Dewislen
English
Cysylltwch

Mentoriaid

Bob blwyddyn, bydd awduron Cynrychioli Cymru yn derbyn sesiynau mentora gyda mentor o’u dewis.

Cafodd pob un o’r Mentoriaid eu dethol trwy ymgynghori gyda’r awduron sydd yn rhan o’r rhaglen. Dros gyfnod o flwyddyn, bydd y Mentoriaid yn rhannu eu harbenigedd â’r awduron, ac yn helpu i ddatblygu’r grefft ysgrifennu ymhellach, yn ogystal â rhannu profiadau personol o’u teithiau llenyddol eu hunain.

Bydd pob pâr yn cyfarfod sawl gwaith yn ystod y flwyddyn, gyda sesiynau yn adlewyrchu ystod o destunau a themâu gwahanol, o olygu gwaith creadigol i archwilio cyfleoedd proffesiynol. Mae’r sesiynau wedi cael eu teilwra i fod mor unigryw ag sydd yn bosib, gyda phob partneriaeth yn gweithio tuag at gyrraedd amcanion personol yr awduron eu hunain.

Ishmahil Blagrove
Yn mentora: Carl Connikie
Mwy
Malika Booker
Yn mentora: Marvin Thompson
Mwy
Zoë Brigley
Yn mentora: Taz Rahman
Mwy
Tom Bullough
Yn mentora: Jon Doyle
Mwy
Eric Ngalle Charles
Yn mentora: Phil Okwedy
Mwy
Rhian Edwards
Yn mentora: Alix Edwards
Mwy
Salma el Wardany
Yn mentora: Jaffrin Khan
Mwy
Inua Ellams
Yn mentora: Hanan Issa
Mwy
Mona Eltahawy
Yn mentora: Durre Shahwar 
Mwy
Niall Griffiths
Yn mentora: Ben Huxley
Mwy
Philip Gross
Yn mentora: Alex Wharton
Mwy
Kerry Hudson
Yn mentora: Bridget Keehan
Mwy
Cynan Jones
Yn mentora: Anthony Shapland
Mwy
Jasleen Kaur
Yn mentora: Um Mohamed
Mwy
Patrice Lawrence
Yn mentora: Simone Greenwood
Mwy
Sophie Mackintosh
Yn mentora: Hattie Morrison
Mwy
Daniel Morden
Yn mentora: Phil Okwedy
Mwy
Abi Morgan
Yn mentora: Emily Burnett
Mwy
Rufus Mufasa
Yn mentora: Anastacia Ackers
Mwy
Alastair Reynolds
Yn mentora: Daniel Howell
Mwy
Jacob Ross
Yn mentora: Rosy Adams
Mwy
Manon Steffan Ros
Yn mentora: Nia Morais
Mwy
Michael Rosen
Yn mentora: Shara Atashi 
Mwy
Peter Scalpello
Yn mentora: Frankie Parris
Mwy
Katherine Stansfield
Yn mentora: Ciaran Keys
Mwy
Rachel Trezise
Yn mentora: Kittie Belltree
Mwy
Eloise Williams
Yn mentora: Amy Kitcher
Mwy
Ishmahil Blagrove
Yn mentora: Carl Connikie

Mae Ishmahil Blagrove yn awdur ac yn gyfarwyddwr ffilm, ac mae’n gweithio i Rice N Peas, sefydliad sy’n gweithio tuag at gyfiawnder cymdeithasol. Ef yw awdur Carnival — A Photographic and Testimonial History of the Notting Hill Carnival (Rice N Peas, 2014). Gydag yntau’n arfer ymochri ag athroniaeth “black power” y mae nawr wedi ymdopi safbwynt fwy rhyngwladol sy’n hyrwyddo undeb o fewn grwpiau a chymunedau amrywiol.

"Mae mentora yn darparu cefnogaeth cam-wrth-gam ar gyfer awduron newydd ac yn eu helpu i fagu hyder."

Cau
Malika Booker
Yn mentora: Marvin Thompson

Mae Malika Booker yn awdur rhyngwladol, ac mae ei gwaith wedi ei drwytho mewn methodoleg ymchwil anthropolegol ac wedi ei wreiddio yn y grefft o adrodd straeon. Mae ei gwaith ysgrifennu yn pontio barddoniaeth, theatr, monologau, gosodwaith ac addysg. Mae’r cleientiaid a’r sefydliadau y mae wedi gweithio â nhw yn cynnwys Arts Council England, BBC, Y Cyngor Prydeinig, Wellcome Trust, National Theatre, Royal Shakespeare Company, Arvon, a Hampton Court Palace.

