Dewislen
English
Cysylltwch

Cynllun Nawdd Llên er Lles

Cyhoeddwyd Gwe 29 Tach 2019 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cynllun Nawdd Llên er Lles
Rydym wedi cyhoeddi ein buddsoddiad mewn 10 prosiect newydd sy’n defnyddio ysgrifennu creadigol er lles.

Mae Cynllun Nawdd Llên er Lles yn cynnig cymorth ariannol a hyfforddiant i awduron ac artistiaid i ddyfeisio a chyflawni cyfres o weithdai ysgrifennu creadigol gwreiddiol yn y gymuned, a hynny gyda grŵp arbennig mewn golwg. Amcan Cynllun Nawdd Llên er Lles yw ysbrydoli rhai o’n hunigolion a’n cymunedau mwyaf ymylol drwy ddarparu gweithgareddau llenyddol wedi eu targedu iddynt.

Yn dilyn galwad agored ym mis Mehefin 2019, rydym yn cefnogi 10 o brosiectau dros Gymru yn ystod y gaeaf. Caiff y gweithgareddau eu cyflawni gan awduron ac ymarferwyr celf sydd wedi derbyn hyfforddiant Diogelu a Chyfranogi fel rhan o’r cynllun hwn. Yn ogystal â bod yn elfen bwysig o’n gwaith Cyfranogi, mae’r cynllun yn cynnig buddsoddiad mewn datblygiad proffesiynol i awduron.

Mae pob cyfres o weithdai yn cynnwys rhwng 4-6 sesiwn. Maent yn weithgareddau arloesol a chynhwysfawr ac yn cefnogi grwpiau arbennig megis carcharorion, ffoaduriaid, LGBTQ+, rhieni i fabanod a anwyd yn gynnar, a phobl sy’n defnyddio gwasanaethau cefnogi iechyd meddwl.

Ar ddiwedd pob cyfres o weithdai fe geir cynnyrch unigryw, er enghraifft pamffled barddoniaeth, monologau radio, ffilm fer, arddangosfa o waith celf a llên, neu gasgliad o ganeuon.


Prosiectau 2019: Mae gwybodaeth fanwl am bob prosiect a’r awduron sy’n eu cyflawni ar gael yma:

Llên er Lles 2019

Cyfranogiad mewn llenyddiaeth yw un o dair Colofn Gweithgaredd Llenyddiaeth Cymru, ac mae iechyd a llesiant yn un o’n prif flaenoriaethau fel y nodir yn ein Cynllun Strategol ar gyfer 2019-2022.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae gan bob un ohonom ein straeon i’w hadrodd, ond nid pawb sy’n cael yr un cyfle i wneud hynny. Mae’r cynllun hwn yn agor y drws i lenyddiaeth i rai o’n hunigolion a’n cymunedau mwyaf ymylol, gan roi’r cyfle iddynt brofi nodweddion llesol y ffurf gelfyddydol hynod hon.