Dewislen
English

Gweithdai ar gyfer cymunedau LGBTQ + i archwilio llais creadigol a hunanfynegiant

 

Cyfranogwyr: Unigolion LGBTQ+ yn Hwlffordd ac Aberteifi

Awdur ac artist: Kerry Steed a Di Ford

Lleoliad: Hwlffordd, Sir Benfro; ac Aberteifi, Ceredigion

Gwybodaeth bellach: Dyma gyfres o weithdai sydd wedi eu cynllunio i ddarganfod ac archwilio llais creadigol a hunan-fynegiant tra’n annog ymgysylltu cymunedol ar gyfer y cymunedau LGBTQ+ yn Hwlffordd ac Aberteifi. Tra’n darparu gofod diogel ar gyfer rhannu storïau unigol, bydd yr awdur Kerry Steed a’r artist Di Ford yn hwyluso dulliau creadigol amrywiol i ddod i adnabod yr hunan creadigol. Byddant yn defnyddio technegau ysgrifennu creadigol a myfyriol, gwaith llais a modelau (mannequins) 12” i ddarlunio’r cymeriad creadigol unigol. Bydd y gwaith yn cael ei rannu mewn arddangosfa yn Theatr Byd Bychan, Aberteifi ac Oriel VC, Hwlffordd.

Kerry Steed: Mae Kerry yn awdur, perfformiwr ac actor-gerddor o orllewin Cymru. Creda’n gryf fod ysgrifennu creadigol yn arf pwerus ar gyfer newid personol a chymdeithasol, ac mae hynny’n ddylanwad mawr ar ei gwaith. Mae Kerry yn credu fod gan bawb yr hawl i ysgrifennu, a thrwy ei gwaith mae’n annog unigolion, grwpiau a chymunedau i archwilio ac ymgysylltu â’r gair ysgrifenedig. Mae ei gwaith wedi ei gyhoeddi gan Honno. Mae hi wedi creu a chyhoeddi dau gasgliad barddonol /ferbatim gyda’i chymuned leol yn sir Benfro.

Di Ford: Graddiodd Di mewn Cynllunio Theatr yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru. Oddi yno, aeth ar daith greadigol a oedd yn cynnwys cymysgedd o bypedwaith, dylunio set, gwaith cymunedol a darlunio. Mae hi wedi gweithio gyda sefydliadau fel National Theatre Wales fel eu Cydymaith TEAM ac fel Cydlynydd Cymunedol ar gyfer Theatr Protest Fudr. Gan gredu y dylai celf fod yn hygyrch i bawb, mae Di yn gweithio’n agos gyda chymunedau ledled Gorllewin Cymru, i’w hannog a’u cyflwyno i ffyrdd o weithio o fewn theatr a’r celfyddydau. Ar hyn o bryd mae hi’n parhau â’i hangerdd i ysbrydoli creadigrwydd fel Ymarferydd Creadigol ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru.

Dyfyniad:

“Mae creadigrwydd a llenyddiaeth yn rymoedd pwerus. Trwyddynt gallwn archwilio ein synnwyr o’r ‘hunan’, cymryd perchnogaeth o’n hunaniaeth a theimlo bod ein straeon yn cael eu gweld a’u hadlewyrchu yn ôl inni. Rwy’n gobeithio y bydd cyfranogwyr yn dal gafael o ac yn rhyddhau eu llais creadigol, tra hefyd greu cyfeillgarwch ac ymdeimlad o berthyn”.

Nôl i Ein Prosiectau