Cau
Zoë Brigley
Yn mentora: Taz Rahman

Mae Zoë Brigley yn awdur Cymreig-Americanaidd ac mae’n gweithio ar hyn o bryd fel Darlithydd Cynorthwyol yn yr Ohio State University. Mae yn awdur â gwobrau dan ei belt, derbyniodd Eric Gregory Award am y beirdd gorau dan 30, a cyrhaeddodd restr fer Gwobr Dylan Thomas. Mae tri o’i chasgliadau wedi eu hargymell gan y Poetry Book Society: The Secret (2007), Conquest (2012), a Hand & Skull (2019) oll wedi eu cyhoeddi gan Bloodaxe. Cyhoeddodd hefyd gasgliad o ysgrifau o’r enw Notes from a Swing State (2019), a llyfr bach o farddoniaeth, Aubade After A French Movie (Broken Sleep 2020). Mae ganddi hefyd gyfrol ffeithiol-greadigol ar ei ffordd gyda Broken Sleep: Otherworlds: Writing on Nature and Magic ynghyd â llyfr bach arall o farddoniaeth: Into Eros gyda Verve Publishing.

"Mae'n ffaith nad yw pawb yn cael eu trin yr un fath, a does dim mynediad gan bawb at yr un adnoddau a chyngor. Mae mor bwysig sicrhau nid yn unig cyfartaledd, ond gwell tegwch hefyd, gan rhoi help llaw i'r rheiny sydd angen cymorth i adnabod eu lleisiau ac i ddatblygu eu potensial."

Cau
Tom Bullough
Yn mentora: Jon Doyle

Mae Tom Bullough yn awdur pedair nofel – roedd Addlands, y mwyaf diweddar yn portreadu saith deg o flynyddoedd ar fferm fynydd yn sir Faesyfed, yn destun pregeth yn Abaty Westminster. Mae ei waith wedi ei gyfieithu i naw o ieithoedd. Cyhoeddir cyfrol ffeithiol greadigol gyntaf Tom, Sarn Helen: a Journey Through Wales, Past, Present and Future (darluniau gan Jackie Morris) gan Granta fis Chwefror 2023. Magwyd Tom ar fferm fynydd yn sir Faesyfed ac erbyn hyn mae’n byw ym Mannau Brycheiniog.

http://www.tombullough.com/

Cau
Eric Ngalle Charles
Yn mentora: Phil Okwedy

Mae Eric Ngalle Charles yn awdur, bardd a dramodydd o Gamerŵn sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru. Fe’i ddewiswyd gan Jackie Kay ar restr o ddeg awdur o liw nodedig o Brydain, ac yn 2017/18 derbyniodd Wobr Cymru Greadigol gan Gyngor y Celfyddydau am ei waith sydd yn cynnwys themâu am ymfudo, trawma ag atgofion. Yn ei fywgraffiad, I, Eric Ngalle: One Man's Journey Crossing Continents from Africa to Europe (Parthian Books, 2019), mae Eric yn adrodd hanes ei daith i Ewrop, lle treuliodd sawl blwyddyn yn chwilio am loches. Mae’n un o Gyfarwyddwyr Llenyddiaeth Cymru, ac mae’n rhan o Grŵp Ymgynghorol Canolfan y Celfyddydau Prifysgol Aberystwyth. Bydd yn cychwyn ar ddoethuriaeth yn King’s College, Llundain yn Hydref 2021.

"Mae Mentora yn fuddsoddiad, sy'n sicrhau fod y straeon ry'n ni'n eu rhannu, a'r llyfrau ry'n ni'n eu darllen, yn adlewyrchu'r gymdeithas yr ydym yn byw ynddi."

Cau
Rhian Edwards
Yn mentora: Alix Edwards

Mae Rhian Edwards yn fardd arobryn ac yn olygydd barddoniaeth i Seren Books.

