Dewislen
English

Cwestiynau Cyffredin

Os oes gennych gwestiynau am raglen Cynrychioli Cymru, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin isod.  

Os na allwch weld yr ateb i’ch cwestiwn, e-bostiwch Llenyddiaeth Cymru ar post@llenyddiaethcymru.org neu ffoniwch ni am sgwrs anffurfiol ar 01766 522 811 (Swyddfa Tŷ Newydd). Neu gallwch gysylltu â ni ar ein cyfryngau cymdeithasol. 

Bydd staff Llenyddiaeth Cymru ar gael i ateb eich cwestiynau yn ystod dau sesiwn digidol anffurfiol, rhwng 6,00 – 7.00 pm Ddydd Iau 24 Awst a Dydd Mercher 20 Medi 2023. Cliciwch ar y dyddiadau er mwyn cael eich tocyn am ddim drwy Eventbrite. 

Mae’r ddogfen hon ar gael i’w lawrlwytho ac mae ar gael mewn fformat print bras a fformat dyslecsia-gyfeillgar. Ewch i waelod y dudalen hon er mwyn lawrlwytho’r fersiynau hyn.  

Y Broses Ymgeisio

Sut mae gwneud cais?

I wneud cais am le ar raglen Cynrychioli Cymru, bydd angen i chi gyflwyno:  

 

  1. Ffurflen gais wedi’i chwblhau 

Bydd y ffurflen gais yn gofyn am eich manylion personol, gan gynnwys manylion a fydd yn ein helpu i asesu cymhwystra a gwybodaeth am eich gyrfa fel awdur hyd yn hyn. Byddwn hefyd yn holi am eich uchelgeisiau fel awdur a pham y credwch y gall rhaglen Cynrychioli Cymru eich helpu ar y pwynt yma yn eich gyrfa.  

 

  1. Sampl o waith creadigol sydd heb ei gyhoeddi sy’n addas ar gyfer oedolion 

  

Bydd y ffurflen gais yn gofyn ichi uwchlwytho un o’r opsiynau canlynol: 

  

  • 4-8 cerdd;
    NEU 
  • Pennod o lawysgrif ffeithiol greadigol yr hoffech ei datblygu yn ystod y rhaglen hon (uchafswm o 2,000 o eiriau)
    NEU 
  • Pennod o lawysgrif ffuglen yr hoffech ei datblygu yn ystod y rhaglen hon (uchafswm o 2,000 o eiriau) NEU 
  • os yw eich gwaith ar y gweill yn un a pherfformir, gofynnwn i chi nodi hyn ar waelod y sampl ysgrifenedig. Fel arall, rydym hefyd yn croesawu perfformiadau fideo a fe ellir eu hanfon trwy ddolen WeTransfer i post@llenyddiaethcymru.org. 
  • os yw eich gwaith ar y gweill yn nofel graffeg, gofynnwn i chi uwchlwytho crynodeb o’r stori gyda’ch cais ac e-bostio sampl o dudalennau bwrdd stori wedi’u cwblhau (gyda thestun a darluniau) i post@llenyddiaethcymru.org 
Pa gategorïau o ysgrifennu creadigol ydych chi'n eu derbyn y flwyddyn hon?

Rydym yn croesawu gwaith creadigol ar gyfer oedolion. 

Mae hyn yn cynnwys y genres canlynol: 

  • Ffeithiol greadigol. Diffiniwn ffeithiol greadigol fel naratif ffeithiol lle mae creadigrwydd y rhyddiaith yn ganolog i natur y gwaith. Mae’r genre yn cynnwys cofiannau, bywgraffiadau, hanes cymdeithasol, ysgrifennu teithio ac ysgrifennu natur. 
  • Nofelau graffeg 
  • Ffuglen 
  • Barddoniaeth 
  • Perfformiadau llafar a/neu rap 

 

Os ydych yn ansicr a yw eich gwaith creadigol yn gymwys ai peidio, cysylltwch â ni ar post@llenyddiaethcymru.org i sgwrsio ag aelod o staff. 

