Estyn yn Ddistaw:
Dydd o Fyfyrio ar Farddoniaeth Rhyfel a Heddwch yng Nghymru
Dydd Mawrth 19 Chwefror 2019
Yn dechrau o 10.30 am
Y Senedd, Bae Caerdydd / CF99 1NA
Wrth i’r digwyddiadau sy’n nodi canmlwyddiant coffa’r Rhyfel Byd Cyntaf ddirwyn i ben, mae Llenyddiaeth Cymru yn eich gwahodd i ymuno mewn diwrnod arbennig o fyfyrio a thrafod ar ryfel a heddwch; gyda darlleniadau a chyflwyniadau gan Aelodau Cynulliad amrywiol, a pherfformiadau, darlithoedd comisiwn a sgyrsiau gan rai o awduron mwyaf Cymru.
Noddir y digwyddiad hwn gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AC, ac fe’i drefnir gan Llenyddiaeth Cymru gyda chefnogaeth gan Raglen Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf Llywodraeth Cymru, Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918.
Bydd Estyn yn Ddistaw yn cynnwys perfformiadau o waith llenyddol gwreiddiol gan: Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru; Gillian Clarke; Alan Llwyd; Eric Ngalle Charles; Nerys Williams; Cywion Cranogwen; disgyblion o Ysgol Calon Cymru, Llanfair ym Muallt; Ysgol Uwchradd Fitzalan, Caerdydd; Aelodau Cynulliad a mwy.
Gweler isod amserlen lawn y diwrnod a disgrifiadau pellach o’r prif elfennau.