Dewislen
English

Cynrychioli Cymru 2024-2025

Hoffai Llenyddiaeth Cymru unwaith eto wahodd ceisiadau ar gyfer ein rhaglen ddwyieithog 12 mis o hyd, Cynrychioli Cymru. Mae’r rhaglen yn darparu cyfleoedd i awduron sydd heb gynrychiolaeth deg yn y sector llenyddol i ddatblygu eu crefft a’u dealltwriaeth o’r diwydiant llenyddiaeth a chyhoeddi. 

O’r dudalen hon, gallwch ddod o hyd i wybodaeth am raglen 2024-2025 a manylion am sut i wneud cais. Er mwyn clywed am brofiadau awduron y gorffennol a gwybodaeth gefndirol am Cynrychioli Cymru, ewch draw i’r brif dudalen prosiect.

Caiff rhaglen Cynrychioli Cymru ei hariannu gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. 

Dyddiadau Allweddol: 

Dyddiad cau: 5.00pm, Dydd Iau 28 Medi 2023
Dyddiadau’r rhaglen: Mis Ebrill 2024 – Mis Mawrth 2025

Mae rhagor o fanylion am y rhaglen, cymhwystra, a sut i ymgeisio isod. Mae’r wybodaeth ar gael mewn print bras ac mewn ffurf dyslecsia gyfeillgar ar y dudalen Lawrlwytho.