Llenwch y ffurflen gais arlein berthnasol gan ddefnyddio’r dolenni canlynol.
Nodir y dyddiadau cau misol yn Y Broses Ymgeisio.
Os ydych chi’n gwneud cais am gyllid ar gyfer gŵyl, sy’n cynnwys digwyddiadau i oedolion a phlant/pobl ifanc, defnyddiwch y ffurflen gais Digwyddiadau i oedolion neu’r cyhoedd. Defnyddiwch un ffurflen yn unig, a rhestrwch fanylion yr holl ddigwyddiadau gŵyl rydych chi’n gwneud cais am gyllid ar eu cyfer ar y ffurflen honno.
Gwnewch yn siŵr fod gennych yr holl fanylion perthnasol wrth law cyn i chi ddechrau eich cais: dyddiad(au), amser(oedd), lleoliad(au), enwau awduron, ffioedd a threuliau awduron, manylion y digwyddiad. Ni fydd modd cadw eich cais a dychwelyd ato yn nes ymlaen.
Os byddwch chi’n cael anhawster yn cael mynediad at y ffurflenni cais arlein, cysylltwch â ni drwy nawdd@llenyddiaethcymru.org / 01766 522811. Gallwn drefnu bod copi hygyrch yn cael ei anfon atoch chi.