Pam nad ydych yn derbyn gwaith creadigol ar gyfer Plant ac Oedolion Ifanc eleni?

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd datblygu i awduron heb gynrychiolaeth deg sy’n gweithio mewn amrywiaeth o genres. Ar ôl canolbwyntio ar lenyddiaeth i blant a phobl ifanc yn ystod rhaglen 2023-24, bydd Llenyddiaeth Cymru yn cefnogi datblygiad y rheini sy’n ysgrifennu ac yn creu gwaith ar gyfer oedolion yn ystod rhaglen 2024-25. 

 

Os ydych chi’n ysgrifennu ar gyfer cynulleidfaoedd iau, efallai hoffech fynychu rhai o sesiynau rhaglen 2022/23 sy’n rhad ac am ddim ac yn agored i’r cyhoedd. Cyhoeddir rhagor o fanylion ynglŷn â’r sesiynau cyhoeddus yn fuan.  

Rwy'n nofelydd graffeg neu'n artist gair llafar - sut mae anfon sampl o fy ngwaith atoch? 

Os mai nofel graffeg yw eich gwaith ar y gweill, gofynnwn i chi anfon crynodeb a sampl o dudalennau bwrdd stori wedi’u cwblhau (gyda thestun a darluniau) dros e-bost at post@llenyddiaethcymru.org 

Os ydych yn artist gair llafar a byddai’n well gennych anfon perfformiad fideo o’ch gwaith creadigol gwreiddiol, gofynnwn i chi anfon dolen WeTransfer at post@llenyddiaethcymru.org. 

Sylwch os gwelwch yn dda, bydd angen i chi hefyd lenwi a chyflwyno ffurflen gais ochr yn ochr â’r cyflwyniadau e-bost hyn o’ch gwaith creadigol. 

Pryd mae'r dyddiad cau? 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar gyfer rhaglen Cynrychioli Cymru 2024-25 yw: 5.00 pm Dydd Iau 28 Medi 2023. 

Cymhwystra

Pwy sy’n gymwys i wneud cais? 

Rydym wedi ymrwymo i helpu i greu diwylliant llenyddol sydd wir yn cynrychioli amrywiaeth ein poblogaeth yng Nghymru.  

 

Eleni, byddwn yn croesawu ceisiadau gan awduron o Gymru sy’n dod o gefndiroedd sy’n cael eu tangynrychioli. Rydym yn awyddus iawn i gefnogi awduron sy’n uniaethu fel un neu sawl un o’r canlynol:  

 

  • Byddar a/neu drwm eu clyw 

 

O gefndir incwm isel* 

*Mae ein meini prawf ar gyfer cefndir incwm isel yn cynnwys unigolion a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, neu yr oedd eu rhieni mewn swyddi cyflog isel, yn ddi-waith, neu’n derbyn budd-daliadau (gan gynnwys lwfansau anabledd) pan oedd yr ymgeiswyr yn 14 oed. Cesglir data economaidd-gymdeithasol (gan gynnwys asesiad SEC a hunanasesiad) oddi wrth yr ymgeiswyr i bennu cymhwysedd ar gyfer y rhaglen hon.  

 

  • Perthyn i gymunedau Sipsiwn, Roma a/neu Deithwyr 

 

  • LHDTC+ 

 

Niwroamrywiol* 

*Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: Awtistiaeth, ADHD, Dyslecsia, Dyspracsia, Syndrom Tourette ac OCD 

 

  • Pobl o gefndir Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig 

 

Unigolion sy’n byw gydag anableddau neu gyflyrau iechyd hirdymor* 

*h.y. wedi parhau neu y disgwylir i parhau am o leiaf 12 mis ac yn cael effaith andwyol ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd. 

 

Rydym yn gwerthfawrogi fod unigolion a chymunedau eraill heb gynrychiolaeth deg yn y sector lenyddol, a bydd hefyd awduron nad ydynt yn uniaethu â’r categorïau uchod, felly bydd cyfle i ymgeiswyr egluro yn eu geiriau eu hunain pam eu bod yn credu eu bod yn gymwys i wneud cais. 