Enillodd casgliad barddoniaeth cyntaf Rhian Clueless Dogs (Seren 2012) dair gwobr Llyfr y Flwyddyn 2013 – gwobr categori barddoniaeth, gwobr People’s Choice Award, a phrif wobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn. Yn ogystal, roedd ar restr fer y Forward Prize for Best First Collection 2012.  

Roedd ail gasgliad barddoniaeth Rhian The Estate Agent’s Daughter (Seren 2020) yn un o gyfrolau dethol y National Poetry Day Recommended Read 2020.  

Mae Rhian wedi gyhoeddi dau bamffled o gerddi: Parade the Fib (Tall-Lighthouse 2008), roedd yn gyfrol ddethol Poetry Book Society Choice yn hydref 2008, a Brood (Seren 2017), pamffled o gerddi am adar, ynghyd â darluniau.

Enillodd Rhian wobr John Tripp Award for Spoken Poetry, pan gynhaliwyd y gystadleuaeth am y tro diwethaf, gan ennill Gwobr y beirniaid a Gwobr y gynulleidfa.

Mae cerddi Rhian wedi ymddangos yn The Guardian, Times Literary Supplement, Poetry Review, New Statesman, Spectator, Poetry London, Poetry Wales, Arete, London Magazine, Stand, Planet a New Welsh Review.  

Twitter: @RhianEdwards5

https://www.rhianedwards.co.uk/

Cau
Salma el Wardany
Yn mentora: Jaffrin Khan

Mae’r awdur, bardd, siaradwr cyhoeddus a’r cyflwynydd BBC Radio, Salma El-Wardany, yn aml yn perfformio yn rhyngwladol. Mae wedi cynnal dau TEDx Talk, wedi gweithio gyda Phrifysgol Caeredin ar brosiect Dangerous Woman, ac mae hefyd wedi gweithio mewn partneriaeth â’r British Library a’r Wellcome Collection. Daw o gefndir Eifftaidd, Gwyddelig, a Desi, ac mae’n gweithio yn aml gyda brandiau rhyngwladol i godi ymwybyddiaeth drwy farddoniaeth a sgwrs. Mae’n rhan o’r llyfr poblogaidd It’s Not About the Burqa (Picador, 2020) sydd wedi ennill sawl gwobr, a bydd yn cyhoeddi ei nofel gyntaf yn 2022 gyda Trapeze.

"Mae'r rhaglen yn trosglwyddo gwybodaeth nad yw ar gael ar google neu ar flogiau, ond yn hytrach yn wybodaeth sy'n dod o fod wedi byw profiadau penodol gan awduron sydd wedi gweithio i hawlio eu lle yn y diwydiant cyhoeddi a sydd â'r modd o basio'r manylion bach hollbwysig rheiny ymlaen i eraill."

Cau
Inua Ellams
Yn mentora: Hanan Issa

Wedi ei eni yn Nigeria, mae Inua Ellams yn fardd, yn ddramodydd, perfformiwr, artist graffeg ac yn ddylunydd. Cymrodd ran yn y rhaglen ddatblygu awduron, Complete Works, ac mae yn cynnal gweithdai ysgrifennu creadigol lle bydd yn archwilio themâu sy’n canfod eu hunain yn aml yn ei waith – hunaniaeth, dadleoliad, a thynged – mewn modd hygyrch all gael ei fwynhau gan gyfranogwyr o bob oedran a chefndir. Mae ei wobrau yn cynnwys: Edinburgh Fringe First Award 2009, The Liberty Human Rights Award, The Live Canon International Poetry Prize, The Kent & Sussex Poetry Competition, Magma Poetry Competition, Winchester Poetry Prize, A Black British Theatre Award a The Hay Festival Medal for Poetry. Cyhoeddodd chwe cyfrol farddoniaeth a derbyniodd gomisiynau gan The Royal Shakespeare Company, National Theatre, Tate Modern, Louis Vuitton, BBC Radio & Television.

"Gall y rhaglen hon adeiladu patrymau newydd o weithio a ffyrdd o feddwl, gan ehangu ar, ac ail-ddychmygu, sut beth ydyw hi i ysgrifennu a pherthyn i gymuned."

