I wneud cais am le ar y cwrs hwn, byddwn yn gofyn i chi wneud y canlynol:
- Darllen y Cwestiynau Cyffredin
- Llenwi y ffurflen gais hon a fydd yn gofyn i chi am eich manylion.
- Sôn yn eich geiriau eich hun pam eich bod am gymryd rhan yn y cwrs hwn. Byddwn hefyd yn eich gwahodd i uwchlwytho sampl byr (1,000 o eiriau neu hyd at 5 cerdd) o’ch gwaith creadigol gwreiddiol. Gall hyn fod yn farddoniaeth, rhyddiaith, gaith ffeithiol greadigol neu sgript.
Eisiau darllen y cwestiynau cyn dechrau llenwi’r ffurflen?
I’ch helpu i baratoi eich cais, gallwch lawrlwytho’r ffurflen gais i ddarllen y cwestiynau ymlaen llaw. Mae Fersiwn Cyfeillgar i unigolion â dyslecsia a fersiwn print bras hefyd ar gael. Os byddai’n well gennych lenwi un o’r ffurflenni hyn yn hytrach na’r ffurflen gais ar SurveyMonkey, dychwelwch eich ffurflen i post@llenyddiaethcymru.org.
Os hoffech chi sgwrsio ag aelod o staff cyn gwneud cais, e-bostiwch Llenyddiaeth Cymru ar post@llenyddiaethcymru.org neu ffoniwch ni am sgwrs: 01766 522 811 (Swyddfa Tŷ Newydd) neu 02920 472266 (Swyddfa Caerdydd).