Dewislen
English
Cysylltwch

Mae’r rhaglen yn croesawu ceisiadau gan unigolion sydd: 

  • Dros 18 oed ac yn byw yng Nghymru ar adeg y cais a thrwy gydol y rhaglen 12 mis o hyd
  • Yn uniaethu fel rhywun sy’n cael ei dangynrychioli o fewn diwylliant llenyddol Cymru
  • Yn datblygu darn penodol o waith ar gyfer cynulleidfaoedd hŷn
  • Yn gallu ymrwymo oddeutu 10 noson a 4 penwythnos i’r rhaglen ynghyd â’r amser angenrheidiol ar gyfer eu sesiynau mentora a datblygu eu gwaith ar y gweill. Bydd tri chyfarfod ffurfiol gyda staff Llenyddiaeth Cymru yn cael eu trefnu yn ystod y flwyddyn, a disgwylir bod yr awduron yn cynnal gohebiaeth gyson gyda’r tîm. Yn ystod mis Mawrth 2024, bydd Llenyddiaeth Cymru yn gweithio ochr yn ochr â’r garfan i benodi amseroedd a dyddiadau cyfleus i bawb.

Os oes gennych gwestiynau neu bryderon ynghylch eich argaeledd, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru ar post@llenyddiaethcymru.org neu 01766 522 811 (Swyddfa Tŷ Newydd) / 029 2047 2266 (Swyddfa Caerdydd).  

Mae rhestr lawn o feini prawf cymhwystra i’w gweld ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin.

Nôl i Ymgeisiwch ar gyfer Cynrychioli Cymru 2024-2025