Cau
Mona Eltahawy
Yn mentora: Durre Shahwar 

Mae Mona Eltahawy yn awdur ffeministaidd, yn sylwebydd, ac yn amharwr ar batriarchaeth. Roedd ei llyfr cyntaf, Headscarves and Hymens: Why the Middle East Needs a Sexual Revolution (Farrar, Straus and Giroux, 2105) yn targedu patriarchaeth yn y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica, ac aeth â’i hail lyfr The Seven Necessary Sins For Women and Girls (Tramp Press, 2019) a’r tarfu dros y byd. Mae ei sylwebaeth wedi ymddangos yn y cyfryngau dros y byd, ac mae hi’n brif olygydd ac yn ysgrifennu ar gyfer feministgiant.com.

"Un o'r heriau mwyaf fel awdur o liw ydi dy fod di weithiau'n teimlo fel yr unig un, gyda dim ond llond llaw o enghreifftiau o sut i lwyddo mewn diwydiant cyhoeddi gwyn. Gall y cynllun mentora hwn helpu'r awduron drwy eu paru gydag awduron sydd gam ar y blaen ar eu gyrfa fel awdur, er mwyn cynnig cyngor a chefnogaeth."

Cau
Niall Griffiths
Yn mentora: Ben Huxley

Ganed Niall Griffiths yn Lerpwl ac erbyn hyn mae wedi byw yng nghanolbarth Cymru ers chwarter canrif. Mae Niall wedi cyhoeddi wyth o nofelau, hefyd barddoniaeth, hunangofiannau, gwaith ffeithiol greadigol, ac ysgrifennu taith. Enillodd Wobr Llyfr y Flwyddyn ddwy waith. Mae’n Athro Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Wolverhampton ac yn Gymrawd y Royal Society of Literature. Mae ei waith wedi ei gyfieithu i ugain o ieithoedd, ac mae wedi darllen ei waith yn gyhoeddus ar bob cyfandir ac eithrio Antarctica.

https://www.niallgriffiths.com/

Cau
Philip Gross
Yn mentora: Alex Wharton

Ganwyd Philip Gross, yng Nghernyw, yn fab i ffoadur o Estonia adeg yr ail ryfel byd. Mae Philip wedi byw yn ne Cymru ers 2004. Enillodd ei gyfrol The Water Table y T.S. Eliot Prize 2009, ac enillodd Love Songs of Carbon Wobr Roland Mathias yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2016. Derbyniodd Cholmondeley Award yn 2017. Mae’n hoff iawn o gydweithio gydag eraill, e.e. gyda’r artist Valerie Coffin Price ar A Fold In The River (Seren, 2015), gyda’r bardd Lesley Saunders ar A Part of the Main (Mulfran, 2018) a gyda gwyddonwyr ar Dark Sky Park (Otter-Barry, 2018). Mae wedi cyhoeddi tua ugain o gasgliadau o farddoniaeth, yn eu plith yw Islands (Bloodaxe, 2020) ac yn fwyaf diweddaf Troeon/Turnings (Seren, 2021), sef “trawsgyfieithu” (“translaboration”) - cyfieithu ac ymateb ar y cyd gyda’r bardd Cymraeg Cyril Jones. Cyhoeddir casgliad newydd o waith Philip gan Bloodaxe, The Thirteenth Angel, fis Tachwedd 2022. Yn y cyfamser, mae sawl cywaith ar y gweill.

Twitter: @philipgrossuk

www.philipgross.co.uk

Cau
Kerry Hudson
Yn mentora: Bridget Keehan

Ganwyd Kerry Hudson yn Aberdeen. Enillodd ei nofel gyntaf, Tony Hogan Bought Me An Ice-Cream Float Before He Stole My Ma wobr y Scottish First Book Award ac yn ogystal roedd ar restri byrion y gwobrau canlynol: Southbank Sky Arts Literature Award, Guardian First Book Award, Green Carnation Prize, Author’s Club First Novel Prize a’r Polari First Book Award. Enillodd ail nofel Kerry, Thirst, wobr ffuglen tramor y Prix Femina Étranger yn Ffrainc, ac roedd ar restr fer gwobr European Premio Strega yn yr Eidal.

Mae ei chyfrol ddiweddaraf, cofiant, Lowborn, yn mynd â hi yn ôl at drefi ei phlentyndod, wrth iddi ymchwilio ei gorffennol hi ei hun. Roedd y gyfrol yn Radio 4 Book of the Week, ac yn Lyfr y Flwyddyn yn The Guardian a The Independent. Roedd ar restr hir y Gordon Burn Prize a’r Portico Prize ac ar restr fer y National Book Token, Books Are My Bag Reader’s Awards a’r Saltire Scottish Non-Fiction Book of the Year. Etholwyd Kerry yn Gymrawd Royal Society of Literature yn 2020. 