 

Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed a rhaid iddynt fod yn byw yng Nghymru ar adeg gwneud y cais a thrwy gydol y rhaglen 12 mis.  

Pwy sydd ddim yn gymwys i wneud cais?

Mae’n ddrwg gennym nad yw’r rhaglen ar agor i fyfyrwyr na gweithwyr Llenyddiaeth Cymru a’i noddwyr na’r rhai sydd wedi bod yn rhan o raglen Cynrychioli Cymru yn y gorffennol. 

Os ydych yn ansicr a ydych yn gymwys ai peidio, cysylltwch â ni ar post@llenyddiaethcymru.org i sgwrsio gydag aelod o staff. 

Rwy'n Ffoadur a/neu'n Geisiwr Lloches, a allaf wneud cais?

Cysylltwch â ni ar post@llenyddiaethcymru.org i drafod eich sefyllfa gydag aelod o dîm Llenyddiaeth Cymru. 

Ydw i angen profiad blaenorol i wneud cais? 

Na, dim ond enghraifft o’ch ysgrifennu creadigol gorau ar gyfer oedolion sydd heb ei gyhoeddi, yr hoffech ei ddatblygu yn ystod y rhaglen. Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rhai sy’n newydd i’r byd ysgrifennu, neu’r rhai sydd efallai wedi dechrau ar eu taith ac angen cymorth i gyrraedd y lefel nesaf. Bydd y Panel Asesu yn edrych ar botensial, uchelgais a gwreiddioldeb yr ymgeiswyr. 

Ydw i'n rhy brofiadol i wneud cais? 

Mae’r cyfle hwn yn bennaf ar gyfer awduron newydd, gyrfa gynnar neu gyrfa ganolig. Fodd bynnag, fel awdur mwy profiadol efallai y gwelwch fod yna rwystrau sy’n eich hatal rhag cyrraedd eich llawn botensial, neu efallai y byddwch am arbrofi gyda ffurf neu iaith lenyddol wahanol. Bydd gan bawb ddiffiniad gwahanol o beth yw gyrfa gynnar neu ganolig, a lle maent yn credu eu bod ar eu taith fel awdur. Os ydych chi’n ansicr ai dyma’r rhaglen iawn i chi ar y cam hwn o’ch gyrfa ysgrifennu, cysylltwch â ni i drafod eich taith.  

Ym mha iaith y caiff y rhaglen hon ei chynnal?

Mae Cynrychioli Cymru yn rhaglen ddwyieithog, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan awduron o Gymru sy’n ysgrifennu yn Gymraeg a/neu Saesneg. Mae croeso mawr i awduron sydd â diddordeb mewn dechrau ysgrifennu yn y Gymraeg am y tro cyntaf, yn ogystal ag awduron sy’n mwynhau arbrofi gyda’r ddwy iaith yn eu gwaith creadigol. 

Bydd pob digwyddiad yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, yn dibynnu ar ddewis iaith y garfan. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael lle bo angen. 

Os byddwch yn ysgrifennu’n greadigol mewn unrhyw iaith arall, byddwn yn ceisio’ch cynorthwyo drwy eich paru â Mentor addas sydd hefyd yn rhugl yn yr iaith honno. 

Sylwch mai dim ond enghreifftiau o ysgrifennu creadigol yn Gymraeg neu Saesneg y gallwn eu hasesu. Os byddwch yn cyflwyno gwaith creadigol gwreiddiol mewn iaith arall, bydd angen i chi hefyd gyflwyno cyfieithiad o’r gwaith i’r Gymraeg neu’r Saesneg. 

Rwyf wedi derbyn Ysgoloriaeth gan Llenyddiaeth Cymru neu wedi cymryd rhan mewn cynlluniau Mentora yn y gorffennol, a allaf wneud cais?

Gallwch – rydym am i’r rhaglen fod yn agored i gynifer o awduron cymwys â phosibl. 

