Dewislen
English
Cysylltwch

 

Beth mae’r rhaglen hon yn ei chynnig?  

Mae Cynrychioli Cymru yn rhaglen datblygu awduron 12 mis o hyd sy’n cynnwys: 

  • Nawdd ariannol o £3,000
  • Nawdd ariannol ychwanegol ar gyfer costau teithio
  • 6 gweithdy rhithiol dwy awr yr un i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth broffesiynol yr awduron
  • 4 Dosbarth Meistr ysgrifennu creadigol, gyda dau ohonynt yn benwythnosau preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd
  • 4 Sesiwn Fentora un-wrth-un yn para 1-2 awr yr un
  • 4 Ystafell Ysgrifennu rithiol sy’n cynnig y cyfle i’r garfan rannu gwaith creadigol ac adborth gyda’i gilydd
  • Cyfleoedd rhwydweithio drwy gydol y flwyddyn

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael y cyfle i gyd-greu elfennau o’r rhaglen gyda thîm Llenyddiaeth Cymru, drwy awgrymu siaradwyr, tiwtoriaid a themâu ym mis Mawrth 2024. 

Bydd staff Llenyddiaeth Cymru hefyd yn cysylltu â’r awduron drwy gydol y flwyddyn i drafod eu datblygiad a’u nodau, ac i dderbyn adborth rheolaidd. 

 

Beth fydd yn digwydd ar ôl i’r rhaglen ddod i ben?  

Ar ôl y rhaglen 12 mis, byddwn yn parhau i gynnig cefnogaeth i’r garfan drwy gadw mewn cysylltiad, cynnig cyngor, a gwahodd yr awduron i ddigwyddiadau rhwydweithio a hyfforddi pellach. Credwn yn gryf bod hwn yn fuddsoddiad hirdymor yn natblygiad yr awduron. 

 

Faint o awduron sydd ar y rhaglen? 

Bydd lle i 14 awdur ar raglen Cynrychioli Cymru 2024-25. 

 

Sut gallaf wneud cais am y rhaglen hon? 

I wneud cais, gofynnwn yn garedig i chi: 

  • Ddarllen y Cwestiynau Cyffredin
  • Cwblhau ac anfon eich cais drwy ein ffurflen ar-lein NEU
  • Lawrlwytho a chwblhau eich cais mewn dogfen print bras neu ddogfen sy’n gyfeillgar i unigolion â dyslecsia, ac e-bostio y rhain wedi eu hatodi at post@llenyddiaethcymru.org.

 

Pryd byddaf yn gwybod os yw fy nghais yn llwyddiannus? 

Rydym yn rhagweld y bydd pob ymgeisydd yn derbyn canlyniad eu cais erbyn diwedd mis Chwefror 2024.  

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi ymrwymo i drin pob cais gyda’r gofal a’r ystyriaeth y mae’n ei haeddu. Mae’n cymryd amser i’r panel ddarllen ac asesu pob cais ac i staff Llenyddiaeth Cymru ddod o hyd i gyfleoedd addas a chynnig adborth penodol i bob ymgeisydd. 

Ceir rhagor o wybodaeth am y broses asesu ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin.  

 

Ym mha iaith y caiff y rhaglen hon ei chynnal? 

Mae Cynrychioli Cymru yn rhaglen ddwyieithog, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan awduron o Gymru sy’n ysgrifennu yn Gymraeg a/neu Saesneg. Mae croeso mawr i awduron sydd â diddordeb mewn ysgrifennu yn y Gymraeg am y tro cyntaf, yn ogystal ag awduron sy’n mwynhau arbrofi gyda’r ddwy iaith yn eu gwaith creadigol. 

Bydd pob digwyddiad yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, yn ddibynnol ar ddewis iaith y garfan. Bydd  cyfieithu ar y pryd ar gael lle bo angen. 

Darganfyddwch ragor ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin. 

 

Pam cynnal y rhaglen hon? 

Rydyn ni’n gwybod bod amryw o rwystrau’n dal i fodoli yn y sector a’r rheini’n atal awduron, darllenwyr a chynulleidfaoedd rhag ymwneud â llenyddiaeth. Mae cynrychiolaeth a chydraddoldeb yn flaenoriaethau i Llenyddiaeth Cymru. Nod ein gwaith yw helpu creu sector sy’n cefnogi mynediad cyfartal i bawb drwy fynd i’r afael ag anghydraddoldebau hanesyddol a strwythurol a thrwy lwyfannu a datblygu lleisiau amrywiol. 

Dysgwch rhagor am ein gwaith Cynrychiolaeth a Chydraddoldeb yn ein cynllun strategol 2022-2025. 

Pa effaith y mae rhaglen Cynrychioli Cymru yn ei chael? 

Dros y dair mlynedd ddiwethaf, mae Llenyddiaeth Cymru wedi cefnogi 40 o awduron o Gymru i gyflawni eu nodau proffesiynol a chreadigol. Mae aelodau blaenorol y garfan yn cynnwys Bardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa a Bardd Plant Cymru presennol, Nia Morais. Yn dilyn y rhaglen, mae llawer o’r awduron wedi mynd ati i ddod o hyd i asiant llenyddol, cyhoeddi a pherfformio eu gwaith, a chreu proffil fel eiriolwyr llenyddol ac ymarferwyr creadigol o fewn eu cymunedau. 

Cewch glywed mwy am brofiadau awduron y llynedd drwy wylio’r fideo isod: 

 

 

Ceir rhagor o wybodaeth am effaith rhaglen Cynrychioli Cymru drwy fynd i’r adran ‘Gair o Brofiad’ ar dudalen y prosiect. 

 

Darllen pellach: Pam canolbwyntio ar lenyddiaeth gan awduron heb gynrychiolaeth deg? 

Os hoffech sgwrsio gydag aelod o staff cyn gwneud cais, e-bostiwch Llenyddiaeth Cymru ar post@llenyddiaethcymru.org neu ffoniwch ni am sgwrs anffurfiol ar 01766 522 811 (Swyddfa Tŷ Newydd). Neu gallwch gysylltu â ni ar gyfryngau cymdeithasol. 

Bydd staff Llenyddiaeth Cymru ar gael i ateb eich cwestiynau yn ystod dau sesiwn digidol anffurfiol, rhwng 6,00 – 7.00 pm Ddydd Iau 24 Awst a Dydd Mercher 20 Medi 2023. Cliciwch ar y dyddiadau er mwyn cael eich tocyn am ddim drwy Eventbrite. 

Nôl i Ymgeisiwch ar gyfer Cynrychioli Cymru 2024-2025