Twitter: @THATKERRYHUDSON

https://kerryhudson.co.uk/

Cau
Cynan Jones
Yn mentora: Anthony Shapland

Mae Cynan Jones yn awdur arobryn ac yn hanu o arfordir gorllewin Cymru. Mae ei waith wedi ymddangos mewn dros ugain o wledydd, mewn cylchgronau megis Granta a The New Yorker. Mae hefyd wedi ysgrifennu sgript ar gyfer y gyfres ddrama deledu boblogaidd  Hinterland, casgliad o straeon ar gyfer plant a nifer o straeon ar gyfer Radio BBC. Mae wedi cyrraedd rhestri hir a rhestri byrion nifer o wobrwyon, ac wedi ennill, ymhlith eraill wobr Ffuglen Llyfr Y Flwyddyn, Gwobr Jerwood Fiction Uncovered, ac enillodd y BBC National Short Story Award.  

Twitter: @cynan1975

https://www.cynanjones.com/

Cau
Jasleen Kaur
Yn mentora: Um Mohamed

Artist o’r Alban yw Jasleen Kaur sydd ar hyn o bryd yn byw yn Llundain. Mae ei gwaith yn archwilio natur hyblyg a hydrin diwylliant, a’r haenau o hanes cymdeithasol sydd i’w ganfod o fewn y pethau materol a haniaethol sydd o’n cwmpas. Mae ei chrefft yn archwilio hunaniaeth diaspora a hierarchaeth hanes, yn hanes trefedigaethol ac yn hanes personol. Mae hi yn gweithio drwy gyfrwng cerfluniau, fideo ag ysgrif. Ymysg ei chomisiynau diweddar a rhai ar y gweill y mae’r rhai gan y Wellcome Collection, UP Projects, Glasgow Women’s Library, Market Gallery, BALTIC Centre for Contemporary Art, Eastside Projects a Hollybush Gardens. Mae ei gwaith yn rhan o gasgliad sefydlog Touchstones Rochdale, Royal College of Art, a Crafts Council.

"Mae'r rhaglen hon yn cynnig hyder, gwybodaeth, cyfeillgarwch, ac yn cynorthwyo'r awduron i fynd i'r afael â chomisiynau, prosiectau a'u crefft."

Cau
Patrice Lawrence
Yn mentora: Simone Greenwood

Mae Patrice Lawrence yn awdur arobryn ar gyfer plant ac oedolion. Mae ei llyfrau ar gyfer oedolion ifainc wedi ennill nifer o wobrwyon, yn cynnwys y YA Prize, sef gwobr Waterstones Prize for Older Children's Fiction, enillodd y Crimefest YA Prize ddwy waith a hithau oedd enillydd cyntaf y Jhalak Prize for Children and Young People. Mae ei llyfr lluniau ar gyfer plant iau, Granny Came Here on the Empire Windrush  wedi cyrraedd rhestr fer yr Indie Book Awards.  Derbyniodd anrhydedd MBE am ei chyfraniad i lenyddiaeth fis Mehefin 2021. 

Twitter: @LawrencePatrice

Cau
Sophie Mackintosh
Yn mentora: Hattie Morrison

Ganwyd Sophie Mackintosh yng Nghymru ac ar hyn o bryd mae’n byw yn Llundain.

Mae ei ffuglen a’i gwaith ffeithiol greadigol wedi ymddangos yn The New York Times, Granta, a The White Review, ymhlith eraill. Enwebwyd ei nofel gyntaf The Water Cure, ar gyfer y Man Booker Prize 2018, ac fe gyhoeddwyd ei hail nofel, Blue Ticket, yn 2020. Cyhoeddir ei trydedd nofel, Cursed Bread, yn 2023. 

