifydd llenyddol a'r awdur Bernardine Evaristo MBE Gyngor Celfyddydau Lloegr (ACE) i ymchwilio i'r diffyg amrywiaeth ym marddoniaeth Prydain. Canfu’r adroddiad a ddeilliodd ohono, Free Verse, mai dim ond 1% o’r farddoniaeth a gyhoeddwyd gan weisg mawr y DU oedd gan feirdd o gefndiroedd Du ac Asiaidd. Mewn ymateb, sefydlodd Evaristo ac ACE The Complete Works (TCW), rhaglen genedlaethol a ddewisodd 10 bardd du ac Asiaidd rhagorol, ac a gynigiodd fentora, seminarau, encilion llenyddiaeth iddynt a'u cyhoeddi mewn blodeugerdd Bloodaxe.

https://thecompleteworkspoetry.wordpress.com/

Cau