Y Rhaglen

Bydd eich cais yn cael ei asesu gan banel annibynnol o arbenigwyr a fydd yn asesu: 

  • Potensial creadigol ac ansawdd yr ysgrifennu a gyflwynwyd, yn ogystal â’r gwreiddioldeb 

a ffresni’r syniadau a llais a amlygir yn eich gwaith. 

  • Addasrwydd y rhaglen hon i chi ar y pwynt hwn yn eich gyrfa fel awdur 

 

Sgrinio Proffil 

Bydd pob cais yn cael ei wirio gan dîm Llenyddiaeth Cymru i sicrhau bod yr awdur yn gymwys ar gyfer y rhaglen. 

Sylwch fod y wybodaeth a ddarperir yn eich cais yn gyfrinachol ac y caiff ei defnyddio er mwyn asesu mewnol yn unig. 

Bydd Cadeirydd y Panel yn didoli’r ceisiadau cymwys ac yn dewis rhestr fer i’r Panel Asesu gyfan ei hystyried. 

Bydd y Panel Asesu yn darllen pob cais ar y rhestr fer ar wahân ac yn dyfarnu marc i bob ymgeisydd, yn defnyddio meini prawf gan edrych ar botensial ac ansawdd y darn ysgrifennu creadigol a gyflwynwyd gennych, yn ogystal ag addasrwydd y rhaglen hon ar eich cyfer. Bydd y penderfyniad terfynol yn digwydd yn ystod cyfarfod Panel lle bydd yr 14 awdur llwyddiannus yn cael eu dewis. 

Mae ein statws fel sefydliad dwyieithog, cenedlaethol yn ein hymrwymo i sicrhau bod ystod o awduron yn gallu elwa o’n cyfleoedd. Gall y Panel Asesu hefyd ystyried cydbwysedd ieithyddol a daearyddol, a chynrychiolaeth wrth ddewis ymgeiswyr. 

 

Mae’r Panel Asesu yn cynnwys pedwar unigolyn sydd ag arbenigedd mewn amrywiaeth o genres creadigol, a’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru a thu hwnt.   

Os byddaf yn aflwyddiannus, a fyddaf yn cael adborth?
Pryd byddaf yn clywed a yw fy nghais wedi bod yn llwyddiannus?

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi ymrwymo i hwyluso proses asesu drylwyr, ofalgar a manwl. Er mwyn sicrhau bod gan y panel asesu ddigon o amser i adolygu pob cais ac asesu’r gweithiau creadigol, ac i staff Llenyddiaeth Cymru ddarparu adborth a chyngor defnyddiol, disgwyliwn y bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod am benderfyniad y Panel Asesu erbyn diwedd mis Chwefror 2024. 

Sut bydd fy nghais yn cael ei asesu? 

Mae Cynrychioli Cymru yn rhaglen 12 mis o hyd sydd â’r nod o helpu awduron i gyflawni eu huchelgeisiau hirdymor. Bob blwyddyn, rydyn ni’n creu rhaglen ddatblygu bwrpasol i awduron sy’n cael eu tangynrychioli yn niwylliant llenyddol Cymru. 

Mae Cynrychioli Cymru yn rhaglen datblygu awduron 12 mis o hyd sy’n cynnwys:  

 

  • Nawdd ariannol o £3,000
  • Nawdd ariannol ychwanegol ar gyfer treuliau teithio
  • 6 gweithdy rhithiol dwy awr yr un i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth broffesiynol yr awduron
  • 4 Dosbarth Meistr ysgrifennu creadigol, gyda dau ohonynt yn benwythnosau preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd
  • 4 Sesiwn Fentora un-wrth-un yn para 1-2 awr yr un
  • 4 Ystafell Ysgrifennu rithiol sy’n cynnig y cyfle i’r garfan rannu gwaith creadigol ac adborth gyda’i gilydd
  • Cyfleoedd rhwydweithio drwy gydol y flwyddyn

Ymholiadau Cyffredinol

Nôl i Ymgeisiwch ar gyfer Cynrychioli Cymru 2024-2025