Twitter: @fairfairisles

https://www.sophiemackintosh.co.uk/  

Cau
Daniel Morden
Yn mentora: Phil Okwedy

Mae Daniel Morden yn un o brif adroddwyr straeon gwledydd Prydain. Bu’n gwneud bywoliaeth o adrodd straeon am dros ddeng mlynedd ar hugain; o balasau i garchardai; o feithrinfeydd i brifysgolion; ac o Awstralia i’r Arctig. Mae ei drysorfa o straeon yn amrywio o jôcs gwael i chwedlau dirdynnol am gariad a cholled. Yn 2017, fe’i wobrwywyd â medal Gŵyl y Gelli am adrodd straeon. Mae hefyd wedi ennill sawl gwobr, yn cynnwys Gwobr Tir na-N Og yn 2007 am ei gyfrol Dark Tales from the Woods (Pont Books). Yn 2020 fe ddyfarnwyd iddo Grant Cyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu straeon i gynorthwyo eraill i ymateb i heriau pandemig y Coronafeirws.

“Gobeithiaf y bydd y rhaglen hon yn ehangu’r amrediad o leisiau i’w clywed yn niwylliant Cymru.”

Cau
Abi Morgan
Yn mentora: Emily Burnett

Dramodydd a sgriptiwr ffilmiau yw Abi Morgan. Ymysg ei dramâu y mae Skinned, Sleeping Around, Splendour (Paines Plough); Tiny Dynaminte (Traverse); Tender (Hampstead Theatre); Fugee (National Theatre), 27 (National Theatre of Scotland), Love Song (Frantic Assembly) a The Mistress Contract (Royal Court Theatre). Mae ei gwaith teledu yn cynnwys My Fragile Heart, Murder, Sex Traffic, Tsunami - The Aftermath, White Girl, Royal Wedding, Birdsong, The Hour, River a The Split. Mae hi ar hyn o bryd yn gweithio ar drydedd cyfres, sef y gyfres olaf, o The Split i’r BBC. Mae ei gwaith sgriptio ffilmiau yn cynnwys Brick Lane, Iron Lady, Shame, The Invisible Woman a Suffragette. Mae ganddi sawl ffilm mewn datblygiad ar hyn o bryd. Mae Abi wedi ennill sawl gwobr, gan gynnwys BAFTA ac Emmy am ei gwaith ffilm a theledu.

“Rwy’n hynod falch o fod yn rhan o’r prosiect cyffrous hwn sy’n adlewyrchu treftadaeth llenyddol anhygoel Cymru. Am gyfle hyfryd i gysylltu gyda’n gwreiddiau Cymreig a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o leisiau Cymru. Maent yn fy ysbrydoli cyn gymaint â rwy’n eu hysbrydoli nhw.”

Cau
Rufus Mufasa
Yn mentora: Anastacia Ackers

Mae Rufus Mufasa yn artist cyfranogol arloesol, yn weithredydd llenyddol, yn fardd, yn rapiwr, yn gantores gyfansoddwraig, yn wneuthurwr theatr, ac yn olaf ond nid yn lleiaf, yn Fam.

O Gymrawd Barbican i Fardd Preswyl cyntaf Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae Rufus hefyd yn gweithio’n rhyngwladol, gan sicrhau preswyliadau llenyddol o Ŵyl Lenyddiaeth y Gelli i Sweden, y Ffindir, Indonesia, ac yn fwyaf diweddar Zimbabwe, ond mae bob amser yn dychwelyd i People Speak Up yn Llanelli, Cymru, gan hyrwyddo addysg hip hop, perfformio barddoniaeth, a datblygiad rhwng cenedlaethau, a chafodd ei phenodi yn Fardd ar Bresgripsiwn 2021. Roedd yn ‘Artist Hull 19’ fel rhan o fenter y BBC Contains Strong Language. Flashbacks and Flowers yw ei chasgliad cyntaf, a gyhoeddwyd gan Indigo Dreams, a wobrwywyd am eu harloesedd yn cyhoeddi, ac mae hefyd wedi rhyddhau ail albwm unigol yn 2021. Mae gwaith Rufus yn archwilio mamolaeth, ysbrydolrwydd llinach, dosbarth, anhrefn hinsawdd, trawma traws-genhedlaeth, y dwyfol a’r domestig, ffeministiaeth a ffydd.

