Rydym eisiau creu diwylliant llenyddol sydd yn wirioneddol adlewyrchu ystod ac amrywiaeth poblogaeth Cymru. Byddwn yn parhau i roi pwyslais ar ddatblygu a rhoi llwyfan i bobl sydd yn wedi eu tangynrychioli ac sydd wedi profi anffafriaeth hanesyddol a systemig, hiliaeth, ablaeth ac anffafriaeth. Fe ddylai pobl sydd ddim yn gweld eu hunain yn y llenyddiaeth maent yn ei ddarllen a’i glywed fedru gweld awduron sydd â’r un profiad byw, mewn cyfrolau wedi eu cyhoeddi, mewn perfformiadau o waith, fel lladmeryddion cymunedol, arweinyddion gweithdai, tiwtoriaid ysgrifennu creadigol, ac fel Beirdd Cenedlaethol.
Mae cael cynrychiolaeth deg a chydraddoldeb yn broses hirdymor, ac mae ein hymrwymiad i flaenoriaethu hyn yn barhaus. Mae creu diwylliant o leisiau sy’n cael eu tangynrychioli a fydd yn ysbrydoli eraill yn mynd i gymryd amser i’w gyflawni, ond rydym yn ymrwymo i gyflwyno newidiadau systemig.
Bydd Cynrychioli Cymru, ein prif raglen ddatblygu awduron yn parhau i esblygu. Bob blwyddyn, byddwn yn buddsoddi mewn grŵp blaenoriaeth, sy’n uniaethu â nodwedd benodol yn ymwneud â thangynrychiolaeth (ac yn aml gyda mwy nag un nodwedd). Byddwn yn darparu rhaglen bwrpasol er mwyn cynorthwyo’r awduron wireddu eu hamcanion. Bydd hyn yn creu ffrwd o dalent unigryw ac amrywiol o Gymru, a fydd yn gallu cynrychioli ein diwylliant llenyddol yma a thramor. Bydd ein hymrwymiad i’r awduron hyn yn parhau ar ôl diwedd y rhaglen, gan y byddwn yn parhau i’w cefnogi yn ystod y blynyddoedd i ddod, a’u hyrwyddo fel llysgenhadon Llenyddiaeth Cymru, a thros lenyddiaeth Cymru. Roedd rhifyn cyntaf Cynrychioli Cymru yn canolbwyntio ar awduron o liw. Bydd ail rifyn rhaglen Cynrychioli Cymru yn canolbwyntio ar awduron o gefndir incwm isel. Bydd nifer ohonynt yn wynebu heriau eraill yn ogystal, oherwydd eu cenedligrwydd, anabledd, rhywedd, hunaniaeth rhyweddol, oed, ffydd neu gred.