I wneud cais am le ar raglen Cynrychioli Cymru, bydd angen i chi gyflwyno:
- Ffurflen gais wedi’i chwblhau
Ffurflen Gais Cynrychioli Cymru 2024-2025
Bydd y ffurflen gais yn gofyn am eich manylion personol, gan gynnwys manylion a fydd yn ein helpu i asesu cymhwystra a gwybodaeth am eich gyrfa fel awdur hyd yn hyn. Byddwn hefyd yn holi am eich uchelgeisiau fel awdur a pham y credwch y gall rhaglen Cynrychioli Cymru eich helpu ar y pwynt yma yn eich gyrfa.
- Sampl o waith creadigol sydd heb ei gyhoeddi sy’n addas ar gyfer oedolion
Bydd y ffurflen gais yn gofyn ichi uwchlwytho un o’r opsiynau canlynol:
–4-8 cerdd;
NEU
–Pennod o lawysgrif ffeithiol greadigol yr hoffech ei datblygu yn ystod y rhaglen hon (uchafswm o 2,000 o eiriau) NEU
–Pennod o lawysgrif ffuglen yr hoffech ei datblygu yn ystod y rhaglen hon (uchafswm o 2,000 o eiriau) NEU
-os yw eich gwaith ar y gweill yn un a pherfformir, gofynnwn i chi nodi hyn ar waelod y sampl ysgrifenedig. Fel arall, rydym hefyd yn croesawu perfformiadau fideo a fe ellir eu hanfon trwy ddolen WeTransfer i post@llenyddiaethcymru.org.
– os yw eich gwaith ar y gweill yn nofel graffeg, gofynnwn i chi uwchlwytho crynodeb o’r stori gyda’ch cais ac e-bostio sampl o dudalennau bwrdd stori wedi’u cwblhau (gyda thestun a darluniau) i post@llenyddiaethcymru.org.