Twitter: @rufusmufasa
https://www.rufusmufasa.com/

Cau
Alastair Reynolds
Yn mentora: Daniel Howell

Ganwyd Alastair Reynolds yn y Bari yn 1966, ond treuliodd ei lencyndod yng Nghernyw cyn dychwelyd i Gymru. Cychwynnodd ysgrifennu yn ifanc iawn (wedi ei ysbrydoli gan drip gyda’i dad i’r sinema i weld Goldfinger) ond penderfynodd ddilyn gyrfa mewn gwyddoniaeth, gan weithio yn y byd astroleg ag astroffiseg, gyrfa aeth ag ef i’r Iseldiroedd am bron i ugain mlynedd. Dychwelodd ef a’i wraig i Gymru yn 2008. Mae wedi ysgrifennu ugain nofel ac oddeutu cant o straeon byrion, ac mae ei ryddiaith wedi ei addasu i’r llwyfan a’r sgrîn. Cyrhaeddodd ei nofel wyddonias Terminal World (Gollancz) restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2011.

"Er mwyn i Sci-Fi barhau i fod yn berthnasol, mae angen iddo groesawu lleisiau sy'n cael eu tangynrychioli. Mae'r broses yma yn digwydd ym mhob rhan o'r byd a does dim rheswm pam na all Cymru chwarae ei rhan yn y don newydd gyffrous hon, gydag awduron talentog fel Daniel Howell yn dod i'r amlwg."

Cau
Jacob Ross
Yn mentora: Rosy Adams

Mae Jacob Ross yn awdur, tiwtor, mentor ac yn Olygydd Cynorthwyol Ffuglen gyda Peepal Tree Press – cyhoeddwr annibynnol amlwg o lenyddiaeth Caribïaidd, Affricanaidd ac Asiaidd yn y Deyrnas Unedig. Mae wedi bod yn feirniad ar gyfer nifer fawr o wobrau, yn cynnwys y Commonwealth Writers Short Prize, y Scott Moncrieff Translation Prize, a gwobrau VS Pritchett a Tom Gallon.

Mae’n diwtor profiadol, yn hyfforddi ar grefft naratif, ac mae’n cynnal nifer o weithdai ysgrifennu creadigol yn y DU a thramor. Mae ei ffuglen wedi ennill nifer o wobrau, ac yn ddiweddar roedd un o’i gyfrolau yn rhestr Jiwbili’r Frenhines, yn cynnwys ffuglen gorau’r gymanwlad ar gyfer pob degawd o deyrnasiad Ei Mawrhydi.

Mae Jacob Ross yn Gymrawd y Royal Society of Literature. 

Cau
Manon Steffan Ros
Yn mentora: Nia Morais

Nofelydd, dramodydd, awdur gemau a sgriptiwr yw Manon Steffan Ros. Ysgrifennodd dros ugain o lyfrau plant, a thair nofel i oedolion. Enillodd y Fedal Ddrama ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol (2004 a 2005), a’r Fedal Ryddiaith yn 2018 am Llyfr Glas Nebo (Y Lolfa) a aeth ymlaen i gipio gwobr driphlyg yng ngwobr Llyfr y Flwyddyn 2019. Addaswyd Llyfr Glas Nebo yn gynhyrchiad llwyfan gan deithio Cymru yn 2020; ac yn haf 2021, cyhoeddwyd fod y nofel boblogaidd am gael ei chyfieithu i’r Saesneg a’i chyhoeddi dan y teitl The Blue Book of Nebo gan Firefly Press. Mae Manon yn sgriptio i Pobol y Cwm, ac yn cyfrannu ysgrif wythnosol i gylchgrawn Golwg.

Cau
Michael Rosen
Yn mentora: Shara Atashi 

Mae Michael Rosen yn un o hoff awduron cynulleidfaoedd gwledydd Prydain, ac mae’n ysgrifennu ac yn perfformio straeon a barddoniaeth i blant ag oedolion. Ef oedd y Children’s Laureate rhwng 2007-2009. Mae wedi cyhoeddi dros 200 llyfr i blant ac oedolion, ac maent yn pontio sawl genre. Mae’n ysgrifennu yn aml i The Guardian ynglyn ag addysg, ac mae ganddo golofn reolaidd yn y New Humanist. Cafodd ei gomisiynu i greu gwaith i nifer o sefydliadau mawr gan gynnwys y British Museum a neuadd gyngerdd Snape Maltings, ynghyd â gwaith ar y cyd â’r London Sinfonia, The Bach Choir, The Barbican Centre, the Wellcome Collection, a’r Tate Modern. Mae wedi derbyn sawl wobr anrhydeddus yn cynnwys Gwobr Eleanor Farjeon am ei gyfraniad eithriadol i lenyddiaeth plant.

"Rwyf wrth fy modd gyda’r prosiect hwn. Rwy'n teimlo y bod dyletswydd arnaf i rannu fy awgrymiadau, ystyriaethau a syniadau, a all helpu awduron sy’n chwilio am gyngor.”

Cau
Peter Scalpello
Yn mentora: Frankie Parris

Mae Peter Scalpello yn fardd cwiar a therapydd o Glasgow. Mae eu gwaith wedi ymddangos yn Five Dials, Granta, a The London Magazine, ymysg cyhoeddiadau eraill. Mae eu casgliad barddoniaeth cyntaf, Limbic, wedi ei gyhoeddi gan Cipher Press. 

Twitter: @p_scalpello

Cau
Katherine Stansfield
Yn mentora: Ciaran Keys

Mae Katherine Stansfield yn fardd a nofelydd aml-genre. Enillodd ei chyfres trosedd hanesyddol Cornish Mysteries wobr Holyer an Gof Fiction Prize ac fe gyrhaeddodd Restr Fer Winston Graham Memorial Prize. The Mermaid's Call yw’r gyfrol ddiweddaraf yn y gyfres hon. Mae hefyd, gyda’i chymar David Towsey, yn gyd-awdur trioleg ffantasi a throsedd; maent yn cyhoeddi dan enw D. K. Fields. Yn ogystal mae wedi cyhoeddi dau gasgliad cyflawn o farddoniaeth, ynghyd â phamffled barddoniaeth gyda Seren. Mae Katherine yn gyd-olygydd, gyda Caroline Oakley, y gyfrol Cast a Long Shadow: straeon byrion trosedd gan ferched o Gymru, a gyhoeddir gan Honno. Mae’n dysgu ysgrifennu creadigol mewn nifer o brifysgolion, a bu’n Gymrawd y Royal Literary Fund. Yn 2021, ynghyd â chyd-aelodau Crime Cymru – sef cylch o awduron trosedd o Gymru, lansiodd Katherine wobr newydd ar gyfer awduron newydd sy’n ysgrifennu am drosedd.

Twitter: @K_Stansfield

http://katherinestansfield.blogspot.com/

Cau
Rachel Trezise
Yn mentora: Kittie Belltree

Mae Rachel Trezise yn nofelydd a dramodydd o Gwm Rhondda. Cafodd ei nofel gyntaf In and Out of the Goldfish Bowl ei gynnwys ar yr Orange Futures List yn 2002. Yn 2006 enillodd ei chasgliad cyntaf o straeon byrion Fresh Apples Wobr Dylan Thomas. Enillodd ei hail gasgliad o straeon byrion Cosmic Latte yr Edge Hill Prize Readers Award yn 2014. Bu ei drama diweddaraf ‘Cotton Fingers’ ar daith o gwmpas Iwerddon a Chymru ac enillodd y Summerhall Lustrum Award yng Ngŵyl Ffrinj Caeredin yn 2019. Cyhoeddwyd ei nofel diweddaraf Easy Meat yn 2021. 

Twitter: @RachelTrezise

Cau
Eloise Williams
Yn mentora: Amy Kitcher

Eloise Williams oedd y Children’s Laureate Wales cyntaf yn ystod 2019-2021, rôl llysgenhadol genedlaethol o dan adain Llenyddiaeth Cymru.

Wedi hyfforddi’n wreiddiol mewn Theatr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru aeth ymlaen i weithio fel actor, gwneuthurwr theatr ac ymarferydd creadigol am dros ddegawd, cyn ennill Gradd Meistr gydag anrhydedd mewn Ysgrifennu Creadigol ac Ysgrifennu i’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Abertawe yn 2011. Ers hynny mae wedi cyhoeddi Elen’s Island, Gaslight, Seaglass, a Wilde gyda Firefly Press, The Tide Singer gyda Barrington Stoke, a The Mab – ail-adroddiad o straeon y Mabinogi, gyda gwasg Unbound.

Twitter: @Eloisejwilliams

https://eloisewilliams.com/

Cau